Bwletin Canolfannau
Croeso i fwletin olaf y flwyddyn academaidd ar gyfer diweddariad cymwysterau, ansawdd a safonau. Rydym yn gobeithio bydd y cynnwys yn ddefnyddiol i chi a’i fod yn eich cefnogi wrth symud ymlaen.
Wrth i ni symud tuag at ddiwedd y flwyddyn academaidd, hoffem ddiolch i chi am gyfraniadau gwerthfawr dros y flwyddyn ddiwethaf. Gan ddymuno seibiant diwedd blwyddyn ymlaciol a phleserus i chi i gyd ac edrychwn ymlaen at weithio gyda chi yn 2024- 2025
%20(600%20x%20400%20px).jpg)
Diweddariad Cymwysterau, Ansawdd a Safonau
Diploma Mynediad i Addysg Uwch (MAU)
Neidio i'r adran
ADBORTH CANOLFANNAU
A fyddai modd i chi ddarparu adborth ar rai o’r gweithgareddau allweddol a gyflawnwyd eleni drwy glicio'r botwm isod.
Mae’r arolwg yn gofyn am adborth am: y broses Adolygiad Blynyddol Canolfannau (CAR), a’ch barn ar sut y gallwn leihau’r baich ar ganolfannau wrth gwblhau hyn; pynciau posibl ar gyfer cymorthfeydd CASS; hyfforddiant penodol a allai fod o fudd i ganolfannau.
Cliciwch y botwm Hyfforddiant a Digwyddiadau am y mathau o hyfforddiant a ddarperir gan Agored Cymru ar hyn o bryd.
Cymwysterau Newydd
Cydymffurfiaeth Reoleiddiol
Mae Diploma Lefel 4 Agored Cymru mewn Cydymffurfiaeth Rheoleiddiol wedi’i anelu at y rhai sy'n cyflawni swyddogaethau gwasanaeth rheoleiddio mewn awdurdodau lleol, megis mewn Iechyd yr Amgylchedd, Safonau Masnach a Thrwyddedau, ond mae hefyd yn berthnasol i’r rhai sy’n gweithio mewn ystod o sectorau asiantaethau cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector. Mewn rhai achosion, gall y cymhwyster hwn ddarparu llwybr rhagarweiniol i’r cymwysterau statudol a gynigir gan y cyrff proffesiynol perthnasol, er enghraifft, CTSI, CIEH.
Mae’r cymhwyster yn helpu datblygu dealltwriaeth o egwyddorion cydymffurfio, rheoleiddio a gorfodaeth busnes, ynghyd â hanfodion asesu risg ag ymchwilio. Bydd y dysgwr yn datblygu cymhwysedd mewn:
- asesu pa mor dda y mae busnes yn bodloni gofynion y gyfraith
- cefnogi busnesau i gydymffurfio gyda rheoliadau neu safonau perthnasol eraill gan gynnwys darparu gwybodaeth, arweiniad a chyngor i fusnesau ar sut i gydymffurfio gyda deddfwriaeth neu fodloni gofynion archwilio yn eu sectorau
- casglu a dadansoddi data busnes i helpu i wneud barn wybodus
- cynnal asesiadau risg ac amlygu peryglon a allai arwain at ddiffyg cydymffurfio gan y busnes
- cyfathrebu priodol ac ymddygiadau eraill
- adrodd ar weithgareddau cydymffurfio
- cefnogi gwelliant parhaus
Mae’r cymhwyster hwn wedi’i anelu at ddysgwyr dros 16 oed.
Mae’r cymwysterau canlynol yn cael eu hadolygu. Cysylltir yn awtomatig â’r canolfannau sydd â’r cymwysterau ar eu fframwaith i gymryd rhan yn yr adolygiad. Os hoffai eich canolfan gael ei chynnwys yn yr ymgynghoriad cysylltwch â'r Tîm Datyblygu Cynnyrch.

Cliciwch ar y Teitl Cymhwyster i weld y cymhwyster ar ein gwefan...
Teitl Cymhwyster: |
Côd |
Agored Cymru Diploma Lefel 3 yn Rhaglen Cadetiaid y Coleg Nyrsio Brenhinol |
C00/3674/8 |
Agored Cymru Dyfarniad Lefel Mynediad mewn Iaith Arwyddion Prydain (Mynediad 3) |
C00/0552/0 |
C00/0706/9 |
|
C00/0706/8 |
|
C00/0706/7 |
|
C00/0707/0 |
|
Agored Cymru Diploma Lefel 3 mewn Cymorth Delweddu Clinigol (Cymru) |
C00/3964/3 |
Agored Cymru Lefel 4 Diploma ar gyfer Ymarferwyr Cynorthwyo Therapi |
C00/3964/6 |
Agored Cymru Diploma Lefel 7 mewn Rheoli Mân Anafiadau yn Annibynnol (Cymru) |
|
Agored Cymru Tystysgrif Lefel 3 ar gyfer Ymarferwyr Sgiliau Hanfodol (Llythrennedd) |
C00/3979/6 |
Agored Cymru Tystysgrif Lefel 3 ar gyfer Ymarferwyr Sgiliau Hanfodol (Rhifedd) |
C00/3979/7 |
C00/4505/7 |
Cymwysterau |
Dyddiad adolygu wedi’i ymestyn tan |
Agored Cymru Dyfarniad Lefel 3 mewn Asesu Cymhwysedd yn yr Amgylchedd Gwaith |
31/07/2026 |
Agored Cymru Dyfarniad Lefel 3 mewn Asesu Cyrhaeddiad sy'n gysylltiedig â Galwedigaeth |
31/07/2026 |
Agored Cymru Dyfarniad Lefel 3 mewn Deall Egwyddorion ac Arferion Asesu |
31/07/2026 |
Agored Cymru Tystysgrif Lefel 3 mewn Asesu Cyrhaeddiad Galwedigaethol |
31/07/2026 |
Agored Cymru Dyfarniad Lefel 4 mewn Sicrhau Ansawdd Prosesau ac Arferion Asesu yn Fewnol |
31/07/2026 |
31/07/2026 |
|
31/07/2026 |
|
Agored Cymru Dyfarniad Lefel 3 mewn Addysg Grefyddol: Tyfu mewn Rhinwedd a Llythrennedd Crefyddol |
31/07/2029 |
31/07/2029 |
|
31/08/2027 |

🚫 Bydd y cymhwyster Agored Cymru Dyfarniad Lefel Mynediad mewn Cymraeg Iaith Meithrin ar gyfer Ymarferwyr Blynyddoedd Cynnar (C00/0701/3) yn dod i ben ar 31/08/2024
🚫 Mae’r cymhwysterau Lefel 2 Gwybodeg Iechyd yn cael eu tynnu’n ôl ar 30/09/2024
🚫 Agored Cymru Dyfarniad Lefel 2 mewn Gwybodeg Iechyd (C00/0595/0)🚫 Agored Cymru Tystysgrif Lefel 2 mewn Gwybodeg Iechyd (C00/0595/1)
🚫 Agored Cymru Tystysgrif Estynedig Lefel 2 mewn Gwybodeg Iechyd (C00/0603/1)
🚫 Bydd y cymhwyster Agored Cymru Tystysgrif Lefel 3 mewn Cyfryngu (C00/3991/1) yn dod i ben ar 30/09/2024.
DYDDIADAU ALLWEDDOL

Cymhwyster |
Dyddiad cofrestru diwethaf |
Dyddiad olaf ar gyfer hawliadau |
Dyfarniad Lefel Mynediad mewn Cymraeg Iaith Meithrin ar gyfer Ymarferwyr Blynyddoedd Cynnar |
31/08/2024 |
15/07/2025 |
Dyfarniad Lefel 2 Gwybodeg Iechyd |
30/09/2024 |
16/08/2025 |
Tytysgrif a Tystysgrif Estynedig Gwybodeg Iechyd |
30/09/2024 |
14/08/2026 |
Tystysgrif Lefel 3 mewn Cyfryngu |
30/09/2024 |
15/08/2026 |
Byddwn yn cynnwys pob un o’n canolfannau sy’n cynnig cymwysterau ac achrediad yn y maes hwn i sicrhau bod unrhyw ddatblygiadau o ansawdd uchel gyda’r nod o baratoi ein dysgwyr ar gyfer dilyniant o fewn a thu allan i’r byd addysg.

Fel rhan o’r paratoad hwn, mae Dyddiad Dechrau Dynodi/Cymeradwyo Hwyraf Sydd y Mwyaf Tebygol (TDAFSD) ein cymwysterau Ysgolion cyn 16 presennol wedi’i gyfyngu i ganiatáu ar gyfer trosglwyddo i’r cymwysterau newydd. Bydd TDAFSD o 31/10/26 yn sicrhau y gellir cyflwyno’r cymwysterau yn y flwyddyn academaidd 2026/27.
TDAFSD cyfredol ar gyfer cymwysterau 14-16
Cymhwyster |
TDAFSD cyfredol |
Addysg Bersonol a Chymdeithasol |
31/10/2026 |
Addysg Gysylltiedig â Gwaith |
31/10/2026 |
Cymru Ewrop a’r Byd |
31/10/2026 |
Dysgu yn yr Awyr Agored Lefel 2 |
31/10/2026 |
Dysgu yn yr Awyr Agored Lefel 1 |
31/10/2024 (caiff hyn ei ymestyn i 31/10/2026)* |
Archwilio Bydolygon |
31/10/2026 |
* Yn amodol ar adolygiad llwyddiannus
Cyflwyniad i Asesu
Sesiwn ryngweithiol dwy awr a hanner o hyd yw hwn sydd wedi’i chynllunio fel cyflwyniad i egwyddorion ac arferion asesu o ansawdd uchel. Bydd angen i chi gwblhau gweithgaredd cyn-cwrs byr a fydd yn eich helpu i baratoi ar gyfer y sesiwn.
Ar ddiwedd y sesiwn, bydd mynychwyr yn:
☑️ deall egwyddorion sylfaenol asesu;
☑️ deall beth yw asesu, lefelau o asesu a’r mathau o ddulliau asesu; a
☑️ meddu ar y sgiliau i asesu unedau a chymwysterau Agored Cymru yn effeithiol.
Cyflwyniad i Sicrhau Ansawdd Mewnol
Sesiwn ryngweithiol dwy awr a hanner o hyd yw hwn sydd wedi’i chynllunio fel cyflwyniad i egwyddorion ac arferion sicrhau ansawdd mewnol. Bydd angen i chi gwblhau gweithgaredd cyn-cwrs byr a fydd yn eich helpu i baratoi ar gyfer y sesiwn.
Ar ddiwedd y sesiwn, bydd mynychwyr yn:
☑️ deall egwyddorion sylfaenol sicrhau ansawdd mewnol;
☑️ deall rôl y swyddog sicrhau ansawdd mewnol;
☑️ dysgu sut i gofnodi canlyniadau sicrhau ansawdd mewnol; a
☑️ meddu ar y sgiliau i sicrhau ansawdd mewnol unedau a chymwysterau Agored Cymru yn effeithiol.
DIGWYDDIADAU HYFFORDDI

Cyflwyniad i Asesu
- Ar-lein - 10 Mehefin 2024
- 10:00yb – 12:30yp

Cyflwyniad i Asesu
- Ar-lein - 17 Mehefin 2024
- 13:30yp – 16:00yp

Cyflwyniad i Sicrhau Ansawdd Mewnol
- Ar-lein - 27 Mehefin 2024
- 10:00yb – 12:30yp

Cyflwyniad i Asesu
- Ar-lein - 11 Gorffennaf 2024
- 10:00yb – 12:30yp

Cyflwyniad i Asesu
- Ar-lein - 22 Gorffennaf 2024
- 10:00yb – 12:30yp

Cyflwyniad i Sicrhau Ansawdd Mewnol
- Ar-lein - 30 Gorffennaf 2024
- 13:30yp – 16:00yp

Cyflwyniad i Asesu
- Ar-lein - 13 Awst 2024
- 10:00yb – 12:30yp

Cyflwyniad i Sicrhau Ansawdd Mewnol
- Ar-lein - 27 Awst 2024
- 10:00yb – 12:30yp
Mae’n ofyniad gorfodol bod cynrychiolydd priodol o ganolfan yn mynychu digwyddiad safoni Agored Cymru o leiaf bob 2 flynedd.
Mae digwyddiadau safoni wedi’u hanelu at:
• Rheolwyr Ansawdd
• Staff Sicrhau Ansawdd Mewnol (IQA)
• Staff sydd â chyfrifoldeb allweddol o fewn polisi ac arfer sicrhau ansawdd y ganolfan.
Mae’r digwyddiadau yn canolbwyntio ar arfer gorau prosesau sicrhau ansawdd a’u nod yw hyrwyddo cysondeb yn y safonau asesu a sicrhau ansawdd.
Mae’n rhaid i fynychwyr gymryd rhan weithredol mewn Sicrhau Ansawdd Mewnol neu fod wedi mynychu hyfforddiant ‘Cyflwyniad i Sicrhau Ansawdd Mewnol’ Agored Cymru. Bydd angen iddynt hefyd allu rhannu gwybodaeth a gweithredu arfer da o fewn eu sefydliad eu hunain.
Digwyddiad Safoni |
Dyddiad |
Amser |
Safoni – Cyffredinol (pob lefel) |
14/6/2024 |
10:00am – 13:00pm |
Safoni – Cyffredinol (pob lefel) |
8/7/2024 |
13:00pm – 16:00pm |
Safoni – Cyffredinol (pob lefel) |
24/9/ 2024 |
10:00am – 13:00pm |
Safoni – Cyffredinol (pob lefel) |
22/10/2024 |
13:30pm – 16:30pm |
Safoni – Cyffredinol (pob lefel) |
7/11/2024 |
09:30am – 12:30pm |
Cymorthfeydd CASS
Mae cymorthfeydd CASS yn rhoi cyfleoedd i ganolfannau ofyn cwestiynau neu wneud ymholiadau am strategaeth CASS Agored Cymru.
Drwy gwblhau’r arolwg byr hwn, gallwch awgrymu pynciau i’w cynnwys yn y cymorthfeydd hyn.
Er enghraifft:
- Deall pwysigrwydd pwyntiau gwirio Cymwysterau Galwedigaethol a Thechnegol
- Tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant
- Dylunio asesu arloesol
- Addasiadau rhesymol
- Deallusrwydd Artiffisial

Cymhorthfa CASS |
Dyddiad |
Amser |
Bodloni gofynion canolfannau |
25/6/2024 |
15:00pm -16:00pm |
Bydd cymorthfeydd CASS pellach yn cael eu hychwanegu at yr amserlen ar gyfer 2024-2025 felly ewch i’r dudalen we Hyfforddiant a Digwyddiadau i gael y wybodaeth ddiweddaraf.
Mae nifer o weithgareddau cymedroli ar draws canolfannau i’w cynnal o hyd wrth i’r flwyddyn academaidd ddod i ben. Mae’r rhain ar gyfer:
Cymhwyster |
Math o Ganolfan |
Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno tystiolaeth (canol dydd) |
Dyddiad y panel i randdeiliaid |
Craidd Dysgu* |
Pob canolfan |
6/6/2024 |
9/7/2024 |
Cymwysterau Gofal Iechyd |
Pob canolfan |
25/7/2024 |
22/8/2024 |
Rydym eisoes wedi dechrau cynllunio’r gweithgareddau cymedroli ar draws canolfannau ar gyfer 2024-2025. Mae’r un cyntaf y gallwn ei gadarnhau wedi’i nodi isod (bydd eraill yn cael eu hamserlennu ar ôl eu cadarnhau)
Cymhwyster |
Math o Ganolfan |
Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno tystiolaeth (canol dydd) |
Dyddiad y panel i randdeiliaid |
Amrywiol |
Carchardai |
5/9/2024 |
1/10/2024 |
Bydd yn ofynnol i ganolfannau newydd nad ydynt wedi bod yn rhan o weithgarwch sicrhau ansawdd allanol (EQA) o’r blaen ymgymryd â gweithgaredd EQA unigol yn hytrach na chymedroli ar draws canolfannau, fel y gallwn gynnig cymorth ac arweiniad uniongyrchol ar gyflwyno, asesu a sicrhau ansawdd mewnol. Os nad ydych yn sicr os yw hyn yn effeithio arnoch chi, cysylltwch â sicrhau.ansawdd@agored.cymru am fwy o wybodaeth
Yn dilyn pob gweithgaredd cymedroli ar draws canolfannau, byddwn yn gwahodd canolfannau sydd wedi cymryd rhan i banel i randdeiliaid, sy’n gyfle da i ganolfannau drafod canlyniadau’r gweithgaredd, yn ogystal â chyfarfod a rhwydweithio â chanolfannau eraill sy’n cyflwyno’r un cymhwyster/cymwysterau. Gall canolfannau archebu eu lleoedd yma
*Craidd Dysgu
Mae Cymwysterau’r Craidd Dysgu yn cynnwys: Addysg Bersonol a Chymdeithasol; Addysg Gysylltiedig â Gwaith; Dysgu yn yr Awyr Agored; Cymru, Ewrop a’r Byd; ac Archwilio Bydolygon.
Efallai bod rhai canolfannau wedi cymryd rhan yng ngweithgareddau Cymedroli ar Draws Canolfannau eraill y Craidd Dysgu a gynhaliwyd eisoes yn ystod y flwyddyn academaidd hon, felly efallai na fydd angen iddynt gymryd rhan yn y gweithgaredd hwn a drefnwyd. Os nad ydych yn sicr os yw hyn yn effeithio arnoch chi, cysylltwch â sicrhau.ansawdd@agored.cymru am fwy o wybodaeth.
Cymedroli ar draws canolfannau’r Craidd Dysgu - dyfarnu credyd
Ar gyfer pob cymhwyster rydych yn bwriadu gwneud cais amdano yn haf 2024 (e.e. Addysg Bersonol a Chymdeithasol, Addysg Gysylltiedig â Gwaith), rhaid eich bod wedi darparu sampl ar gyfer cymedroli ar draws canolfannau (neu ar gyfer gweithgaredd EQA arall), er mwyn i ni allu gwneud penderfyniad ynghylch dyfarnu credyd.
Os cyflwynir hawliad am gymhwyster nad yw wedi’i samplu yn y cyfnod 2023-24, ni allwn ddyfarnu credydau nes bod gweithgaredd EQA, megis cymedroli ar draws canolfannau, wedi’i gwblhau’n llwyddiannus.
Cysylltwch â sicrhau.ansawdd@agored.cymru os hoffech drafod unrhyw beth ymhellach.
Rydym wedi ymrwymo’n llwyr i driniaeth gyfartal ar gyfer dysgwyr Cymwysterau Galwedigaethol a Thechnegol (VTQs) a lle bynnag y bo modd, mae Agored Cymru yn cyhoeddi canlyniadau cyn canlyniadau Cymwysterau Cyffredinol (GQ) fel nad yw’r hyblygrwydd, sy’n agwedd werthfawr o VTQs, yn cael eu tanseilio.
Sylwch na fydd hawliadau’n cael eu cymeradwyo nes bod gweithgareddau EQA llwyddiannus wedi’u cynnal h.y. lle mae credyd wedi’i gymeradwyo gan swyddog sicrhau ansawdd allanol ar ôl craffu ar dystiolaeth.
Dylid cyflwyno hawliadau ar gyfer dysgwyr sydd angen ardystiad ar gyfer symud ymlaen i Addysg bellach ac Addysg Uwch erbyn 14 Mehefin 2024. Mae hyn yn cyd-fynd â’r gweithgaredd safoni ar draws canolfannau a fydd yn digwydd bryd hynny. Er na fyddwch yn gwybod canlyniad y gweithgaredd hwnnw, mae’n rhaid i chi gyflwyno’ch hawliadau erbyn y dyddiad cau o hyd. Sylwch nad oes angen i chi aros tan 14 Mehefin 2024 i hawlio am dystysgrif dysgwr os yw gweithgaredd EQA llwyddiannus eisoes wedi digwydd.
Mae’n bwysig bod canolfannau yn cyflwyno hawliadau erbyn y dyddiadau cau penodol er mwyn galluogi Agored Cymru i gyhoeddi canlyniadau yn amserol.
Dylai canolfannau nodi, pryd bynnag y cyflwynir hawliad(au) i Agored Cymru, rhaid i’r holl dystiolaeth asesu y gofynnir amdani a’r ddogfennaeth/gwybodaeth gysylltiedig fod ar gael yn rhwydd ar gyfer unrhyw weithgaredd EQA posibl. Os oes angen gweithgaredd EQA, ond nad yw’r ganolfan yn gallu darparu’r dystiolaeth y gofynnwyd amdani, mae’r EQA yn cadw’r hawl i derfynu’r gweithgaredd sicrhau ansawdd allanol ac efallai codir tâl ar y ganolfan. Gall unrhyw hawliad(au) cysylltiedig gael eu gwrthod.
Rydym wedi diweddaru Canllaw i Asesu Agored Cymru; bydd hwn ar gael yn fuan i ganolfannau ar yr adran Asesu ar wefan Agored Cymru. Mae templedi dogfennau cliriach wedi’u cynnwys, ynghyd â phwyslais ar asesiad ‘mynediad teg drwy ddyluniad’ sy’n rhoi’r ‘cyfleoedd tecaf posibl i bob dysgwr i ddangos yr hyn y maent yn ei wybod, yn ei ddeall ac yn gallu ei wneud’.
Rydym yn ddiweddar wedi diweddaru’r Polisi a Gweithdrefn Addasiadau Rhesymol i’r Broses Asesu. Ar gael bellach ar ein gwefan, byddwch yn nodi rhai gwelliannau i’r weithdrefn a manylion ynghylch awdurdodi a chymeradwyaeth canolfannau. Mae ffurflenni RA1 a RA2 ar wahân wedi’u cynnwys ar dudalen we Gofynion a Chyfrifoldebau’r Ganolfan.
Rydym hefyd wedi diweddaru’r Polisi Cofrestru ac Ardystio i sicrhau bod gwybodaeth ynghylch Cymwysterau Galwedigaethol a Thechnegol (VTQs) wedi’i gynnwys. Mae hwn bellach ar gael ar y wefan i’n holl ganolfannau.

Fel y dywedwyd yn flaenorol, rydym bellach wedi ailgyflwyno e-byst sy’n ymwneud â’r Cynllun Gweithredu Canolfan (CAP). Bydd y rhain yn ymddangos yn eich mewnflwch os oes person a enwir neu gam gweithredu wedi’i neilltuo i’ch CAP. Rhaid cydnabod y CAP (gan ychwanegu person a enwir a cham gweithredu) o fewn 10 diwrnod gwaith o dderbyn adroddiad EQA, felly sylwer bod yr e-byst atgoffa yn dechrau cael eu hanfon ar yr 11eg diwrnod ac yna bob 5 diwrnod wedi hynny. Bydd canllaw canolfan i reoli camau gweithredu CAP yn cael ei gyhoeddi yn fuan.
Hefyd yn dod yn fuan, bydd gan ganolfannau’r cyfleuster i uwchlwytho CVs a thystysgrifau/DPP tra bod cymwysterau’n cael eu cyflwyno drwy’r system we. Ar hyn o bryd rydym yn datblygu proses electronig a fydd yn galluogi hyn. Mae’r broses yn cael ei datblygu hefyd i gefnogi’r ffordd y mae canolfannau’n cyfleu newidiadau i staff.
Byddwn yn parhau i wrando ar ganolfannau wrth inni geisio gwella prosesau a gweithdrefnau fel y gallwn leihau’r baich ar ganolfannau.
Mae trefniadau gyda phob canolfan ar gyfer cymedroli allanol crynodol wedi’u cadarnhau gan Arweinwyr Cymedroli Allanol (LEMs). Mae mwyafrif y gweithgareddau cymedroli pwnc wedi’u cwblhau gyda nifer fechan heb eu cwblhau. Rhaid i’r prosesau cymedroli allanol a gynlluniwyd ar gyfer pob canolfan MAU fod wedi’u cwblhau cyn y Byrddau Dyfarniadau Terfynol (FABs) sydd wedi eu trefnu rhwng 24 Mehefin a 5 Gorffennaf.
- Cynnal cyfarfodydd cyn-FAB o leiaf pum diwrnod gwaith cyn y FAB i ddilysu canlyniadau pob dysgwr.
- Cwblhau templed adroddiad cyn-FAB, gan gynnwys y datganiad yn cadarnhau fod yr holl wybodaeth a gyflwynwyd ynghylch canlyniadau dysgwyr wedi’i ddilysu ac yn gywir.
- Mynd i’r afael ag unrhyw achosion arbennig a dod i benderfyniad arnynt (yn cynnwys unrhyw gyfeiriadau amgylchiadau eithriadol heb eu cwblhau (gan gynnwys unrhyw hawliadau heb eu cwblhau am ddyfarniad drwy amgylchiadau eithriadol), graddau aegrotat a graddau ar ôl marwolaeth, achosion o gamymddwyn academaidd ac apeliadau mewn unrhyw flwyddyn). Mae’n ofynnol i ganolfannau gyflwyno pob achos arbennig i Gadeirydd y FAB.
- Rhaid i ganolfannau gwblhau FABSC1 ar gyfer pob dysgwr sy’n parhau wedi eu dyddiad gorffen arfaethedig.
- Uwchlwytho templed adroddiad cyn-FAB wedi’i gwblhau drwy drosglwyddiad ffeil yn ddiogel o leiaf pum diwrnod gwaith cyn y FAB ynghyd ag unrhyw ddogfennaeth a gwblhawyd ar gyfer achosion arbennig.
- Dilysu a chyflwyno holl Gofnodion Canlyniadau Uniongyrchol (DER) bum diwrnod gwaith cyn y FAB er mwyn hwyluso’r gwaith o baratoi dogfennaeth ac i fynd i’r afael ag unrhyw afreoleidd-dra. Unwaith mae canlyniadau wedi eu cyflwyno, ni fydd canolfannau yn gallu gwneud unrhyw newidiadau pellach.

Fel Asiantaeth Dilysu Mynediad (AVA), mae gan Agored Cymru gyswllt corff dyfarnu (ABL) gyda UCAS. Darperir yr holl ganlyniadau MAU, gan gynnwys data credydau a graddau, i UCAS. Yna bydd y data hwn ar gael i ddarparwyr addysg uwch i lywio derbyniadau. Fel rhan o’r cytundeb sy’n gysylltiedig ag ABL, rhaid i Agored Cymru weithio o fewn terfynau amser UCAS mewn perthynas â dyfarniadau ac ardystiadau.
Cyswllt Corff Dyfarnu (ABL) gyda UCAS - terfyn amser canlyniadau a dyfarniadau | |
23/7/2024 |
Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno canlyniadau MAU i UCAS |
O 23/7/20241 |
E-ardystio |
26/7/2024 |
Canlyniadau ar gael i Ddarparwyr |
04/10/2024 |
Dyddiad cau enwol i ymgeiswyr fodloni amodau’r cynnig academaidd |
1 Bydd e-dystysgrifau MAU yn cael eu prosesu drwy’r platfform Veri o 23 Gorffennaf 2024. Bydd dysgwyr yn derbyn e-bost i’r cyfeiriad a gafodd ei gynnwys yn eu cofrestriad pan fydd eu tystysgrif ar gael.
Newidiadau i gynllun graddio’r Diploma MAU
Atgoffir canolfannau fod yn rhaid i bob dysgwr sydd wedi cofrestru ar Ddiploma MAU ar ôl 1 Awst 2024 gael ei asesu yn unol â gofynion y cynllun graddio diwygiedig.
Yn dilyn y gweithgareddau profi a gynhaliwyd ar draws canolfannau yn gynharach yn 2024, bydd Agored Cymru yn cyhoeddi canllawiau a rhai asesiadau enghreifftiol ar gyfer gwahanol feysydd pwnc ym mis Mehefin 2024. Bydd enghreifftiau ar gael at ddefnydd cyffredinol canolfannau o fis Medi 24. Er, i ddechrau, bydd yr adnodd hwn yn gyfyngedig, ychwanegir enghreifftiau pellach wrth i ganolfannau ddechrau cymhwyso’r safonau graddio newydd a datblygu deunyddiau asesu newydd.
Mae QAA wedi cyhoeddi dogfennaeth, gan gynnwys y fanyleb Diploma newydd a llawlyfr y cynllun graddio. Hefyd mae QAA wedi cyhoeddi rhai Cwestiynau Cyffredin defnyddiol. Mae hyn i gyd ar gael ar wefan QAA
Gofynion a chyfrifoldebau’r ganolfan
Un o’r pethau y mae’n rhaid i ganolfannau ei wneud yw cofrestru dysgwyr o fewn terfynau amser penodol. Y terfynau amser hyn yw:
✅ Mynediad i Addysg Uwch: Cofrestru 60 credyd dysgwyr ar y diploma MAU o fewn 42 diwrnod o ddyddiad cychwyn y cwrs.
✅ Cymwysterau Cymru/Ofqual/ QALL: Cofrestru pob dysgwr o fewn 25 diwrnod gwaith o ddyddiad cychwyn y cwrs (cyrsiau byr hyd at a chan gynnwys 15 wythnos o hyd).
✅ Cymwysterau Cymru/Ofqual/ QALL: Cofrestru pob dysgwr o fewn 40 diwrnod gwaith o ddyddiad cychwyn y cwrs (cyrsiau hirach am fwy na 15 wythnos o hyd).
Rydym yn disgwyl i ganolfannau fodloni’r gofynion eraill hyn:
☑️ Cyflwyno hawliadau o fewn 6 mis i ddyddiad gorffen y cwrs.
☑️ Mynychu digwyddiad safoni o leiaf unwaith bob dwy flynedd.
☑️ Cydnabod Cynllun Gweithredu’r Ganolfan (CAP) o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl derbyn adroddiad EQA.
☑️ Mynd i’r afael â’r holl gamau gweithredu gofynnol o fewn y CAP erbyn y terfynau amser a gyhoeddwyd.
☑️ Talu pob anfoneb o fewn yr amserlen benodol.
Ewch i dudalen we Gofynion a Chyfrifoldebau’r Ganolfan i gael y diweddariadau a’r newidiadau diweddaraf.
Sianeli cyfathrebu
Ar gyfer ymholiadau ynghylch asesu, sicrhau ansawdd a dyfarnu pob cymhwyster/uned ac eithrio MAU.
Ar gyfer ymholiadau ynghylch cyflwyno, cymedroli a dyfarnu cymwysterau/unedau MAU.
Ar gyfer ymholiadau ynghylch gweinyddiaeth a sut i gofrestru dysgwyr a chyflwyno hawliadau.
Ar gyfer ymholiadau ynghylch a nodi a datblygu cyfleoedd cwricwlwm newydd a phresennol.
Ar gyfer ymholiadau ynghylch cynnwys, adolygu a datblygu cymwysterau/unedau.