- Hwb Ton 3
- Y Project Personol
Mae’r Project Personol yn gymhwyster lle mae dysgwyr yn dewis rhywbeth sydd yn bwysig iddyn nhw ac yn ei ddatblygu'n brosiect strwythuredig.
Gall y project fod yn seiliedig ar ddiddordeb, cwestiwn, her, nod yn y dyfodol, neu rywbeth maen nhw eisiau ei archwilio'n fanylach. Wrth iddynt weithio drwyddo, byddant yn cynllunio eu syniadau, yn cynnal ymchwil, yn creu canlyniad, ac yn myfyrio ar yr hyn maent wedi'i dysgu.
Beth yw e?
Gyda’r Project Personol, gall dysgwyr:
Archwilio rhywbeth sydd yn bwysig iddyn nhw
Datblygu sgiliau defnyddiol ar gyfer ysgol, gwaith, a bywyd
Gweithio'n fwy annibynnol
Creu rhywbeth gwreiddiol a phwerus
Magu hyder wrth iddyn nhw symud ymlaen
Taith y project:
Dewis syniad
Bydd dysgwyr yn dewis pwnc, cwestiwn neu her sy'n ennyn eu diddordeb. Byddant yn gosod nod clir ac yn penderfynu sut olwg fydd ar lwyddiant.
Cynllunio ac ymchwilio
Bydd dysgwyr yn cynllunio eu camau, yn penderfynu pa adnoddau sydd eu hangen arnynt, ac yn casglu gwybodaeth o ffynonellau defnyddiol.
Creu canlyniad
Bydd dysgwyr yn cynhyrchu canlyniad sy'n gysylltiedig â’u project. Gall hyn fod yn ysgrifenedig, digidol, ymarferol neu’n greadigol, yn dibynnu ar eu syniad a’u cynulleidfa.
Adolygu a myfyrio
Bydd dysgwyr yn edrych yn ôl ar yr hyn y maent wedi'i gyflawni, yn egluro'r penderfyniadau y maent wedi'i gwneud, a meddwl am yr hyn maent wedi'i ddysgu.
Beth allai project fod?
Gall project dysgwr gynnwys:
- archwilio i bwnc neu fater
- dylunio neu greu rhywbeth
- creu canlyniad digidol neu greadigol
- archwilio syniad sy'n gysylltiedig â’u cynlluniau yn y dyfodol
Dylai athrawon sicrhau bod syniad y dysgwr yn addas ac yn gallu cael ei reoli.
Sgiliau y bydd dysgwyr yn eu datblygu
Cynllunio a threfnu: Gosod nodau, rheoli eu hamser a chadw eu prosiect ar y trywydd iawn.
Meddwl yn feirniadol a datrys problemau: Ymchwilio, cwestiynu gwybodaeth, nodi patrymau a gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar dystiolaeth.
Creadigrwydd ac arloesedd: Datblygu syniadau, rhoi cynnig ar ddulliau a chynhyrchu canlyniad gwreiddiol.
Effeithiolrwydd personol: Gweithio'n annibynnol, ymateb i adborth a myfyrio ar eu cynnyd
Sut caiff dysgwyr eu hasesu?
Caiff dysgwyr eu hasesu ar draws y project cyfan, nid y canlyniad terfynol yn unig.
Mae hyn yn cynnwys eu cynllunio, eu hymchwil, eu dadansoddi, eu datblygiad o'r canlyniad, a'u myfyrio.
Mae asesu'n digwydd ar adegau allweddol drwy gydol y project, felly mae'n bwysig i gefnogi dysgwyr i aros ar y trywydd iawn a chynnal cofnod clir o’u cynnydd.
Dalier sylw: rhaid i'r holl waith fod yn waith y dysgwr eu hun. Rhaid cwblhau rhai elfennau a asesir o dan oruchwyliaeth, ac ni chaniateir defnyddio AI yn y tasgau hyn.