Medi 2024

Bwletin Canolfannau

Croeso i ddechrau blwyddyn academaidd newydd! Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda chi yn ystod y cyfnod hwn ac yn gyffrous i rannu rhai o’n cynlluniau a’n datblygiadau newydd gyda chi.

Yn gyntaf, diolch yn fawr iawn i’r canolfannau hynny a’n cefnogodd i baratoi ar gyfer diwrnod canlyniadau cymwysterau Galwedigaethol a Thechnegol. Roedd eich ymatebion prydlon i’n ceisiadau hawlio wedi ein galluogi i brosesu pob hawliad a chyhoeddi tystysgrifau cyn ein terfyn amser.

Llun o athro â disgyblion
Cliciwch i fynd i'r adran berthnasol
Nodyn atgoffa
Nodyn Pwysig Ar Gyfer Ysgolion

Dylai canolfannau gofrestru dysgwyr ar gyfer cyrsiau sy'n cychwyn ar ddechrau mis Medi erbyn hanner tymor yr Hydref.

Mae'n hanfodol ein bod yn ymwybodol o'r dysgwyr sy'n cymryd rhan yn y rhaglen a'u canlyniadau disgwyliedig er mwyn i ni gynnal digwyddiadau cymedroli traws-ganolfannau yn llwyddiannus. Gall tâl gael ei godi am gofrestriadau hwyr.

Diploma Mynediad i Addysg Uwch (AHE)

Mae gan Agored Cymru gyfres o Ddiplomâu Mynediad i Addysg Uwch sy'n darparu cyfleoedd i ddysgwyr sy'n oedolion ddatblygu'r sgiliau, y wybodaeth a’r hyder sydd eu hangen i symud ymlaen yn llwyddiannus i addysg uwch. Mae ein Diplomâu ar gael mewn amrywiaeth o feysydd pwnc, gan gynnwys iechyd, gwyddoniaeth, cyfrifiadura a’r dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol.

Yn dilyn ymgynghoriad â chyfres eang o randdeiliaid, mae QAA wedi diwygio manyleb a chynllun graddio'r Diploma Mynediad i AU. Mae’r newidiadau hyn yn berthnasol o ddechrau blwyddyn academaidd 2024-25, ac mae ein Diplomâu wedi’u haddasu, lle bo angen, i ymateb i’r gofynion newydd.

Trwy gydol 2024-25, bydd cyfres o weithgareddau’n cael eu trefnu i gefnogi canolfannau yn eu trosglwyddiad i'r fanyleb newydd a’r cynllun graddio.

Logo Mynediad at Addysg Uwch
Bydd Agored Cymru hefyd yn adolygu’r Diplomâu Mynediad i AU presennol i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn gyfredol ac yn addas at y diben. Bydd teitlau Diplomâu newydd hefyd yn cael eu cynnig i adlewyrchu anghenion ein canolfannau a’u dysgwyr.

Gweler cylchlythyr diweddaraf Mynediad i AU Agored Cymru am fanylion llawn.

Datblygiad Cymwysterau Agored Cymru

Rydym ar hyn o bryd yn datblygu cymwysterau newydd cyffrous ar gyfer dysgwyr ôl-16 mewn addysg bellach, chweched dosbarth a dysgu yn y gweithle. Mae’r rhain yn cynnwys pynciau mewn ystod o feysydd, er enghraifft, digidol, gofal iechyd a chwaraeon.

Ar gyfer ein dysgwyr cyn-16, rydym yn canolbwyntio ar ddatblygu Cymwysterau Cenedlaethol 14-16 newydd sy’n cefnogi amcanion a dibenion y Cwricwlwm i Gymru. Mae’r rhain yn cynnwys y cymwysterau TAAU (Tystysgrif Alwedigaethol Addysg Uwchradd) newydd sy’n gysylltiedig â gwaith, ynghyd â’r Gyfres Sgiliau a Chymwysterau Sylfaen.

Bydd y cymwysterau hyn yn adeiladu ar lwyddiant ein cymwysterau Craidd Dysgu presennol sydd wedi bod ar gael i ysgolion ers dros 10 mlynedd.

Llun o ddisgyblion

Cymwysterau Newydd

Sgiliau ar gyfer Astudiaethau Pellach

Mae cymhwyster Agored Cymru Tystysgrif Estynedig Lefel 2 mewn Sgiliau ar gyfer Astudiaethau Pellach wedi’i ddatblygu i bontio’r bwlch rhwng y Dystysgrif (24 credyd) a’r Diploma (60 credyd).

Mae’r cymwysterau Sgiliau ar gyfer Astudiaethau Pellach ar gyfer dysgwyr sy’n dymuno ennill gwybodaeth a sgiliau sy’n eu paratoi i symud ymlaen i astudio ar lefelau uwch.

Nodau’r cymwysterau yw:
•    datblygu sgiliau i astudio ar lefel 3
•    datblygu ymwybyddiaeth o gyfleoedd datblygu i yrfaoedd neu astudiaeth pellach.


Mae’r cymhwyster hwn wedi’i anelu at ddysgwyr dros 16 oed.

 

Disgybl yn gorffen gwaith

Agored Cymru Tystysgrif Estynedig Lefel 2 mewn Sgiliau ar gyfer Astudiaethau Pellach (C00/5036/4)


Cynrychiolwyr Dysgu Undebau Llafur

Llun o gyfarfod undebol o gwmpas bwrdd

Agored Cymru Dyfarniad Lefel 1 ar gyfer Cynrychiolwyr Dysgu Undebau Llafur (C00/5024/5)

Bydd cymhwyster Agored Cymru Dyfarniad Lefel 1 mewn Cynrychiolwyr Dysgu Undebau Llafur yn cyfrannu at sicrhau bod gweithwyr yn y sector yn cael mynediad teg at yr hyfforddiant a’r cyfleoedd sydd eu hangen ar gyfer datblygiad proffesiynol drwy ddarparu cymhwyster penodol sy’n cwmpasu’r wybodaeth a’r sgiliau i’w galluogi i barhau i gyflawni eu rôl yn effeithiol. 

Mae’r cymhwyster yn darparu cwrs rhagarweiniol ar gyfer cynrychiolwyr dysgu undebau llafur sy’n newydd i’w rôl neu nad ydynt wedi cael hyfforddiant o’r blaen.  

Mae’n ceisio cefnogi cynrychiolwyr dysgu undebau i fod yn effeithiol wrth gyflawni’r rôl hon a chefnogi gwaith ehangach y gangen drwy gwmpasu’r wybodaeth a’r sgiliau canlynol:

  • Rôl undebau llafur mewn dysgu a sgiliau
  • Rôl y cynrychiolwyr dysgu undebau
  • Dulliau undebau llafur o ddysgu yn y gweithle a modelau arfer gorau perthnasol
  • Polisïau a rhaglenni allweddol perthnasol i’r system sgiliau oedolion yng Nghymru
  • Sut i hyrwyddo dysgu yn eich gweithle eich hun
  • Sut i adnabod anghenion dysgu
  • Sut i weithio gyda’ch cangen undeb eich hun a chyflogwyr i ddileu rhwystrau i ddysgu a dilyniant yn y gwaith.

Amcan allweddol y cymhwyster hwn yw bod cynrychiolwyr dysgu undebau yn gadael y cwrs yn hyderus ac yn meddu ar y wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i gyflawni eu rôl yn effeithiol yn y gweithle.  

Mae’r cymhwyster hwn wedi’i anelu at ddysgwyr dros 16 oed.

Mae’r cymhwyster hwn wedi’i gyfyngu i’w ddefnyddio gan ganolfannau a gydnabyddir gan TUC Cymru.

 


Cyswllt Gofal Iechyd Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru

Mae’r cymhwyster hwn ar gyfer dysgwyr sy’n dymuno symud ymlaen i raglenni nyrsio graddedig.  Mae’n cynnig llwybr cynhwysfawr sy’n cynnwys cymorth academaidd, wrth ymgymryd â phrofiad gwaith, ac ymgyfarwyddo â sefydliadau addysg uwch.

Mae’r cynnwys yn cynnwys gwybodaeth a sgiliau hanfodol ar gyfer y rôl hon yn amrywio o atal a rheoli heintiau i hyrwyddo dulliau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae’r cymhwyster hwn yn arbennig o briodol ar gyfer dysgwyr o gyrsiau Iechyd a Gofal Cymdeithasol lefel 3 a Mynediad i Nyrsio sy’n meddu ar y gwerthoedd hanfodol a’r ymrwymiad sy’n angenrheidiol ar gyfer nyrsio ond sydd heb gymwysterau neu brofiad academaidd penodol ar hyn o bryd.

Mae’r cymhwyster hwn wedi’i anelu at ddysgwyr dros 18 oed.

Agored Cymru Diploma Lefel 3 mewn Cyswllt Gofal Iechyd Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru (C00/5052/6)
Disgybl gofal iechyd mewn gwisg meddygol

Mae’r cymhwyster hwn yn disodli Agored Cymru Diploma Lefel 3 yn Rhaglen Cadetiaid y Coleg Nyrsio Brenhinol C00/3674/8.


Grymuso Effaith Gymdeithasol a Chyfrifoldeb Busnes

Llun o reolwr yn arain cyfarfod

Mae cymhwyster Agored Cymru Dyfarniad Lefel 3 mewn Grymuso Effaith Gymdeithasol a Chyfrifoldeb Busnes: Cymru’r Dyfodol wedi’i anelu at bersonél ar bob lefel o fewn sefydliad.  Mae’n arbennig o addas ar gyfer unigolion sy’n ymwneud â darparu gwerth cymdeithasol, strategaeth, marchnata, gwerthu, caffael ac unrhyw rolau sy’n ymwneud ag effaith a gwerth y sefydliad.  Mae hefyd yn addas ar gyfer unigolion sy’n dymuno datblygu eu gyrfa ym maes gwerth cymdeithasol.

Mae cymhwyster Agored Cymru Dyfarniad Lefel 3 mewn Grymuso Effaith Gymdeithasol a Chyfrifoldeb Busnes: Cymru’r Dyfodol wedi’i anelu at bersonél ar bob lefel o fewn sefydliad.  Mae’n arbennig o addas ar gyfer unigolion sy’n ymwneud â darparu gwerth cymdeithasol, strategaeth, marchnata, gwerthu, caffael ac unrhyw rolau sy’n ymwneud ag effaith a gwerth y sefydliad.  Mae hefyd yn addas ar gyfer unigolion sy’n dymuno datblygu eu gyrfa ym maes gwerth cymdeithasol.

Mae’r cymhwyster yn addas ar gyfer unigolion sy’n gweithio mewn unrhyw sector, gan gynnwys trydydd sector, sector preifat a statudol. 

Mae’r cymhwyster yn cynnwys dealltwriaeth o ddeddfwriaeth berthnasol a’r rhesymeg y tu ôl i sefydlu fframwaith cyfrifol ar gyfer cyflwyno cymdeithasol a’i weithrediad.  Mae’r sgiliau’n cynnwys defnyddio modelau rhesymeg wrth gynllunio mentrau effaith gymdeithasol a dadansoddiad SWOT i alinio strategaethau masnachol a chymdeithasol ar gyfer effaith gynaliadwy hirdymor. 

Mae’n gwreiddio grymuso o fewn busnesau i lywio effaith gymdeithasol a chyfrifoldeb busnes. 

Mae’r cymhwyster hwn wedi’i anelu at ddysgwyr dros 18 oed.

Agored Cymru Dyfarniad Lefel 3 mewn Grymuso Effaith Gymdeithasol a Chyfrifoldeb Busnes: Cymru'r Dyfodol C00/5056/3

Will This be in the test logo'r podlediad

Gwrandewch ar ein Podlediad...

Neidiwch mewn i ddyfodol addysg gyda "Will This Be in the Test?" lle rydyn ni'n archwilio sut mae technoleg, polisïau, a newidiadau cymdeithasol yn llywio dysgu. Peidiwch â cholli'r sgyrsiau craff a'r straeon ysbrydoledig!

Cymwysterau dan adolygiad

Mae’r tabl yn dangos cymwysterau sy'n cael eu hadolygu. Cysylltir yn awtomatig â’r canolfannau sydd â’r cymwysterau ar eu fframwaith i gymryd rhan yn yr adolygiad. Os hoffai eich canolfan gael ei chynnwys yn yr ymgynghoriad cysylltwch â'n Adran Cynnyrch gan clicio'r botwm isod.

Cliciwch ar deitl y cymhwyster i weld manylion pellach ar ein gwefan.

Teitl Cymhwyster

Cod

Agored Cymru Diploma Lefel 3 mewn Cymorth Delweddu Clinigol (Cymru)

C00/3964/3

Agored Cymru Tystysgrif Lefel 3 ar gyfer Ymarferwyr Sgiliau Hanfodol (Llythrennedd)*

C00/3979/6

Agored Cymru Tystysgrif Lefel 3 ar gyfer Ymarferwyr Sgiliau Hanfodol (Rhifedd)*

C00/3979/7

Agored Cymru Tystysgrif Lefel 3 ar gyfer Ymarferwyr Sgiliau Hanfodol (Llythrennedd Digidol)*

C00/4009/8

Agored Cymru Diploma Lefel 3 mewn Cymorth Dietegol

C00/1486/8

Agored Cymru Diploma Lefel 3 mewn Cymorth Podiatreg ar gyfer Cynorthwywyr a Thechnegwyr Podiatreg

C00/1486/9

Agored Cymru Diploma Lefel 3 mewn Cymorth Ffisiotherapi yng Nghymru

C00/3692/9

Agored Cymru Diploma Lefel 3 mewn Cymorth Therapi Lleferydd ac Iaith (Cymru)

C00/1190/2

Agored Cymru Diploma Lefel 3 mewn Cefnogaeth Therapi Galwedigaethol yng Nghymru

C00/3693/1

Agored Cymru Dyfarniad Lefel 3 mewn Cyngor, Arweiniad a Gwasanaethau sy'n gysylltiedig â Chyflogaeth yng Nghymru

C00/0532/3

Agored Cymru Tystysgrif Lefel 3 mewn Cyngor ac Arweiniad yng Nghymru

C00/0532/4

Agored Cymru Diploma Lefel 3 mewn Cyngor ac Arweiniad yng Nghymru

C00/0532/5

Agored Cymru Dyfarniad Lefel 4 mewn Cyngor, Arweiniad a Gwasanaethau sy'n gysylltiedig â Chyflogaeth yng Nghymru

C00/0532/8

Agored Cymru Tystysgrif Lefel 4 mewn Cyngor ac Arweiniad yng Nghymru

C00/0532/9

Agored Cymru Diploma Lefel 4 mewn Cyngor ac Arweiniad yng Nghymru

C00/0533/0

Agored Cymru Tystysgrif Lefel 3 mewn Gwasanaethau sy'n gysylltiedig â Chyflogaeth yng Nghymru

C00/0532/6

Agored Cymru Diploma Lefel 3 mewn Gwasanaethau sy'n gysylltiedig â Chyflogaeth yng Nghymru

C00/0532/7

Agored Cymru Tystysgrif Lefel 4 mewn Gwasanaethau sy'n Gysylltiedig â Chyflogaeth yng Nghymru

C00/0533/1

Agored Cymru Diploma Lefel 4 mewn Gwasanaethau sy'n Gysylltiedig â Chyflogaeth yng Nghymru

C00/0533/2

Agored Cymru Tystysgrif Lefel 4 mewn Ymarfer Cyfieithu

C00/0708/7

Agored Cymru Diploma Lefel 4 mewn Ymarfer Cyfieithu ar y Pryd

C00/0708/8

Roedd yn bleser mynychu'r Eisteddfod ddiweddar ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd.

Roedd Agored Cymru yn bresennol yn y drafodaeth banel 'Gweithio gyda’n gilydd i gefnogi uchelgais Cymraeg 2050', a amlygwyd pwysigrwydd y Gymraeg a dwyieithrwydd mewn addysg fel rhan o'r nod i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mwynheuon ni gymryd rhan mewn trafodaethau gyda'r mynychwyr wedi hynny.

Buom hefyd yn bresennol yn y digwyddiad 'Y Gymraeg mewn Addysg Bellach – Arfer Da ym maes Celf, Creadigol a'r Cyfryngau', gan ddathlu cydweithio rhwng addysg bellach a sefydliadau allweddol.

Yn ddiweddarach yn yr wythnos, cawsom yr anrhydedd o gyflwyno'r wobr ar gyfer y categori Podlediad (lefel agored).

Roedd pob digwyddiad yn rhagorol, ac rydym yn diolch i'r trefnwyr am y gwahoddiadau, gan longyfarch pawb a gymerodd ran yn yr holl gystadlaethau.

Adolygiadau wedi’i cwblhau 

Mae’r adolygiad o’r cymwysterau canlynol bellach wedi’i gwblhau.

Bydd y canlyniadau yn cael eu rhannu maes o law.

Cymwysterau sydd wedi’u hymestyn

Mae’r dyddiadau adolygu ar gyfer y cymwysterau canlynol wedi’u hymestyn fel y dangosir isod.

Cymhwyster

Dyddiad adolygu wedi’i ymestyn tan

Agored Cymru Dyfarniad Lefel 3 mewn Arsylwi ar Ymarfer Dysgu

31/08/2029

Agored Cymru Dyfarniad Lefel 1 ar gyfer Cynrychiolwyr Iechyd a Diogelwch Undebau Llafur

31/08/2029

Agored Cymru Tystysgrif Lefel 1 ar gyfer Cynrychiolwyr Iechyd a Diogelwch Undebau Llafur

31/08/2029

Agored Cymru Dyfarniad Lefel 1 ar gyfer Cynrychiolwyr Undebau Llafur

31/08/2029

Agored Cymru Tystysgrif Lefel 1 ar gyfer Cynrychiolwyr Undebau Llafur

31/08/2029

Agored Cymru Dyfarniad Lefel 2 mewn Sgiliau ar gyfer Astudiaethau Pellach

31/08/2029

Agored Cymru Tystysgrif Lefel 2 mewn Sgiliau ar gyfer Astudiaethau Pellach

31/08/2029

Agored Cymru Diploma Lefel 2 mewn Sgiliau ar gyfer Astudiaethau Pellach

31/08/2029

Agored Cymru Dyfarniad Lefel 1 mewn Dysgu yn yr Awyr Agored

30/09/2026

Agored Cymru Dyfarniad Estynedig Lefel 1 mewn Dysgu yn yr Awyr Agored

30/09/2026

Agored Cymru Tystysgrif Lefel 1 mewn Dysgu yn yr Awyr Agored

30/09/2026

Agored Cymru Tystysgrif Estynedig Lefel 1 mewn Dysgu yn yr Awyr Agored

30/09/2026

Agored Cymru Dyfarniad Lefel 1 mewn Cyflwyniad i Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Oedolion a Phlant a Phobl Ifanc), Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant - Cymru a Gogledd Iwerddon

30/09/2026

Agored Cymru Tystysgrif Lefel 1 mewn Cyflwyniad i Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Oedolion a Phlant a Phobl Ifanc), Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant - Cymru a Gogledd Iwerddon

30/09/2026

Agored Cymru Diploma Lefel 1 mewn Cyflwyniad i Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Oedolion a Phlant a Phobl Ifanc), Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant - Cymru a Gogledd Iwerddon

30/09/2026

Agored Cymru Dyfarniad Lefel 3 mewn Addysg a Hyfforddiant

31/07/2029

Agored Cymru Tystysgrif Lefel 4 mewn Addysg a Hyfforddiant

31/07/2029

Agored Cymru Diploma Lefel 7 mewn Rheoli Mân Anafiadau yn Annibynnol (Cymru)

31/10/2029

Agored Cymru Tystysgrif Lefel 2 mewn Gwaith Chwarae: Rhoi Egwyddorion ar Waith

30/09/2029

Agored Cymru Diploma Lefel 3 mewn Gwaith Chwarae: Rhoi Egwyddorion ar Waith

30/09/2029

Agored Cymru Dyfarniad Lefel Mynediad mewn Iaith Arwyddion Prydain (Mynediad 3)

31/10/2029

Agored Cymru Lefel 4 Diploma ar gyfer Ymarferwyr Cynorthwyo Therapi

31/10/2029

 

Ydych chi wedi darllen y Cylchlythr Haf?

'Barod yn Barod’ ar gyfer y Cwricwlwm Newydd yng Nghymru

Banner y craidd dysgu yn dansgos disgyblion a logo Agored Cymru
Yn dod yn fuan

Yn Dod yn Fuan

Mae Agored Cymru yn un o brif noddwyr Sioe Addysg Genedlaethol eleni yn Arena Utilita Caerdydd ar ddydd Gwener 4 Hydref. Os ydych chi'n mynychu, dewch draw i'n cyfarch ni. Byddwn ni ar stondin 7 a 8.

Logos y Sioe Addysg Genedlaethol

Dyddiadau allweddol

 

Dyddiad cofrestru diwethaf

Dyddiad olaf ar gyfer hawliadau

Busnes a Rheolaeth ar gyfer Myfyrwyr Rhyngwladol

30/06/2024

15/05/2027

Rhaglen Cadetiaid y Coleg Nyrsio Brenhinol

31/08/2024

15/07/2027

Cymraeg Ail Iaith (pob pwnc)

31/10/2024

15/09/2025

Heintiau Bacteriol a Firol 

31/12/2024

15/11/2025

 

Canlyniadau arolwg

Diolch i’r rhai ohonoch a ymatebodd i’n harolwg diweddar ar y broses Adolygiad Blynyddol Canolfannau (CAR).  Fe ddywedoch chi wrthym:
•    rydych yn hapus gyda’r newidiadau a wnaed i holiadur hunanasesu CAR
•    nid yw’r holiadur yn cymryd llawer o amser i’w gwblhau / anodd ei gwblhau.
•    y pynciau yr hoffech i ni eu cynnwys yn ein sesiynau cymorthfeydd CASS arferol.  Mae’r rhain wedi’u cynnwys yn ein cynllun ar gyfer y flwyddyn academaidd.

Adborth

Cymorthfeydd CASS

Mae cymorthfeydd CASS yn rhoi cyfleoedd i ganolfannau ofyn cwestiynau neu wneud ymholiadau am strategaeth CASS Agored Cymru. 

Cymhorthfa CASS

Dyddiad

Amser

Pwyntiau gwirio yn ystod y tymor ar gyfer Cymwysterau Galwedigaethol a Thechnegol (VTQs)

24 Medi 2024

15.00-16.00

Prosesau ansawdd o fewn lleoliad ysgol

15 Hydref 2024

15.00-16.00

Sesiwn galw heibio - Cymhorthfa agored (gan gynnwys trosolwg byr o ofynion canolfannau a phrosesau newydd cysylltiedig)

12 Tachwedd 2024

15.00-16.00

Sut mae safoni mewnol mewn canolfan yn edrych?

26 Tachwedd 2024

15.00-16.00

Hygyrchedd asesu

17 Rhagfyr 2024

15.00-16.00

Archwilio Canllaw i Asesu a Chanllaw i Sicrhau Ansawdd Mewnol Agored Cymru

21 Ionawr 2025

15.00-16.00

Rheolaeth effeithiol o Gynllun Gweithredu Canolfan (CAP)

18 Chwefror 2025

15.00-16.00

Sesiwn galw heibio - Cymhorthfa agored

8 Ebrill 2025

15.00-16.00

Defnyddio Ddeallusrwydd Artiffisial wrth asesu a sicrhau ansawdd mewnol

20 Mai 2025

15.00-16.00

Sesiwn galw heibio - Cymhorthfa agored

1 Gorffennaf 2025

15.00-16.00

Diweddariadau

Yn dod yn fuan
Yn dod yn fuan 

☑️ Mae’r ffordd yr ydych yn cyflwyno cais am Addasiad(au) Rhesymol a Ystyriaeth(au) Arbennig yn newid.  Ni fydd angen i chi gyflwyno dogfen Word trwy Drosglwyddo Ffeil yn Ddiogel.  Yn hytrach, byddwch yn gallu llenwi ffurflen ar-lein a fydd yn caniatáu i chi hefyd gyflwyno tystiolaeth ategol.  Rydym yn cynhyrchu canllaw canolfan i’ch cefnogi gyda hyn a fydd yn cael ei gyhoeddi’n fuan iawn. 

☑️ Er mwyn rhoi gwybod i ni am newidiadau staff, bydd angen i chi ddilyn proses ar-lein.  Mae hyn yn disodli’r broses hysbysu Word gyfredol.  Mae canllaw canolfan yn cael ei ddatblygu a bydd ar gael i ganolfannau’n fuan. 


☑️ Er mwyn cwblhau’r holiadur hunanasesu CAR, byddwn yn darparu ffurflen we i chi.


☑️ Mae diweddariad yn cael ei wneud i’r ffordd y gallwch weld eich adroddiadau sicrhau ansawdd allanol. Mae’n cynnwys dyddiad y gweithgaredd a ffocws y gweithgaredd, ynghyd â dyddiad rhyddhau’r adroddiad, i’ch galluogi i gael mynediad mwy effeithiol at yr adroddiadau sydd eu hangen arnoch.  Rydym hefyd yn cynnwys swyddogaethau i’ch helpu i fynd i’r afael â chamau gweithredu’r Cynllun Gweithredu Canolfan (CAP) yn fwy effeithiol gan y byddwch yn gallu uwchlwytho tystiolaeth i gefnogi unrhyw gamau gweithredu CAP a allai fod gennych.  

Dogfennau Canllawiau Canolfan

Gellir dod o hyd i holl ganllawiau’r ganolfan yma.  Gobeithiwn y bydd yr adran hon yn ddefnyddiol i chi a pharhewch i wirio’r dudalen hon am ddiweddariadau a chanllawiau newydd wrth iddynt gael eu cyhoeddi.  Cadwch lygad am y rhain dros yr wythnosau nesaf: 
•    Canllaw Canolfan ar gyfer Cyflwyno Ceisiadau am Addasiadau Rhesymol ac Ystyriaethau Arbennig
•    Canllaw Canolfan ar gyfer Diweddaru Tiwtoriaid, Aseswyr a Swyddogion Sicrhau Ansawdd Mewnol ar gyfer Cymwysterau Cymeradwy
•    Canllaw Canolfan ar gyfer Rheoli’r Cynllun Gweithredu Canolfan
•    Asesiadau Hygyrch - Canllawiau i Ganolfannau Agored Cymru

Diweddariadau wedi’u gwneud yn barod

O 1af Medi 2024, mae gan Agored Cymru ddyletswydd reoleiddiol i ddarparu mecanwaith i bob canolfan gofnodi a chyflwyno data ar ddewis iaith Dysgwr. Mae hyn yn ymwneud â phob cymhwyster a phob uned a reoleiddir.

Mae hyn yn golygu bod y ffordd yr ydych yn rhoi gwybod i ni am yr iaith asesu ar adeg cofrestru ac ar adeg hawlio wedi newid.  Cyfeiriwch at fwletin 11eg Mehefin 2024 am ragor o wybodaeth.  Mae dogfen Cwestiynau Cyffredin ychwanegol yn cael ei ddatblygu i’ch cefnogi gyda hyn.

Mae dogfennau cynllunio EQA ac adroddiadau EQA wedi’u diweddaru ar gyfer 2024/2025 gyda ffocws pellach wedi’i roi ar fynediad teg trwy ddyluniad a deallusrwydd artiffisial.

Llun o liniadur yn dangos gwefan Agored Cymru

Gweithgareddau Cymedroli ar Draws Canolfannau 

Bydd nifer o weithgareddau cymedroli ar draws canolfannau yn cael eu cynnal drwy gydol 2024/2025. Dylai pob canolfan sy’n cynnig y cymwysterau a restrir yn y tabl isod gyfrannu at weithgaredd cymedroli ar draws canolfannau, lle bo modd*.

Yn dilyn pob gweithgaredd cymedroli ar draws canolfannau, byddwn yn gwahodd canolfannau sydd wedi cymryd rhan i banel i randdeiliaid, sy’n gyfle da i ganolfannau drafod canlyniadau’r gweithgaredd, yn ogystal â chyfarfod a rhwydweithio â chanolfannau eraill sy’n cyflwyno’r un cymhwyster/cymwysterau.

Cymhwyster

Math o Ganolfan 

Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno tystiolaeth (canol dydd)

Dyddiad y panel i randdeiliaid

Amrywiol

Carchardai

5 Medi 2024

1 Hydref 2024

Craidd Dysgu**

Pob canolfan

7 Tachwedd 2024

10 Rhagfyr 2024

Cymwysterau Gofal Iechyd

Pob canolfan

12 Rhagfyr 2024

28 Ionawr 2025

Craidd Dysgu**

Pob canolfan

6 Chwefror 2025

11 Mawrth 2025

Sgiliau ar gyfer Astudiaethau Pellach

Pob canolfan

20 Mawrth 2025

29 Ebrill 2025

Sgiliau Hanfodol ar Gyfer Bywyd a Gwaith

Pob canolfan

8 Mai 2025

10 Mehefin 2025

Craidd Dysgu**

Pob canolfan

22 Mai 2025

24 Mehefin 2025

Cymwysterau Gofal Iechyd

Pob canolfan

17 Gorffennaf 2025

19 Awst 2025

 

*Bydd yn ofynnol i ganolfannau newydd nad ydynt wedi bod yn rhan o weithgarwch sicrhau ansawdd allanol (EQA) o’r blaen ymgymryd â gweithgaredd EQA unigol yn hytrach na chymedroli ar draws canolfannau, fel y gallwn gynnig cymorth ac arweiniad uniongyrchol ar gyflwyno, asesu a sicrhau ansawdd mewnol (IQA). 

**Mae Cymwysterau’r Craidd Dysgu yn cynnwys: Addysg Bersonol a Chymdeithasol; Addysg Gysylltiedig â Gwaith; Dysgu yn yr Awyr Agored; Cymru, Ewrop a’r Byd; ac Archwilio Bydolygon

Cymedroli ar draws canolfannau’r Craidd Dysgu - Dyfarnu Credyd

Ar gyfer pob cymhwyster rydych yn bwriadu gwneud cais amdano yn haf 2025 (e.e. Addysg Bersonol a Chymdeithasol, Addysg Gysylltiedig â Gwaith), rhaid eich bod wedi darparu sampl ar gyfer cymedroli ar draws canolfannau (neu ar gyfer gweithgaredd EQA arall), er mwyn i ni allu gwneud penderfyniad ynghylch dyfarnu credyd. 
Os cyflwynir hawliad am gymhwyster nad yw wedi’i samplu yn y cyfnod 2024-25, ni allwn ddyfarnu credydau nes bod gweithgaredd EQA, megis cymedroli ar draws canolfannau, wedi’i gwblhau’n llwyddiannus. 

Dyddiadau cau ar gyfer hawliadau

Mae Agored Cymru wedi ymrwymo’n llwyr i driniaeth gyfartal ar gyfer dysgwyr Cymwysterau Galwedigaethol a Thechnegol (VTQs) a lle bynnag y bo modd, mae Agored Cymru yn cyhoeddi canlyniadau cyn canlyniadau Cymwysterau Cyffredinol (GQ) fel nad yw’r hyblygrwydd, sy’n agwedd werthfawr o VTQs, yn cael eu tanseilio.

 

Dylid cyflwyno hawliadau erbyn *13 Mehefin 2025, hyd yn oed os ydych yn cyfrannu at weithgaredd cymedroli ar draws canolfannau Mehefin ‘25 ac nad ydych yn gwybod y canlyniad eto. 


Mae’n bwysig bod canlyniadau Cymwysterau Galwedigaethol a Thechnegol VTQ yn cael eu cyflwyno erbyn y dyddiad cau er mwyn galluogi Agored Cymru i gyhoeddi canlyniadau yn amserol.

Mae rhagor o wybodaeth am gyflawni canlyniadau Cymwysterau Galwedigaethol a Thechnegol ar gyfer 2024 a thu hwnt ar gael yma.




Oeddech chin gwybod
Oeddech chi'n gwybod

Gellir cynnal gweithgareddau Sicrhau Ansawdd Allanol tra bod cyrsiau’n dal i gael eu cynnal. Cyhyd â bod sicrhau ansawdd mewnol wedi digwydd ar ran o’r asesiad gorffenedig, gallwn samplu tystiolaeth asesu a phrosesau a dogfennaeth sicrhau ansawdd mewnol. Gall cynnal samplu sicrwydd ansawdd allanol yn y modd hwn gyfrannu at brosesu hawliadau yn effeithiol.

Digwyddiadau Hyfforddiant a DPP

Cyflwyniad i Asesu

Bydd hwn yn sesiwn dwy awr a hanner rhyng-weithiol yn cynnig cyflwyniad i egwyddorion ac arferion asesu o ansawdd uchel.  Bydd yn ofynnol cwblhau gweithgaredd byr cyn y cwrs fydd yn gymorth i chi baratoi ar gyfer y sesiwn.

Erbyn diwedd y cwrs, bydd y cyfranogion yn:

☑️ deall egwyddorion sylfaenol asesu;

☑️deall beth yw asesu, lefelau asesu a'r mathau o ddulliau asesu sy'n cael eu defnyddio; ac yn

☑️meddu ar y sgiliau sydd eu hangen i asesu unedau a chymwysterau Agored Cymru yn effeithiol.

Cyflwyniad i Sicrhau Ansawdd Mewnol

Bydd hwn yn sesiwn dwy awr a hanner rhyng-weithiol yn cynnig cyflwyniad i egwyddorion ac arferion sicrhau ansawdd mewnol.  Bydd yn ofynnol cwblhau gweithgaredd byr cyn y cwrs fydd yn gymorth i chi baratoi ar gyfer yr hyfforddiant.

Erbyn diwedd y cwrs hwn, bydd cyfranogion yn:


☑️ deall egwyddorion sylfaenol sicrhau ansawdd mewnol;

☑️ deall rôl y swyddogion sicrhau ansawdd menwol;

☑️ dysgu sut i gofnodi canlyniadau sicrhau ansawdd mewnol; ac yn

☑️ meddu ar y sgiliau sydd eu hangen i ddilysu unedau a chymwysterau Agored Cymru yn fewnol yn effeithiol.

Digwyddiadau Hyfforddiant
Cyflwyniad i Asesu
Introduction to Assessment
  • Nifer o ddyddiadau ar gael o 10/09/24
  • 2awr 30mun
Cyflwyniad i Sicrhau Ansawdd Mewnol
Cyflwyniad i Sicrhau Ansawdd Mewnol
  • Nifer o ddyddiadau ar gael o 23/09/24
  • 2awr 30mun
32 Level 3
Dyfarniad Lefel 3 mewn Deall Egwyddorion ac Ymarfer Asesu
  • Yn dechrau 7/10/24
  • 4 sesiwn hanner diwrnod
Dyfarniad Lefel 4 mewn Deall y gwaith o Sicrhau Ansawdd Prosesau ac Arferion Asesu yn Fewnol Level 4
Dyfarniad Lefel 4 mewn Deall y gwaith o Sicrhau Ansawdd Prosesau ac Arferion Asesu yn Fewnol
  • Yn dechrau 11/11/24
  • 4 sesiwn hanner diwrnod

Safoni

Mae’n ofyniad gorfodol bod cynrychiolydd priodol o ganolfan yn mynychu digwyddiad safoni Agored Cymru bob 2 flynedd.

Mae digwyddiadau safoni wedi’u hanelu at:
•    Rheolwyr Ansawdd
•    Staff Sicrhau Ansawdd Mewnol (IQA)
•    Staff sydd â chyfrifoldeb allweddol o fewn polisi ac arfer sicrhau ansawdd y ganolfan.

Mae’r digwyddiad yn canolbwyntio ar arfer gorau prosesau sicrhau ansawdd a’i nod yw hyrwyddo cysondeb yn y safonau asesu a sicrhau ansawdd.

Mae’n rhaid i fynychwyr gymryd rhan weithredol mewn Sicrhau Ansawdd Mewnol neu fod wedi mynychu cwrs ‘Cyflwyniad i Sicrhau Ansawdd Mewnol’ Agored Cymru. Bydd angen iddynt hefyd allu rhannu gwybodaeth a gweithredu arfer da o fewn eu sefydliad eu hunain.

 

Safoni – cyffredinol (pob lefel)

Dyddiad 

Amser 

22/08/24

09:00-12:00

19/09/24

09:00-12:00

24/09/24

10:00-13:00

03/10/24

13:00-16:00

22/10/24

13:30-16:30

07/11/24

09:30-12:30

Sianeli Cyfathrebu

Ar gyfer ymholiadau ynghylch asesu, sicrhau ansawdd a dyfarnu pob cymhwyster/uned ac eithrio MAU, cysylltwch â 

Ar gyfer ymholiadau ynghylch darparu, cymedroli a dyfarnu cymwysterau/unedau Mynediad i Addysg Uwch, cysylltwch â 

Ar gyfer ymholiadau ynghylch gweinyddiaeth a sut i gofrestru dysgwyr a chyflwyno hawliadau, ac ati, cysylltwch â

Ar gyfer ymholiadau ynghylch a nodi a datblygu cyfleoedd cwricwlwm newydd a phresennol, cysylltwch â 

Ar gyfer ymholiadau ynghylch cynnwys, adolygu a datblygu cymwysterau/unedau, cysylltwch â