July 2025

Centre Bulletin

This issue is packed with updates to help you plan ahead and stay informed. We are developing new qualifications to meet the skills needs of Wales, with plenty of opportunities for centres to get involved and shape what comes next.

Inside, you’ll find key updates on policy changes, qualification reviews and extensions, along with important deadlines for moderation and certification.

We also have some updates from key members of staff around qualification developments and activities. 

 Thank you for your support—explore the full bulletin for details and opportunities.

MAIN SPLASH (600 x 350 px) (2)
Click to navigate to section

An opening statement from Darren Howells, Chief Executive Officer

As a leading vocational Awarding Body in Wales, we’re delighted to announce that Agored Cymru have gained recognition by Qualifications Wales to design, deliver, and award the FULL SUITE of WAVE 3 bilingual qualifications within the new National 14-16 Curriculum.

The full suite includes:

  1. Vocational Certificates of Secondary Education (VCSEs)
  2. General and Work-Related Foundation Qualifications
  3. The Skills Suite
  4. The Personal Project

We look forward to supporting and collaborating with all providers and learners in Wales in readiness for first delivery in September 2027.

Kind regards,

Darren

Darren Headshot
Untitled design

Join the Agored Cymru Mailing List


New Qualifications

Community Wellbeing

L 3

The Agored Cymru Level 3 Diploma in Community Wellbeing is relevant to all employers across Wales who have / will have in future community well-being associated roles, such as local councils/authorities, private well-being related organisations, sports and leisure clubs, and community organisations.

This qualification aims to provide the knowledge and competency to support and enhance wellbeing workers to enable individuals link to community assets and better manage their physical, mental, emotional and social wellbeing.

It also provides recognised accreditation suitable for practitioners and employers to address the skills gap and need for proactive services as outlined in the Wellbeing of Wales report.

It contributes to standardising the quality and consistency of the Community Wellbeing sector and associated support delivered across Wales.

This qualification is aimed at learners over 16 years of age.

Clinical Imaging and Radiation Sciences 

L 3

The Agored Cymru Level 3 Diploma in Clinical Imaging and Radiation Sciences aims to provide Band 2 and 3 Healthcare Support Workers and Radiology Clinical Support Worker (RCSW) an introduction to safe and effective working practices in clinical imaging and radiation sciences. It is a work-based qualification that meets the expectations of the NHS Wales Skills and Career Framework for Healthcare Support Workers supporting Nursing, Allied Health Professions and Healthcare Science professions. 

The qualification will be available via the apprenticeship route but can also be delivered as a standalone qualification where required. 
 
This qualification is aimed at learners over 18 years of age. 

Dietetic Support

L 3

The Agored Cymru Level 3 Diploma in Dietetic Support is for support workers in NHS Wales, providing dietetic support to individuals in hospital, public health, community and domiciliary settings, under the direction of a dietitian. 

It recognises roles currently undertaken by dietetic support workers working with individuals in the following services: adult services; paediatric services; public health; catering services. 

To undertake this qualification, learners must be employed in roles where the Dietetic Service is either all or part of their work. This may be in the NHS, local authority or Public Sector. 

This qualification is the preferred qualification for dietetic support workers in Wales. 
Dietetic support workers will have the opportunity to complete the qualification and/or to achieve elements of it for continuing professional development (CPD). It is designed to support changes in practice over time. 
 
This qualification is aimed at learners over 18 years of age. 

This qualification replaces C00/1486/8 Agored Cymru Level 3 Diploma in Dietetic Support.

Speech & Language Therapy Support

L 3

The Agored Cymru Level 3 Diploma in Speech & Language Therapy Support (Wales) is for support worker roles within Speech and Language Therapy Service settings in Wales, who are providing support to individuals under the direction of a professionally registered Speech and Language Therapist. It provides a qualification that recognises the roles currently undertaken by support workers employed by NHS Wales. 

To undertake this qualification, learners must be employed in roles where they are required to use Speech and Language Therapy support skills. The qualification was developed to provide governance of practice in Wales through external quality assurance. 

It is the preferred qualification for NHS Wales, and it is expected that all Speech and Language Therapy based support workers will have the opportunity to complete the qualification. Learners may also be able to undertake individual units from the qualification as part of their CPD. 

This qualification is aimed at learners over 18 years of age. 

This qualification replaces C00/1190/2 Agored Cymru Level 3 Diploma in Speech & Language Therapy Support (Wales)  

Trade Union Learning Representatives 

L 1

The Agored Cymru Level 1 Extended Award for Trade Union Learning Representatives provides an introductory course for trade union learning reps (ULRs) who are new to their role or who have not undertaken training before. It seeks to support ULRs to be effective in carrying out this role and supporting the wider work of the branch by covering the following knowledge and skills: 

  • The role of trade unions in learning and skills
  • The role of the ULR
  • Trade union approaches to workplace learning and relevant best practice models
  • Key policies and programmes relevant to the adult skills system in Wales
  • How to promote learning in own workplace
  • How to identify learning needs
  • How to work with own union branch and employer to remove barriers to learning and in-work progression 

The key objective of this qualification is that ULRs leave the course confident and equipped with the knowledge and skills needed to carry out their role effectively in the workplace. 

This is a restricted qualification, aimed at learners over 16 years of age. Learners will either need to be elected trade union representatives or there will be an expectation that they become a trade union representative. 

Will This be in the test Podcast Cover

Listen to our Podcast...

Dive into the future of education with "Will This Be in the Test?" where we explore how technology, policy, and societal changes are shaping learning. Don’t miss out on insightful conversations and inspiring stories!


Qualifications Under Review

The table shows qualifications currently under review.

Centres that have the qualifications on their framework will automatically be contacted to participate in the review.

If your centre would like to be included in the consultation please contact our Product Development Team by clicking the button below.

Click on the Qualification Title to see the qualification on our site...


Qualification Extensions

The review dates for the following qualifications have been extended as shown below.

Qualification

Review date extended until

Agored Cymru Level 3 Diploma in Occupational Therapy Support in Wales 

31st August 2030 

Agored Cymru Level 3 Diploma in Physiotherapy Support in Wales 

31st August 2026 

Agored Cymru Level 3 Diploma in Podiatry Support for Podiatry Assistants and Technicians 

31st August 2026 

Agored Cymru Level 2 Award in Understanding Safeguarding

*Please note this qualification is now only available to learners who are over 16 years old 

31st October 2030 

Qualification Withdrawals

Agored Cymru has taken over the delivery of 14-19 Banking and Finance qualifications from the London Institute of Banking and Finance (LIBF)! This site is your go-to source for all updates related to the transfer, development, and delivery of these qualifications.

Explore official statements from Agored Cymru and the LIBF, review our roadmap for qualification development, and visit the FAQ section to find answers to common questions. This platform is continuously updated to ensure you have the latest information at your fingertips.



Updates

Craig Headshot

A message from Craig Luffman, Head of Quality and Standards

"As we approach the new academic year, we’d like to take a moment to thank you for your positive engagement with our Quality Assurance activities throughout the past year. Your continued commitment plays a vital role in maintaining high standards across all Agored Cymru centres.

Looking ahead, we will soon be promoting our new Quality Support Webinars and Cross-Centre Moderation Activities to support your preparations for the upcoming academic year. If there are specific topics you'd find valuable for the webinars, we’d love to hear your suggestions and we’ll do our best to incorporate them where possible, get in touch with us at quality.assurance@agored.cymru.

Starting from September, we will be issuing the updated Centre Annual Review Self-Assessment questionnaire and sharing important VTQ key dates and deadlines to help you plan effectively.

This is a gentle reminder of what’s on the horizon, and we look forward to working with you in the year ahead.

Best regards,
Craig"

Stock_Vertical (8)
Key Dates:

19/08/2025 - Health Care Phase 2 Cross Centre Moderation Stakeholder Panel

30/09/2025 - Last registration date for Level 4 Diploma in Promoting Health & Wellbeing

30/10/2025 - Last registration date for Level 3 Diploma in Clinical Imaging Support (Wales)

15/03/2028 - Last claim date for Level 6 Diploma in Emergency Nursing (Faculty of Emergency Nursing) 

15/05/2028 - Last claim date for Level 3 Diploma in Speech & Language Therapy Support (Wales)

15/05/2028 - Last claim date for Level 3 Diploma in Dietetic Support 

15/08/2028 - Last claim date for Level 4 Diploma in Promoting Health & Wellbeing

15/09/2028 - Last claim date for Level 3 Diploma in Clinical Imaging Support (Wales)

We want your feedback...

Please check out the upcoming events and please let us know of subject areas that you feel we could consider as part of the next academic year schedule.

All feedback is appreciated so please add appropriate information to this small form:

Useful Links

    Centre Requirements and Responsibilities

    Centre Guidance Documents

    Policies

   Delivery of VTQ Results for 2024 and Beyond: this provides guidance for those centres who currently deliver qualifications for learners who require progression to higher and/or further education.

 

Did you know
Did you know?

External quality assurance activities can take place while courses are still running. As long as internal quality assurance has taken place on part of the completed assessment, we can sample assessment evidence and internal quality assurance processes and documentation. Carrying out external quality assurance sampling in this way may contribute to the effective processing of claims.

Quality Support and Training

Want to get booked onto your next training course before the new academic year? 

Browse through our latest Level 3 and Level 4 training courses and event updates below.

Screenshot 2025-07-16 121532

Get in Touch

Access to HE

For queries regarding the delivery, moderation and award of
Access to Higher Education qualifications/units.

Centre Support

For queries regarding administration and how to register
learners and submit claims.

Quality
Assurance

For queries regarding assessment, quality assurance and award of all non-access
qualifications/units.

Business Development

For queries regarding the identification and development of new and existing curriculum opportunities.

Product Development

For queries regarding the content, review and development of qualifications/units, please contact.

Ebrill 2025

Bwletin Canolfan

Mae’r rhifyn hwn yn llawn diweddariadau i’ch helpu i gynllunio ymlaen llaw a chadw’n wybodus. Rydym yn datblygu cymwysterau newydd i ateb anghenion sgiliau Cymru, gyda digon o gyfleoedd i ganolfannau gymryd rhan a helpu i lunio’r hyn sy’n dod nesaf.

Y tu mewn, fe welwch ddiweddariadau allweddol am newidiadau polisi, adolygiadau ac estyniadau cymwysterau, ynghyd â dyddiadau cau pwysig ar gyfer cymedroli a chertifisio.

Mae gennym hefyd rai diweddariadau gan aelodau staff allweddol am ddatblygiadau ac weithgareddau sy’n ymwneud â chymwysterau.

 Diolch am eich cefnogaeth—archwiliwch y bwletin llawn am fanylion a chyfleoedd.

MAIN SPLASH (600 x 350 px) (2)
Cliciwch i lywio i'r adran berthnasol

Datganiad agoriadol gan Darren Howells, Brif Weithredwr

Fel Corff Dyfarnu Galwedigaethol blaenllaw yng Nghymru, rydym wrth ein bodd i gyhoeddi ein bod wedi cael cydnabyddiaeth gan Gymwysterau Cymru i ddylunio, cyflwyno a dyfarnu'r GYFRES LAWN o gymwysterau dwyieithog TON 3 o fewn y Cwricwlwm Cenedlaethol 14-16 newydd.

Mae’r pecyn llawn yn cynnwys:

  1. Tystysgrif Alwedigaethol Addysg Uwchradd (TAAU) 
  2. Cymwysterau Sylfaen a phynciau sy’n gysylltiedig â gwaith.
  3. Cyfres Sgiliau
  4. Prosiect Personol

Edrychwn ymlaen at gefnogi a chydweithio â phob darparwr a dysgwr yng Nghymru yn barod ar gyfer y cyflwyniad cyntaf ym mis Medi 2027.

Cofion caredig,

Darren

Darren Headshot
Untitled design

Ymunwch â Rhestr E-bost Agored Cymru

Cymwysterau Newydd

Lles Cymunedol

L 3

Mae’r cymhwyster Agored Cymru Diploma Lefel 3 mewn Lles Cymunedol yn berthnasol i bob cyflogwr ledled Cymru sydd â / a fydd â rolau sy’n gysylltiedig â lles cymunedol yn y dyfodol, megis cynghorau/awdurdodau lleol, sefydliadau preifat sy’n gysylltiedig â lles, clybiau chwaraeon a hamdden, a sefydliadau cymunedol.

Nod y cymhwyster hwn yw:

· darparu’r wybodaeth a’r cymhwysedd i gefnogi a gwella gweithwyr lles i alluogi unigolion i gysylltu ag asedau cymunedol a rheoli eu lles corfforol, meddyliol, emosiynol a chymdeithasol yn well.

· darparu achrediad cydnabyddedig sy’n addas i ymarferwyr a chyflogwyr i fynd i’r afael â’r blwch sgiliau a’r angen am wasanaethau rhagweithiol fel yr amlinellir yn adroddiad Llesiant Cymru

· cyfrannu at safoni ansawdd a chysondeb y sector Lles Cymunedol a’r gefnogaeth gysylltiedig a ddarperir ledled Cymru.

Mae’r cymhwyster hwn wedi’i anelu at ddysgwyr dros 16 oed.

Delweddu Clinigol a Gwyddorau Ymbelydredd

L 3

Nod cymhwyster Agored Cymru Diploma Lefel 3 mewn Delweddu Clinigol a Gwyddorau Ymbelydredd yw rhoi cyflwyniad i Weithwyr Cymorth Gofal Iechyd a Gweithwyr Cymorth Clinigol Radioleg (RCSW) Band 2 a 3 i arferion gwaith diogel ac effeithiol mewn delweddu clinigol a gwyddorau ymbelydredd. Mae’n gymhwyster seiliedig ar waith sy’n bodloni disgwyliadau Fframwaith Sgiliau a Gyrfaoedd GIG Cymru ar gyfer Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd sy’n cefnogi proffesiynau Nyrsio, Proffesiynau Perthynol i Iechyd (AHP) a Gwyddorau Gofal Iechyd.

Bydd y cymhwyster ar gael drwy’r llwybr prentisiaeth ond gellir ei ddarparu hefyd fel cymhwyster annibynnol lle bo angen.

Mae’r cymhwyster hwn wedi’i anelu at ddysgwyr dros 18 oed.

Cymorth Dietegol

L 3

Mae’r cymhwyster Agored Cymru Diploma Lefel 3 mewn Cymorth Dietegol ar gyfer gweithwyr cymorth yn GIG Cymru, sy’n darparu cymorth dietegol i unigolion mewn ysbytai, lleoliadau iechyd cyhoeddus, cymunedol a chartrefi dan gyfarwyddyd dietegydd.

Mae’n cydnabod y rolau a gyflawnir ar hyn o bryd gan weithwyr cymorth dietegol sy’n gweithio gydag unigolion yn y gwasanaethau canlynol:

· gwasanaethau oedolion

· gwasanaethau pediatrig

· iechyd y cyhoedd

· gwasanaethau arlwyo

Er mwyn dilyn y cymhwyster hwn, rhaid i ddysgwyr gael eu cyflogi mewn rolau lle mae’r Gwasanaeth Dieteg naill ai’n rhan o’u gwaith, neu dyna yw eu gwaith yn gyfan gwbl. Gall hyn fod yn y GIG, yr awdurdod lleol neu’r Sector Cyhoeddus.

Dyma’r cymhwyster sy’n cael ei ffafrio ar gyfer gweithwyr cymorth dietegol yng Nghymru. Bydd gweithwyr cymorth dietegol yn cael cyfle i gwblhau’r cymhwyster a/neu gyflawni elfennau ohono ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus (DPP). Fe’i cynlluniwyd i gefnogi newidiadau mewn ymarfer dros amser.

Mae’r cymhwyster hwn wedi’i anelu at ddysgwyr dros 18 oed.

Mae’r cymhwyster hwn yn disodli C00/1486/8 Agored Cymru Diploma Lefel 3 mewn Cymorth Dietegol

Cymorth Therapi Lleferydd ac Iaith

L 3

Mae'r cymhwyster Agored Cymru Diploma Lefel 3 mewn Cymorth Therapi Lleferydd ac Iaith (Cymru) ar gyfer gweithwyr cymorth mewn lleoliadau sy’n cynnig Gwasanaeth Therapi Iaith a Lleferydd yng Nghymru, sy'n rhoi cymorth i unigolion dan gyfarwyddyd Therapydd Iaith a Lleferydd proffesiynol cofrestredig. Mae’n cynnig cymhwyster sy’n cydnabod y rolau a gyflawnir ar hyn o bryd gan weithwyr cymorth a gyflogir gan GIG Cymru.

I ymgymryd â’r cymhwyster hwn, rhaid i ddysgwyr fod wedi’i cyflogi mewn rolau lle mae’n ofynnol iddynt ddefnyddio sgiliau cymorth Therapi Lleferydd ac Iaith. Cafodd y cymhwyster ei ddatblygu er mwyn llywodraethu ymarfer yng Nghymru drwy sicrhau ansawdd allanol.

Hwn yw'r cymhwyster a ffefrir gan GIG Cymru, a disgwylir y bydd pob gweithiwr cymorth Therapi Lleferydd ac Iaith yn cael y cyfle i gwblhau'r cymhwyster. Efallai y bydd dysgwyr hefyd yn gallu ymgymryd ag unedau unigol o’r cymhwyster fel rhan o’u DPP.

Mae’r cymhwyster hwn wedi’i anelu at ddysgwyr dros 18 oed.

Mae’r cymhwyster hwn yn disodli C00/1190/2 Agored Cymru Diploma Lefel 3 mewn Cymorth Therapi Lleferydd ac Iaith (Cymru).

Cynrychiolwyr Dysgu Undebau Llafur

L 1

Mae’r cymhwyster Agored Cymru Dyfarniad Estynedig Lefel 1 ar gyfer Cynrychiolwyr Dysgu Undebau Llafur yn darparu cwrs rhagarweiniol ar gyfer cynrychiolwyr dysgu undebau llafur sy’n newydd i’w rôl neu nad ydynt wedi ymgymryd â hyfforddiant o’r blaen. Mae’n ceisio cefnogi cynrychiolwyr dysgu undebau llafur i fod yn effeithiol wrth gyflawni’r rôl hon a chefnogi gwaith ehangach y gangen drwy gwmpasu’r wybodaeth a’r sgiliau canlynol:

· Rôl undebau llafur mewn dysgu a sgiliau
· Rôl y cynrychiolwyr dysgu undebau llafur
· Dulliau undebau llafur o ddysgu yn y gweithle a modelau arfer gorau perthnasol
· Polisïau a rhaglenni allweddol perthnasol i’r system sgiliau oedolion yng Nghymru
· Sut i hyrwyddo dysgu yn eich gweithle eich hun
· Sut i adnabod anghenion dysgu
· Sut i weithio gyda’ch cangen undeb eich hun a’ch cyflogwr i ddileu rhwystrau i ddysgu a dilyniant yn y gwaith.

Amcan allweddol y cymhwyster hwn yw bod cynrychiolwyr dysgu undebau llafur yn gadael y cwrs yn hyderus ac yn meddu ar y wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i gyflawni eu rôl yn effeithiol yn y gweithle.

Mae hwn yn gymhwyster cyfyngedig, wedi’i anelu at ddysgwyr dros 16 oed. Bydd angen i ddysgwyr fod yn gynrychiolwyr undebau llafur etholedig neu bydd disgwyl iddynt ddod yn gynrychiolwyr undebau llafur.

Will This be in the test Podcast Cover

Gwrandewch ar ein Podlediad...

Edrychwch tuag at ddyfodol addysg gyda "Will This be in the Test?" lle rydym yn archwilio sut mae technoleg, polisi a newidiadau cymdeithasol yn siapio dysgu. Peidiwch â cholli'r trafodaethau goleuedig a straeon ysbrydoledig!


Cymwysterau Dan Adolygiad

Mae’r cymwysterau canlynol yn cael eu hadolygu.

Cysylltir yn awtomatig â’r canolfannau sydd â’r cymwysterau ar eu fframwaith i gymryd rhan yn yr adolygiad.

Os hoffai eich canolfan gael ei chynnwys yn yr ymgynghoriad cysylltwch â ni trwy glicio'r botwm isod.

Cliciwch ar Deitl y Cymhwyster i weld y cymhwyster ar ein gwefan...


Cymwysterau Sydd Wedi’u Hymestyn

Mae’r dyddiadau adolygu ar gyfer y cymwysterau canlynol wedi’u hymestyn fel y dangosir isod.

Qualification

Review date extended until

Agored Cymru Diploma Lefel 3 mewn Cefnogaeth Therapi Galwedigaethol yng Nghymru 

31 Awst 2030 

  Agored Cymru Diploma Lefel 3 mewn Cymorth Ffisiotherapi yng Nghymru 

31 Awst 2026 

Agored Cymru Diploma Lefel 3 mewn Cymorth Podiatreg ar gyfer Cynorthwywyr a Thechnegwyr Podiatreg 

31 Awst 2026 

Agored Cymru Dyfarniad Lefel 2 mewn Deall Diogelu* 

*Sylwch mai dim ond i ddysgwyr dros 16 oed y mae’r cymhwyster hwn ar gael nawr 

31 Hydref 2030 

Cymwysterau sydd wedi’u Tynnu’n ôl

Mae Agored Cymru wedi cymryd yr awenau dros gyflwyno cymwysterau Bancio a Chyllid 14-19 gan London Institute of Banking and Finance (LIBF)! Mae'r wefan hon yn ffynhonnell bwysig ar gyfer pob diweddariad sy'n ymwneud â'r trosglwyddo, datblygiad, a chyflwyno'r cymwysterau hyn.

Gallwch ddod o hyd i ddatganiadau swyddogol gan Agored Cymru a'r LIBF, adolygwch ein map ffordd amser ar gyfer datblygiad cymwysterau, ac ewch i'r adran Cwestiynau Cyffredin i ddod o hyd i atebion i gwestiynau rydym wedi derbyn yn barod am y mater hwn. Mae'r wefan hon yn cael ei ddiweddaru'n barhaus i sicrhau bod y wybodaeth ddiweddaraf gennych bob amser.



Diweddariadau

Craig Headshot

Neges gan Craig Luffman, Pennaeth Ansawdd a Safonau

"Wrth i ni agosáu at y flwyddyn academaidd newydd, hoffem gymryd eiliad i ddiolch i chi am eich ymrwymiad cadarnhaol i’n gweithgareddau Sicrhau Ansawdd drwy gydol y flwyddyn ddiwethaf. Mae eich ymroddiad parhaus yn chwarae rhan hanfodol wrth gynnal safonau uchel ar draws holl ganolfannau Agored Cymru.

Wrth edrych ymlaen, byddwn yn hyrwyddo’n fuan ein Gwebinarau Cefnogi Ansawdd newydd a’n Gweithgareddau Cymedroli Traws-Ganolfan er mwyn cefnogi eich paratoadau ar gyfer y flwyddyn academaidd sydd i ddod. Os oes pynciau penodol y byddech yn eu gweld yn werthfawr ar gyfer webinarau, byddem wrth ein bodd yn clywed eich awgrymiadau a byddwn yn gwneud ein gorau glas i’w cynnwys lle bo’n bosibl, cysylltwch â ni ar sicrhau.ansawdd@agored.cymru.

Gan ddechrau ym mis Medi, byddwn yn cyhoeddi’r holiadur Hunanasesu Adolygiad Blynyddol Canolfan wedi’i ddiweddaru ac yn rhannu dyddiadau allweddol a dyddiadau cau pwysig ar gyfer cymwysterau galwedigaethol (VTQ) i’ch helpu i gynllunio’n effeithiol.

Mae hwn yn atgoffa caredig o’r hyn sydd i ddod, ac rydym yn edrych ymlaen at gydweithio â chi yn y flwyddyn i ddod.

Cofion gorau,
Craig"

Stock_Vertical (8)
Dyddiadau allweddol:

19/08/2025 - Panel Rhanddeiliaid Cymedroli Traws-Ganolfan Cam 2 Gofal Iechyd

30/09/2025 - Dyddiad cofrestru olaf ar gyfer Diploma Lefel 4 mewn Hyrwyddo Iechyd a Llesiant

30/10/2025 - Dyddiad cofrestru olaf ar gyfer Diploma Lefel 3 mewn Cymorth Delweddu Clinigol (Cymru)

15/03/2028 - Dyddiad hawlio olaf ar gyfer Diploma Lefel 6 mewn Nyrsio Brys (Cyfadran Nyrsio Brys)

15/05/2028 - Dyddiad hawlio olaf ar gyfer Diploma Lefel 3 mewn Cymorth Therapi Lleferydd ac Iaith (Cymru)

15/05/2028 - Dyddiad hawlio olaf ar gyfer Diploma Lefel 3 mewn Cymorth Dietegol

15/08/2028 - Dyddiad hawlio olaf ar gyfer Diploma Lefel 4 mewn Hyrwyddo Iechyd a Llesiant

15/09/2028 - Dyddiad hawlio olaf ar gyfer Diploma Lefel 3 mewn Cymorth Delweddu Clinigol (Cymru)

Rydym eisiau eich adborth...

Edrychwch ar y digwyddiadau sydd ar y gweill ac rhowch wybod i ni os oes meysydd pwnc yr hoffech i ni eu hystyried fel rhan o amserlen y flwyddyn academaidd nesaf.

Rydym yn gwerthfawrogi pob adborth, felly llenwch y ffurflen fer hon gyda’r wybodaeth briodol:

Dolenni defnyddiol:

    Gofynion a Chyfrifoldebau’r Ganolfan

    Dogfennau Canllawiau Canolfan

    Polisïau

   Cyflwyno Canlyniadau VTQ ar gyfer 2024 a Thu Hwnt: Mae'r tudalen yn rhoi arweiniad i’r canolfannau hynny sy’n cyflwyno cymwysterau ar hyn o bryd i ddysgwyr sydd angen datblygu i addysg uwch a/neu addysg bellach.

 

Did you know
Oeddech chi'n gwybod?

Gall gweithgareddau sicrhau ansawdd allanol ddigwydd tra bod cyrsiau’n dal yn cael eu cyflwyno. Cyn belled â bod sicrhau ansawdd mewnol wedi’i gyflawni ar ran o’r asesiad sydd wedi’i gwblhau, gallwn samplu tystiolaeth asesu a’r prosesau a’r ddogfennaeth sicrhau ansawdd mewnol. Gall cynnal samplu sicrhaud ansawdd allanol fel hyn gyfrannu at brosesu hawliadau yn effeithiol.

Sicrhau Ansawdd a Hyfforddiant

Eisiau archebu eich cwrs hyfforddi nesaf cyn dechrau’r flwyddyn academaidd newydd?

Porwch drwy’n cyrsiau hyfforddi a diweddariadau digwyddiadau diweddaraf Lefel 3 a Lefel 4 isod.

Screenshot 2025-07-16 144338

Cysylltu â Ni

Mynediad i AU

Ar gyfer ymholiadau ynghylch cyflwyno, cymedroli a dyfarnu cymwysterau/unedau Mynediad i Addysg Uwch, cysylltwch â

Cymorth Canolfan

Ar gyfer ymholiadau ynghylch gweinyddiaeth a sut i gofrestru dysgwyr a chyflwyno hawliadau, cysylltwch â

Sicrhau
Ansawdd

Ar gyfer ymholiadau ynghylch asesu, sicrhau ansawdd a dyfarnu pob cymhwyster/uned ac eithrio Mynediad i Addysg Uwch, cysylltwch â

Datblygu
Busnes

Ar gyfer ymholiadau ynghylch nodi a datblygu cyfleoedd cwricwlwm newydd a phresennol, cysylltwch â

Datblygu Cynnyrch

Ar gyfer ymholiadau ynghylch cynnwys, adolygu a datblygu cymwysterau/unedau, cysylltwch â