Mehefin 2024

Bwletin Canolfannau

Croeso i fwletin olaf y flwyddyn academaidd ar gyfer diweddariad cymwysterau, ansawdd a safonau. Rydym yn gobeithio bydd y cynnwys yn ddefnyddiol i chi a’i fod yn eich cefnogi wrth symud ymlaen.

Wrth i ni symud tuag at ddiwedd y flwyddyn academaidd, hoffem ddiolch i chi am gyfraniadau gwerthfawr dros y flwyddyn ddiwethaf. Gan ddymuno seibiant diwedd blwyddyn ymlaciol a phleserus i chi i gyd ac edrychwn ymlaen at weithio gyda chi yn 2024- 2025

 

Centre Bulletin (2000 x 650 px) (600 x 400 px)
Barod i ddysgu

Diweddariad Cymwysterau, Ansawdd a Safonau

Beth hoffech chi wybod?

Diploma Mynediad i Addysg Uwch (MAU)

Neidio i'r adran

Cysylltwch â ni!

ADBORTH CANOLFANNAU

A fyddai modd i chi ddarparu adborth ar rai o’r gweithgareddau allweddol a gyflawnwyd eleni drwy glicio'r botwm isod.

Mae’r arolwg yn gofyn am adborth am: y broses Adolygiad Blynyddol Canolfannau (CAR), a’ch barn ar sut y gallwn leihau’r baich ar ganolfannau wrth gwblhau hyn; pynciau posibl ar gyfer cymorthfeydd CASS; hyfforddiant penodol a allai fod o fudd i ganolfannau.

Cliciwch y botwm Hyfforddiant a Digwyddiadau am y mathau o hyfforddiant a ddarperir gan Agored Cymru ar hyn o bryd. 

Cymwysterau Newydd

Cydymffurfiaeth Reoleiddiol

Mae Diploma Lefel 4 Agored Cymru mewn Cydymffurfiaeth Rheoleiddiol wedi’i anelu at y rhai sy'n cyflawni swyddogaethau gwasanaeth rheoleiddio mewn awdurdodau lleol, megis mewn Iechyd yr Amgylchedd, Safonau Masnach a Thrwyddedau, ond mae hefyd yn berthnasol i’r rhai sy’n gweithio mewn ystod o sectorau asiantaethau cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector.  Mewn rhai achosion, gall y cymhwyster hwn ddarparu llwybr rhagarweiniol i’r cymwysterau statudol a gynigir gan y cyrff proffesiynol perthnasol, er enghraifft, CTSI, CIEH. 

Mae’r cymhwyster yn helpu datblygu dealltwriaeth o egwyddorion cydymffurfio, rheoleiddio a gorfodaeth busnes, ynghyd â hanfodion asesu risg ag ymchwilio.  Bydd y dysgwr yn datblygu cymhwysedd mewn:

  • asesu pa mor dda y mae busnes yn bodloni gofynion y gyfraith
  • cefnogi busnesau i gydymffurfio gyda rheoliadau neu safonau perthnasol eraill gan gynnwys darparu gwybodaeth, arweiniad a chyngor i fusnesau ar sut i gydymffurfio gyda deddfwriaeth neu fodloni gofynion archwilio yn eu sectorau
  • casglu a dadansoddi data busnes i helpu i wneud barn wybodus
  • cynnal asesiadau risg ac amlygu peryglon a allai arwain at ddiffyg cydymffurfio gan y busnes
  • cyfathrebu priodol ac ymddygiadau eraill
  • adrodd ar weithgareddau cydymffurfio
  • cefnogi gwelliant parhaus

Mae’r cymhwyster hwn wedi’i anelu at ddysgwyr dros 16 oed.

free-photo-of-wood-writing-typography-tiles

Agored Cymru Diploma Lefel 4 mewn Cydymffurfiaeth Reoleiddiol (C00/4997/7)

Cymwysterau dan adolygiad

Mae’r cymwysterau canlynol yn cael eu hadolygu. Cysylltir yn awtomatig â’r canolfannau sydd â’r cymwysterau ar eu fframwaith i gymryd rhan yn yr adolygiad. Os hoffai eich canolfan gael ei chynnwys yn yr ymgynghoriad cysylltwch â'r Tîm Datyblygu Cynnyrch.


review

Adolygu Cyflawniadau

Mae’r adolygiad o’r cymwysterau canlynol bellach wedi’i gwblhau. 
Bydd y canlyniadau yn cael eu rhannu maes o law.

Teitl Cymhwyster:

Côd

Agored Cymru Diploma Lefel 3 mewn Busnes a Rheolaeth ar gyfer Myfyrwyr Rhyngwladol

C00/4283/0

Agored Cymru Dyfarniad Lefel 3 mewn Addysg a Hyfforddiant

C00/0616/8

Agored Cymru Tystysgrif Lefel 4 mewn Addysg a Hyfforddiant

C00/0617/1

Agored Cymru Tystysgrif Lefel 3 mewn Dysgu a Datblygu

C00/0620/8

Agored Cymru Dyfarniad Lefel 4 mewn Dysgu a Datblygu

C00/0621/0

Agored Cymru Dyfarniad Lefel 1 ar gyfer Cynrychiolwyr Iechyd a Diogelwch Undebau Llafur

C00/3924/9

Agored Cymru Tystysgrif Lefel 1 ar gyfer Cynrychiolwyr Iechyd a Diogelwch Undebau Llafur

C00/3925/0

Agored Cymru Dyfarniad Lefel 1 ar gyfer Cynrychiolwyr Undebau Llafur

C00/3924/7

Agored Cymru Tystysgrif Lefel 1 ar gyfer Cynrychiolwyr Undebau Llafur

C00/3924/8

Agored Cymru Dyfarniad Lefel 2 mewn Sgiliau ar gyfer Astudiaethau Pellach

C00/3917/1

Agored Cymru Tystysgrif Lefel 2 mewn Sgiliau ar gyfer Astudiaethau Pellach

C00/3917/2

Agored Cymru Diploma Lefel 2 mewn Sgiliau ar gyfer Astudiaethau Pellach

C00/3917/3

Agored Cymru Dyfarniad Lefel 3 mewn Arsylwi ar Ymarfer Dysgu

C00/0683/7

Agored Cymru Tystysgrif Lefel 2 mewn Gwaith Chwarae: Rhoi Egwyddorion ar Waith

C00/3964/1

Agored Cymru Diploma Lefel 3 mewn Gwaith Chwarae: Rhoi Egwyddorion ar Waith

C00/3965/2

Agored Cymru Dyfarniad Lefel 1 mewn Cyflwyniad i Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Oedolion a Phlant a Phobl Ifanc), Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant - Cymru a Gogledd Iwerddon

C00/0632/0

Agored Cymru Tystysgrif Lefel 1 mewn Cyflwyniad i Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Oedolion a Phlant a Phobl Ifanc), Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant - Cymru a Gogledd Iwerddon

C00/0632/1

Agored Cymru Diploma Lefel 1 mewn Cyflwyniad i Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Oedolion a Phlant a Phobl Ifanc), Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant - Cymru a Gogledd Iwerddon

C00/0632/X

Agored Cymru Dyfarniad Lefel 1 mewn Dysgu yn yr Awyr Agored

C00/3919/2

Agored Cymru Dyfarniad Estynedig Lefel 1 mewn Dysgu yn yr Awyr Agored

C00/3919/5

Agored Cymru Tystysgrif Lefel 1 mewn Dysgu yn yr Awyr Agored

C00/3919/6

Agored Cymru Tystysgrif Estynedig Lefel 1 mewn Dysgu yn yr Awyr Agored

C00/3919/7

Agored Cymru Lefel 6 Tystysgrif mewn Cyflwyniad i Golonograffeg CT

 

 

Cymwysterau sydd wedi’u hymestyn

Mae’r dyddiadau adolygu ar gyfer y cymwysterau canlynol wedi’u hymestyn fel y dangosir isod.

Cymwysterau sydd wedi’u tynnu’n ôl


🚫 Bydd y cymhwyster Agored Cymru Dyfarniad Lefel Mynediad mewn Cymraeg Iaith Meithrin ar gyfer Ymarferwyr Blynyddoedd Cynnar (C00/0701/3) yn dod i ben ar 31/08/2024

🚫 Mae’r cymhwysterau Lefel 2 Gwybodeg Iechyd yn cael eu tynnu’n ôl ar 30/09/2024

          🚫 Agored Cymru Dyfarniad Lefel 2 mewn Gwybodeg Iechyd (C00/0595/0)
          🚫 Agored Cymru Tystysgrif Lefel 2 mewn Gwybodeg Iechyd (C00/0595/1)
          🚫 Agored Cymru Tystysgrif Estynedig Lefel 2 mewn Gwybodeg Iechyd (C00/0603/1)

🚫 Bydd y cymhwyster Agored Cymru Tystysgrif Lefel 3 mewn Cyfryngu (C00/3991/1) yn dod i ben ar 30/09/2024.


DYDDIADAU ALLWEDDOL

calendar-1859369_1280

Cymhwyster

Dyddiad cofrestru diwethaf

Dyddiad olaf ar gyfer hawliadau

Dyfarniad Lefel Mynediad mewn Cymraeg Iaith Meithrin ar gyfer Ymarferwyr Blynyddoedd Cynnar

31/08/2024

15/07/2025

Dyfarniad Lefel 2 Gwybodeg Iechyd

30/09/2024

16/08/2025

Tytysgrif a Tystysgrif Estynedig Gwybodeg Iechyd

30/09/2024

14/08/2026

Tystysgrif Lefel 3 mewn Cyfryngu

30/09/2024

15/08/2026

 

Diwygio cymwysterau 14-16 

Mae Agored Cymru yn ymwneud yn llawn â diwygio cymwysterau pobl ifanc 14 i 16 oed ac yn paratoi cymwysterau i gefnogi llinynnau TAAU (Tystysgrif Alwedigaethol Addysg Uwchradd), Sgiliau Bywyd a Sgiliau Gwaith, Prosiect Personol a Sylfaen Diwygio Cynnwys ar gyfer y Dyfodol.

Byddwn yn cynnwys pob un o’n canolfannau sy’n cynnig cymwysterau ac achrediad yn y maes hwn i sicrhau bod unrhyw ddatblygiadau o ansawdd uchel gyda’r nod o baratoi ein dysgwyr ar gyfer dilyniant o fewn a thu allan i’r byd addysg.  

3

Fel rhan o’r paratoad hwn, mae Dyddiad Dechrau Dynodi/Cymeradwyo Hwyraf Sydd y Mwyaf Tebygol (TDAFSD) ein cymwysterau Ysgolion cyn 16 presennol wedi’i gyfyngu i ganiatáu ar gyfer trosglwyddo i’r cymwysterau newydd.  Bydd TDAFSD o 31/10/26 yn sicrhau y gellir cyflwyno’r cymwysterau yn y flwyddyn academaidd 2026/27. 

TDAFSD cyfredol ar gyfer cymwysterau 14-16

Cymhwyster

TDAFSD cyfredol

Addysg Bersonol a Chymdeithasol

31/10/2026

Addysg Gysylltiedig â Gwaith

31/10/2026

Cymru Ewrop a’r Byd

31/10/2026

Dysgu yn yr Awyr Agored Lefel 2

31/10/2026

Dysgu yn yr Awyr Agored Lefel 1

31/10/2024 (caiff hyn ei ymestyn i 31/10/2026)*

Archwilio Bydolygon

31/10/2026

* Yn amodol ar adolygiad llwyddiannus

 

Digwyddiadau Hyfforddiant a DPP Agored Cymru ar ddod

Cyflwyniad i Asesu

Sesiwn ryngweithiol dwy awr a hanner o hyd yw hwn sydd wedi’i chynllunio fel cyflwyniad i egwyddorion ac arferion asesu o ansawdd uchel. Bydd angen i chi gwblhau gweithgaredd cyn-cwrs byr a fydd yn eich helpu i baratoi ar gyfer y sesiwn. 
Ar ddiwedd y sesiwn, bydd mynychwyr yn:


☑️ deall egwyddorion sylfaenol asesu;

☑️ deall beth yw asesu, lefelau o asesu a’r mathau o ddulliau asesu; a

☑️ meddu ar y sgiliau i asesu unedau a chymwysterau Agored Cymru yn effeithiol.

Cyflwyniad i Sicrhau Ansawdd Mewnol

Sesiwn ryngweithiol dwy awr a hanner o hyd yw hwn sydd wedi’i chynllunio fel cyflwyniad i egwyddorion ac arferion sicrhau ansawdd mewnol. Bydd angen i chi gwblhau gweithgaredd cyn-cwrs byr a fydd yn eich helpu i baratoi ar gyfer y sesiwn.
Ar ddiwedd y sesiwn, bydd mynychwyr yn:


☑️ deall egwyddorion sylfaenol sicrhau ansawdd mewnol;

☑️ deall rôl y swyddog sicrhau ansawdd mewnol;

☑️ dysgu sut i gofnodi canlyniadau sicrhau ansawdd mewnol; a

☑️ meddu ar y sgiliau i sicrhau ansawdd mewnol unedau a chymwysterau Agored Cymru yn effeithiol.

DIGWYDDIADAU HYFFORDDI
assessment
Cyflwyniad i Asesu
  • Ar-lein - 10 Mehefin 2024
  • 10:00yb – 12:30yp
assessment
Cyflwyniad i Asesu
  • Ar-lein - 17 Mehefin 2024
  • 13:30yp – 16:00yp
qa-1
Cyflwyniad i Sicrhau Ansawdd Mewnol
  • Ar-lein - 27 Mehefin 2024
  • 10:00yb – 12:30yp
assessment
Cyflwyniad i Asesu
  • Ar-lein - 11 Gorffennaf 2024
  • 10:00yb – 12:30yp
assessment
Cyflwyniad i Asesu
  • Ar-lein - 22 Gorffennaf 2024
  • 10:00yb – 12:30yp
qa-1
Cyflwyniad i Sicrhau Ansawdd Mewnol
  • Ar-lein - 30 Gorffennaf 2024
  • 13:30yp – 16:00yp
assessment
Cyflwyniad i Asesu
  • Ar-lein - 13 Awst 2024
  • 10:00yb – 12:30yp
qa-1
Cyflwyniad i Sicrhau Ansawdd Mewnol
  • Ar-lein - 27 Awst 2024
  • 10:00yb – 12:30yp

Safoni

Mae’n ofyniad gorfodol bod cynrychiolydd priodol o ganolfan yn mynychu digwyddiad safoni Agored Cymru o leiaf bob 2 flynedd. 
 
Mae digwyddiadau safoni wedi’u hanelu at: 
•    Rheolwyr Ansawdd 
•    Staff Sicrhau Ansawdd Mewnol (IQA) 
•    Staff sydd â chyfrifoldeb allweddol o fewn polisi ac arfer sicrhau ansawdd y ganolfan. 
 
Mae’r digwyddiadau yn canolbwyntio ar arfer gorau prosesau sicrhau ansawdd a’u nod yw hyrwyddo cysondeb yn y safonau asesu a sicrhau ansawdd. 
 
Mae’n rhaid i fynychwyr gymryd rhan weithredol mewn Sicrhau Ansawdd Mewnol neu fod wedi mynychu hyfforddiant ‘Cyflwyniad i Sicrhau Ansawdd Mewnol’ Agored Cymru. Bydd angen iddynt hefyd allu rhannu gwybodaeth a gweithredu arfer da o fewn eu sefydliad eu hunain. 

Digwyddiad Safoni 

Dyddiad 

Amser

Safoni – Cyffredinol (pob lefel)

14/6/2024

10:00am – 13:00pm

Safoni – Cyffredinol (pob lefel)

8/7/2024

13:00pm – 16:00pm

Safoni – Cyffredinol (pob lefel)

24/9/ 2024

10:00am – 13:00pm

Safoni – Cyffredinol (pob lefel)

22/10/2024

13:30pm – 16:30pm

Safoni – Cyffredinol (pob lefel)

7/11/2024

09:30am – 12:30pm

Cymorthfeydd CASS 

Cymorthfeydd CASS 

Mae cymorthfeydd CASS yn rhoi cyfleoedd i ganolfannau ofyn cwestiynau neu wneud ymholiadau am strategaeth CASS Agored Cymru.

Drwy gwblhau’r arolwg byr hwn, gallwch awgrymu pynciau i’w cynnwys yn y cymorthfeydd hyn.

Er enghraifft:

  • Deall pwysigrwydd pwyntiau gwirio Cymwysterau Galwedigaethol a Thechnegol
  • Tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant
  • Dylunio asesu arloesol
  • Addasiadau rhesymol
  • Deallusrwydd Artiffisial
callcentre

Cymhorthfa CASS  

Dyddiad

Amser

Bodloni gofynion canolfannau  

25/6/2024 

15:00pm -16:00pm

Bydd cymorthfeydd CASS pellach yn cael eu hychwanegu at yr amserlen ar gyfer 2024-2025 felly ewch i’r dudalen we Hyfforddiant a Digwyddiadau i gael y wybodaeth ddiweddaraf. 

Gweithgareddau Cymedroli ar Draws Canolfannau

Mae nifer o weithgareddau cymedroli ar draws canolfannau i’w cynnal o hyd wrth i’r flwyddyn academaidd ddod i ben.  Mae’r rhain ar gyfer:

Cymhwyster 

Math o Ganolfan 

Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno tystiolaeth (canol dydd)  

Dyddiad y panel i randdeiliaid  

Craidd Dysgu*

Pob canolfan 

6/6/2024 

9/7/2024 

Cymwysterau Gofal Iechyd  

Pob canolfan 

25/7/2024 

22/8/2024 

Rydym eisoes wedi dechrau cynllunio’r gweithgareddau cymedroli ar draws canolfannau ar gyfer 2024-2025. Mae’r un cyntaf y gallwn ei gadarnhau wedi’i nodi isod (bydd eraill yn cael eu hamserlennu ar ôl eu cadarnhau)

Cymhwyster 

Math o Ganolfan 

Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno tystiolaeth (canol dydd)  

Dyddiad y panel i randdeiliaid  

Amrywiol

Carchardai  

5/9/2024 

1/10/2024 

 

Bydd yn ofynnol i ganolfannau newydd nad ydynt wedi bod yn rhan o weithgarwch sicrhau ansawdd allanol (EQA) o’r blaen ymgymryd â gweithgaredd EQA unigol yn hytrach na chymedroli ar draws canolfannau, fel y gallwn gynnig cymorth ac arweiniad uniongyrchol ar gyflwyno, asesu a sicrhau ansawdd mewnol. Os nad ydych yn sicr os yw hyn yn effeithio arnoch chi, cysylltwch â sicrhau.ansawdd@agored.cymru am fwy o wybodaeth

Yn dilyn pob gweithgaredd cymedroli ar draws canolfannau, byddwn yn gwahodd canolfannau sydd wedi cymryd rhan i banel i randdeiliaid, sy’n gyfle da i ganolfannau drafod canlyniadau’r gweithgaredd, yn ogystal â chyfarfod a rhwydweithio â chanolfannau eraill sy’n cyflwyno’r un cymhwyster/cymwysterau. Gall canolfannau archebu eu lleoedd yma

*Craidd Dysgu

Mae Cymwysterau’r Craidd Dysgu yn cynnwys: Addysg Bersonol a Chymdeithasol; Addysg Gysylltiedig â Gwaith; Dysgu yn yr Awyr Agored; Cymru, Ewrop a’r Byd; ac Archwilio Bydolygon.

Efallai bod rhai canolfannau wedi cymryd rhan yng ngweithgareddau Cymedroli ar Draws Canolfannau eraill y Craidd Dysgu a gynhaliwyd eisoes yn ystod y flwyddyn academaidd hon, felly efallai na fydd angen iddynt gymryd rhan yn y gweithgaredd hwn a drefnwyd.  Os nad ydych yn sicr os yw hyn yn effeithio arnoch chi, cysylltwch â sicrhau.ansawdd@agored.cymru am fwy o wybodaeth.

Cymedroli ar draws canolfannau’r Craidd Dysgu - dyfarnu credyd

Ar gyfer pob cymhwyster rydych yn bwriadu gwneud cais amdano yn haf 2024 (e.e. Addysg Bersonol a Chymdeithasol, Addysg Gysylltiedig â Gwaith), rhaid eich bod wedi darparu sampl ar gyfer cymedroli ar draws canolfannau (neu ar gyfer gweithgaredd EQA arall), er mwyn i ni allu gwneud penderfyniad ynghylch dyfarnu credyd.  

Os cyflwynir hawliad am gymhwyster nad yw wedi’i samplu yn y cyfnod 2023-24, ni allwn ddyfarnu credydau nes bod gweithgaredd EQA, megis cymedroli ar draws canolfannau, wedi’i gwblhau’n llwyddiannus.  

Cysylltwch â sicrhau.ansawdd@agored.cymru os hoffech drafod unrhyw beth ymhellach. 

Dyddiadau Cau ar gyfer Hawliadau 

Rydym wedi ymrwymo’n llwyr i driniaeth gyfartal ar gyfer dysgwyr Cymwysterau Galwedigaethol a Thechnegol (VTQs) a lle bynnag y bo modd, mae Agored Cymru yn cyhoeddi canlyniadau cyn canlyniadau Cymwysterau Cyffredinol (GQ) fel nad yw’r hyblygrwydd, sy’n agwedd werthfawr o VTQs, yn cael eu tanseilio. 

Sylwch na fydd hawliadau’n cael eu cymeradwyo nes bod gweithgareddau EQA llwyddiannus wedi’u cynnal h.y. lle mae credyd wedi’i gymeradwyo gan swyddog sicrhau ansawdd allanol ar ôl craffu ar dystiolaeth.  

Dylid cyflwyno hawliadau ar gyfer dysgwyr sydd angen ardystiad ar gyfer symud ymlaen i Addysg bellach ac Addysg Uwch erbyn 14 Mehefin 2024. Mae hyn yn cyd-fynd â’r gweithgaredd safoni ar draws canolfannau a fydd yn digwydd bryd hynny. Er na fyddwch yn gwybod canlyniad y gweithgaredd hwnnw, mae’n rhaid i chi gyflwyno’ch hawliadau erbyn y dyddiad cau o hyd. Sylwch nad oes angen i chi aros tan 14 Mehefin 2024 i hawlio am dystysgrif dysgwr os yw gweithgaredd EQA llwyddiannus eisoes wedi digwydd. 

Mae’n bwysig bod canolfannau yn cyflwyno hawliadau erbyn y dyddiadau cau penodol er mwyn galluogi Agored Cymru i gyhoeddi canlyniadau yn amserol. 

Diweddariadau

Rydym wedi diweddaru Canllaw i Asesu Agored Cymru; bydd hwn ar gael yn fuan i ganolfannau ar yr adran Asesu ar wefan Agored Cymru.  Mae templedi dogfennau cliriach wedi’u cynnwys, ynghyd â phwyslais ar asesiad ‘mynediad teg drwy ddyluniad’ sy’n rhoi’r ‘cyfleoedd tecaf posibl i bob dysgwr i ddangos yr hyn y maent yn ei wybod, yn ei ddeall ac yn gallu ei wneud’.

Rydym yn ddiweddar wedi diweddaru’r Polisi a Gweithdrefn Addasiadau Rhesymol i’r Broses Asesu. Ar gael bellach ar ein gwefan, byddwch yn nodi rhai gwelliannau i’r weithdrefn a manylion ynghylch awdurdodi a chymeradwyaeth canolfannau.  Mae ffurflenni RA1 a RA2 ar wahân wedi’u cynnwys ar dudalen we Gofynion a Chyfrifoldebau’r Ganolfan.

canllaw i asesu

Fel y dywedwyd yn flaenorol, rydym bellach wedi ailgyflwyno e-byst sy’n ymwneud â’r Cynllun Gweithredu Canolfan (CAP).  Bydd y rhain yn ymddangos yn eich mewnflwch os oes person a enwir neu gam gweithredu wedi’i neilltuo i’ch CAP.  Rhaid cydnabod y CAP (gan ychwanegu person a enwir a cham gweithredu) o fewn 10 diwrnod gwaith o dderbyn adroddiad EQA, felly sylwer bod yr e-byst atgoffa yn dechrau cael eu hanfon ar yr 11eg diwrnod ac yna bob 5 diwrnod wedi hynny.  Bydd canllaw canolfan i reoli camau gweithredu CAP yn cael ei gyhoeddi yn fuan. 

Hefyd yn dod yn fuan, bydd gan ganolfannau’r cyfleuster i uwchlwytho CVs a thystysgrifau/DPP tra bod cymwysterau’n cael eu cyflwyno drwy’r system we. Ar hyn o bryd rydym yn datblygu proses electronig a fydd yn galluogi hyn. Mae’r broses yn cael ei datblygu hefyd i gefnogi’r ffordd y mae canolfannau’n cyfleu newidiadau i staff. 

Byddwn yn parhau i wrando ar ganolfannau wrth inni geisio gwella prosesau a gweithdrefnau fel y gallwn leihau’r baich ar ganolfannau. 

Graduated Girl

Diploma Mynediad i Addysg Uwch (MAU) 

Sgroliwch i lawr i gael gwybodaeth am ein darpariaeth Mynediad i AU

Mae trefniadau gyda phob canolfan ar gyfer cymedroli allanol crynodol wedi’u cadarnhau gan Arweinwyr Cymedroli Allanol (LEMs).  Mae mwyafrif y gweithgareddau cymedroli pwnc wedi’u cwblhau gyda nifer fechan heb eu cwblhau.  Rhaid i’r prosesau cymedroli allanol a gynlluniwyd ar gyfer pob canolfan MAU fod wedi’u cwblhau cyn y Byrddau Dyfarniadau Terfynol (FABs) sydd wedi eu trefnu rhwng 24 Mehefin a 5 Gorffennaf.  

Rhaid i ganolfannau: 
 
  • Cynnal cyfarfodydd cyn-FAB o leiaf pum diwrnod gwaith cyn y FAB i ddilysu canlyniadau pob dysgwr.  

  • Cwblhau templed adroddiad cyn-FAB, gan gynnwys y datganiad yn cadarnhau fod yr holl wybodaeth a gyflwynwyd ynghylch canlyniadau dysgwyr wedi’i ddilysu ac yn gywir. 

  • Mynd i’r afael ag unrhyw achosion arbennig a dod i benderfyniad arnynt (yn cynnwys unrhyw gyfeiriadau amgylchiadau eithriadol heb eu cwblhau (gan gynnwys unrhyw hawliadau heb eu cwblhau am ddyfarniad drwy amgylchiadau eithriadol), graddau aegrotat a graddau ar ôl marwolaeth, achosion o gamymddwyn academaidd ac apeliadau mewn unrhyw flwyddyn).  Mae’n ofynnol i ganolfannau gyflwyno pob achos arbennig i Gadeirydd y FAB.  

  • Rhaid i ganolfannau gwblhau FABSC1 ar gyfer pob dysgwr sy’n parhau wedi eu dyddiad gorffen arfaethedig.

  • Uwchlwytho templed adroddiad cyn-FAB wedi’i gwblhau drwy drosglwyddiad ffeil yn ddiogel o leiaf pum diwrnod gwaith cyn y FAB ynghyd ag unrhyw ddogfennaeth a gwblhawyd ar gyfer achosion arbennig.

  • Dilysu a chyflwyno holl Gofnodion Canlyniadau Uniongyrchol (DER) bum diwrnod gwaith cyn y FAB er mwyn hwyluso’r gwaith o baratoi dogfennaeth ac i fynd i’r afael ag unrhyw afreoleidd-dra. Unwaith mae canlyniadau wedi eu cyflwyno, ni fydd canolfannau yn gallu gwneud unrhyw newidiadau pellach.  
nurse

Fel Asiantaeth Dilysu Mynediad (AVA), mae gan Agored Cymru gyswllt corff dyfarnu (ABL) gyda UCAS.  Darperir yr holl ganlyniadau MAU, gan gynnwys data credydau a graddau, i UCAS. Yna bydd y data hwn ar gael i ddarparwyr addysg uwch i lywio derbyniadau.  Fel rhan o’r cytundeb sy’n gysylltiedig ag ABL, rhaid i Agored Cymru weithio o fewn terfynau amser UCAS mewn perthynas â dyfarniadau ac ardystiadau.  

Cyswllt Corff Dyfarnu (ABL) gyda UCAS - terfyn amser canlyniadau a  dyfarniadau

23/7/2024

Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno canlyniadau MAU i UCAS

O 23/7/20241

E-ardystio

26/7/2024

Canlyniadau ar gael i Ddarparwyr 

04/10/2024

Dyddiad cau enwol i ymgeiswyr fodloni amodau’r cynnig academaidd

1 Bydd e-dystysgrifau MAU yn cael eu prosesu drwy’r platfform Veri o 23 Gorffennaf 2024. Bydd dysgwyr yn derbyn e-bost i’r cyfeiriad a gafodd ei gynnwys yn eu cofrestriad pan fydd eu tystysgrif ar gael.   

Newidiadau i gynllun graddio’r Diploma MAU

Atgoffir canolfannau fod yn rhaid i bob dysgwr sydd wedi cofrestru ar Ddiploma MAU ar ôl 1 Awst 2024 gael ei asesu yn unol â gofynion y cynllun graddio diwygiedig.   
 
Yn dilyn y gweithgareddau profi a gynhaliwyd ar draws canolfannau yn gynharach yn 2024, bydd Agored Cymru yn cyhoeddi canllawiau a rhai asesiadau enghreifftiol ar gyfer gwahanol feysydd pwnc ym mis Mehefin 2024.   Bydd enghreifftiau ar gael at ddefnydd cyffredinol canolfannau o fis Medi 24.  Er, i ddechrau, bydd yr adnodd hwn yn gyfyngedig, ychwanegir enghreifftiau pellach wrth i ganolfannau ddechrau cymhwyso’r safonau graddio newydd a datblygu deunyddiau asesu newydd.   
 
Mae QAA wedi cyhoeddi dogfennaeth, gan gynnwys y fanyleb Diploma newydd a llawlyfr y cynllun graddio. Hefyd mae QAA wedi cyhoeddi rhai Cwestiynau Cyffredin defnyddiol. Mae hyn i gyd ar gael ar wefan QAA  
 

Peidiwch ag anghofio...

Gofynion a chyfrifoldebau’r ganolfan

Un o’r pethau y mae’n rhaid i ganolfannau ei wneud yw cofrestru dysgwyr o fewn terfynau amser penodol. Y terfynau amser hyn yw: 

Mynediad i Addysg Uwch: Cofrestru 60 credyd dysgwyr ar y diploma MAU o fewn 42 diwrnod o ddyddiad cychwyn y cwrs. 

✅  Cymwysterau Cymru/Ofqual/ QALL: Cofrestru pob dysgwr o fewn 25 diwrnod gwaith o ddyddiad cychwyn y cwrs (cyrsiau byr hyd at a chan gynnwys 15 wythnos o hyd).  

✅  Cymwysterau Cymru/Ofqual/ QALL: Cofrestru pob dysgwr o fewn 40 diwrnod gwaith o ddyddiad cychwyn y cwrs (cyrsiau hirach am fwy na 15 wythnos o hyd).

Rydym yn disgwyl i ganolfannau fodloni’r gofynion eraill hyn: 

☑️  Cyflwyno hawliadau o fewn 6 mis i ddyddiad gorffen y cwrs.

☑️  Mynychu digwyddiad safoni o leiaf unwaith bob dwy flynedd. 

☑️   Cydnabod Cynllun Gweithredu’r Ganolfan (CAP) o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl derbyn adroddiad EQA.  

☑️   Mynd i’r afael â’r holl gamau gweithredu gofynnol o fewn y CAP erbyn y terfynau amser a gyhoeddwyd.  

☑️   Talu pob anfoneb o fewn yr amserlen benodol.  

Ewch i dudalen we Gofynion a Chyfrifoldebau’r Ganolfan i gael y diweddariadau a’r newidiadau diweddaraf. 

Sianeli cyfathrebu 

Ar gyfer ymholiadau ynghylch asesu, sicrhau ansawdd a dyfarnu pob cymhwyster/uned ac eithrio MAU.

Ar gyfer ymholiadau ynghylch cyflwyno, cymedroli a dyfarnu cymwysterau/unedau MAU.

Ar gyfer ymholiadau ynghylch gweinyddiaeth a sut i gofrestru dysgwyr a chyflwyno hawliadau.

Ar gyfer ymholiadau ynghylch a nodi a datblygu cyfleoedd cwricwlwm newydd a phresennol.

Ar gyfer ymholiadau ynghylch cynnwys, adolygu a datblygu cymwysterau/unedau.