April 2025

Centre Bulletin

This issue is packed with updates to help you plan ahead and stay informed. We are developing new qualifications to meet the skills needs of Wales, with plenty of opportunities for centres to get involved and shape what comes next.

Inside, you’ll find key updates on policy changes, qualification reviews and extensions, along with important deadlines for moderation and certification.

We are also inviting centres to join our Steering Groups to help shape the future of financial education, supporting learners to build essential skills for life, learning and work.

 Thank you for your support—explore the full bulletin for details and opportunities.

MAIN SPLASH (600 x 350 px) (2)
Click to navigate to section

New Qualifications

We are currently developing exciting new qualifications for post 16 learners in further education, sixth form colleges and workplace learning. These include topics in a range of subjects, for example, digital, healthcare and sports.

For our pre 16 learners, our focus is on the development of new National 14-16 Qualifications that support the aims and purposes of the Curriculum for Wales. These include the new work-related VCSEs (Vocational Certificate of Secondary Education), along with the Skills Suite and Foundation qualifications.

These qualifications will build on the success of our current Learning Core qualifications which have been available to schools for over 10 years.

16

Medical Administration

L 2

The Agored Cymru Level 2 Diploma in Medical Administration delivers the knowledge and skills required by those working in an administrative role in a medical environment.

This includes effective and efficient communication, categorisation and storing of information, dealing with patient registration and appointment systems. The optional units allow the learner to select subjects appropriate to their own role and setting.

This qualification is appropriate for roles including:
·         Ward Clerk
·         Administration Assistant
·         Receptionist
·         Booking Clerk
·         Integrated Care Navigator / Care Navigator
·         Patient Care Administrator
·         Secretary
·         Patient Flow Administrator
·         Medical Administrator
·         Care Coordinator

This qualification is aimed at learners over 18 years of age and must be working in a medical setting.

Medical Secretaries

L 3

The Agored Cymru Level 3 Diploma for Medical Secretaries delivers the knowledge and skills required by those performing a secretarial role in a medical setting including the principles of medical ethics and etiquette.

The learner will acquire the skills and qualities required to work as part of a medical team managing patient appointment and administration systems. They will understand the role and functions of the different departments in their setting and a working knowledge of medical terminology, including pharmaceutical nomenclature.

This qualification is appropriate for roles including:
·         Senior Receptionist
·         Head Receptionist
·         Reception Supervisor/ Manager
·         Patient Flow Administrators
·         Senior Workflow Administrator
·         Senior Patient Care Administrator
·         Administration Coordinator
·         Support Secretary
·         Administration Secretary
·         Medical Staffing Assistant
·         Medical Secretary
·         Team Secretary
·         Team Leader

This qualification is aimed at learners over 18 years of age and must be working in a medical setting.

Digital Product Management

L 4

The Agored Cymru Level 4 Diploma in Digital Product Management develops the skills and knowledge required to manage digital products through their lifecycle.

The digital product manager requires a holistic understanding of the technology, the data and the requirements of the product users and uses this knowledge to bring together and direct a team to produce systems, services, apps, websites or software in a digital environment. The manager uses feedback on the digital product to maintain and make enhancements and improvements during the product lifecycle.

This qualification is appropriate for those working in the public or private sector who interact with a wide range of people both inside and outside of their digital and technical development team and their organisation.

This qualification is aimed at learners over 18.

Will This be in the test Podcast Cover

Listen to our Podcast...

Dive into the future of education with "Will This Be in the Test?" where we explore how technology, policy, and societal changes are shaping learning. Don’t miss out on insightful conversations and inspiring stories!


Qualifications in Development

We are delighted to update you on the exciting progress being made as we transition the financial education qualifications previously provided by the London Institute of Banking and Finance (LIBF) to Agored Cymru.


As part of this initiative, we are currently developing the following qualifications to continue supporting learners in gaining essential financial knowledge and skills:

Level 1 Lessons in Financial Education Award (LiFE Award)
Level 1 / Level 2 Lessons in Financial Education Certificate (LiFE Cert)
Level 2 Award in Financial Education (AiFE)
Level 2 Certificate in Financial Education (CiFE)
Level 2 Certificate in Financial Capability and Careers Development (CeFCCD)
Level 1 / Level 2 Technical Award in Finance (TAF)
Level 3 Certificate in Financial Studies (CeFS)
Level 3 Diploma in Financial Studies (DipFS)
To ensure the success of these qualifications, we are establishing Steering Groups to gather insights from centres, educators, and stakeholders. Your input will be invaluable in shaping these qualifications to meet the needs of learners and education providers alike.
Consultation (4)
If you are interested in contributing to this important work, please get in touch with us.

Qualifications Under Review

The table shows qualifications currently under review.

Centres that have the qualifications on their framework will automatically be contacted to participate in the review.

If your centre would like to be included in the consultation please contact our Product Development Team by clicking the button below.

Qualification Extensions

The review dates for the following qualifications have been extended as shown below.

Qualification

Review date extended until

Agored Cymru Level 2 Award in Youth Work Principles (Wales)

31/03/2030

Agored Cymru Level 2 Certificate in Youth Work Practice (Wales)

31/03/2030

Agored Cymru Level 3 Certificate in Youth Work Practice (Wales)

31/03/2030

Agored Cymru Level 3 Diploma in Youth Work Practice (Wales)

31/03/2030

Agored Cymru Level 4 Diploma in Abdominal Aortic Aneurysm (AAA) Screening (Wales)

31/03/2028

Agored Cymru Level 3 Diploma in New Born Hearing Screening (Wales)

31/03/2028

Agored Cymru Level 3 Certificate for Diabetic Eye Screening Assistants (Wales)

31/03/2028

Agored Cymru Level 4 Diploma in Diabetic Eye Photography (Wales)

31/03/2028

Agored Cymru Level 4 Diploma in Diabetic Eye Grading (Wales)

31/03/2028

Agored Cymru Level 4 Diploma for Assistant Practitioners in Mammography Screening (Wales)

31/03/2028

Agored Cymru Level 3 Diploma in Fundamentals of Health Screening (Wales)

31/03/2028

Agored Cymru Level 2 Diploma in Primary Care Administration and Reception

30/06/2030

Agored Cymru Level 2 Certificate in Primary Care Administration and Reception

30/06/2030

Agored Cymru Level 2 Extended Award in Working with Victims/Survivors of Domestic Abuse

30/04/2027

Agored Cymru Level 2 Award in Working with Victims/Survivors of Domestic Abuse

30/04/2027

Agored Cymru Level 2 Award in Working with Individuals Affected by Coercive Control

30/04/2027

Agored Cymru Level 2 Award in the Principles of a Trauma Informed Approach

30/04/2027

Agored Cymru Level 2 Award in Resilience for Victims / Survivors of Domestic Abuse

30/04/2027

Agored Cymru Level 2 Award in Domestic Abuse Awareness

30/04/2027

Qualification Withdrawals

Agored Cymru has taken over the delivery of 14-19 Banking and Finance qualifications from the London Institute of Banking and Finance (LIBF)! This site is your go-to source for all updates related to the transfer, development, and delivery of these qualifications.

Explore official statements from Agored Cymru and the LIBF, review our roadmap for qualification development, and visit the FAQ section to find answers to common questions. This platform is continuously updated to ensure you have the latest information at your fingertips.



Key Dates

 

Last registration date

Last date for claims

Award in Learning Support for Children and Young People who have Additional Learning Needs

31/07/2025

15/06/2026

Certificate in Learning Support for Children and Young People who have Additional Learning Needs

31/07/2025

15/05/2027

Updates

Stock_Vertical (8)
Centre Assessment Standards Scrutiny (CASS) Policy is now called the Quality Assurance Awarding Policy. CASS surgeries are now called Quality Support Webinars.

Two policies have been updated:

  • ☑️ Conflict of Interest in Assessment and Internal Quality Assurance Policy and Procedure
  • ☑️ Retention of Assessment and Internal Quality Assurance Materials Policy and Procedure
We want your feedback...

Please check out the upcoming events and please let us know of subject areas that you feel we could consider as part of the next academic year schedule.

All feedback is appreciated so please add appropriate information to this small form:

Up next...

Our CASS Centre Guidance will be renamed Quality Assurance Awarding Guidance in light of the changes identified above. Please also look out for updated Artificial Intelligence Guidance in the coming weeks.

Two further policies will receive updates in the coming months:

-       Special Consideration for Assessment Policy and Procedure
-       Standardisation Policy

Quality Spotlight

For this bulletin's Quality Spotlight, we'd like to focus on Reasonable Adjustments and Special Considerations.

Useful Links:

    Centre Requirements and Responsibilities

    Centre Guidance Documents

    Policies

13

Vocational and Technical Qualifications (VTQs)

We have published a dedicated VTQ results webpage:   Delivery of VTQ Results for 2024 and Beyond   which provides guidance for those centres who currently deliver qualifications for learners who require progression to higher and/or further education.

Some of the remaining key dates and events to support the VTQ results process are listed in the table below:

Key dates

Event

8 May 2025

Deadline for submission of learner/IQA evidence for cross-centre moderation for Essential Skills for Work and Life.

22 May 2025

Deadline for submission of learner evidence and associated assessment IQA documentation for cross-centre moderation for Learning Core phase 3.

13 June 2025

Deadline for submission of claims for learners requiring progression.

11 July 2025

Results published to centres (i,e, where claims have been submitted accurately).

Cross-Centre Moderation Activities

12-1
  • A number of cross-centre moderation activities will continue to take place throughout 2024-2025. All centres offering the qualifications listed in the table below should contribute to a cross-centre moderation activity, where possible*. 
     
    Following each cross-centre moderation activity, we will be inviting contributing centres to a stakeholder panel which is a good opportunity for centres to discuss the outcomes of the activity, as well as meeting and networking with other centres delivering the same qualification(s).  

 

Qualification

Centre type

Submission of evidence deadline (noon)

Date of stakeholder panel

Skills for Further Study  

All centres  

20/03/2025  

29/04/2025  

Essential Skills for Work and Life  

All centres  

08/05/2025  

10/06/2025  

Learning Core**  

All centres  

22/05/2025  

24/06/2025  

Healthcare qualifications  

All centres   

17/07/2025  

19/08/2025  

New centres who have not been part of an external quality assurance (EQA) activity previously will be required to undertake individual EQA activity instead of cross-centre moderation, so that we can offer direct support and guidance on delivery, assessment and internal quality assurance (IQA).

  Learning Core Qualifications include: Personal and Social Education (PSE); Work Related Education (WRE); Learning in the Outdoors (LiTO), Wales, Europe and the World (WEW), and Exploring Worldviews (EWV).

Did you know
Did you know?

External quality assurance activities can take place while courses are still running. As long as internal quality assurance has taken place on part of the completed assessment, we can sample assessment evidence and internal quality assurance processes and documentation. Carrying out external quality assurance sampling in this way may contribute to the effective processing of claims.

Quality Support and Training

We have recently added some new sessions to our training and CPD provision for the following courses.

Recently Added Training Events
20-1
Centre Surgery

Using artificial intelligence in assessment and internal quality assurance

Find out more...

📅 Wednesday 21/05/2025
🕒 15:00 - 16:00
12-1
Standardisation

Assessment Standardisation for Learning Core Qualifications

Find out more...

📅 Tuesday 01/07/2025
🕒 15:00 - 16:00
12-1
Centre Surgery

Drop-in session - an opportunity for centres to raise any questions or queries with the Agored Cymru Quality team

Find out more...

📅 Tuesday 01/07/2025
🕒 15:00 - 16:00
Illustration showing webinar topic related to internal quality assurance and assessment processes
Standardisation

Internal Quality Assurance Standardisation for Learning Core Qualifications

Find out more...

📅 Tuesday 08/07/2025
🕒 15:00 - 16:00

Get in Touch

Access to HE

For queries regarding the delivery, moderation and award of
Access to Higher Education qualifications/units.

Centre Support

For queries regarding administration and how to register
learners and submit claims.

Quality
Assurance

For queries regarding assessment, quality assurance and award of all non-access
qualifications/units.

Business Development

For queries regarding the identification and development of new and existing curriculum opportunities.

Product Development

For queries regarding the content, review and development of qualifications/units, please contact.

Ebrill 2025

Bwletin Canolfan

Mae'r rhifyn hwn yn llawn diweddariadau i'ch helpu i gynllunio ymlaen llaw a chael y wybodaeth ddiweddaraf. Rydym yn datblygu cymwysterau newydd i ddiwallu anghenion sgiliau Cymru, gyda digon o gyfleoedd i ganolfannau gymryd rhan a llunio'r hyn a ddaw nesaf.

Fe welwch ddiweddariadau allweddol ar newidiadau polisi, adolygiadau o gymwysterau ac estyniadau, ynghyd â therfynau amser pwysig ar gyfer safoni ac ardystio.

Rydym hefyd yn gwahodd canolfannau i ymuno â'n Grwpiau Llywio i helpu i lunio dyfodol addysg ariannol, gan gefnogi dysgwyr i feithrin sgiliau hanfodol ar gyfer bywyd, dysgu a gwaith.

 Diolch am eich cefnogaeth—archwiliwch y bwletin llawn am fanylion a chyfleoedd.

MAIN SPLASH (600 x 350 px) (2)
Cliciwch i lywio i'r adran berthnasol

Cymwysterau Newydd

Rydym ar hyn o bryd yn datblygu cymwysterau newydd cyffrous ar gyfer dysgwyr ôl-16 mewn addysg bellach, chweched dosbarth a dysgu yn y gweithle. Mae’r rhain yn cynnwys pynciau mewn ystod o feysydd, er enghraifft, digidol, gofal iechyd a chwaraeon.

Ar gyfer ein dysgwyr cyn-16, rydym yn canolbwyntio ar ddatblygu Cymwysterau Cenedlaethol 14-16 newydd sy’n cefnogi amcanion a dibenion y Cwricwlwm i Gymru. Mae’r rhain yn cynnwys y cymwysterau TAAU (Tystysgrif Alwedigaethol Addysg Uwchradd) newydd sy’n gysylltiedig â gwaith, ynghyd â’r Gyfres Sgiliau a Chymwysterau Sylfaen.

Bydd y cymwysterau hyn yn adeiladu ar lwyddiant ein cymwysterau Craidd Dysgu presennol sydd wedi bod ar gael i ysgolion ers dros 10 mlynedd.

3-4

Gweinyddu Meddygol

L 2

Mae’r cymhwyster Agored Cymru Diploma Lefel 2 mewn Gweinyddu Meddygol yn cyflwyno’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen ar y rhai sy’n gweithio mewn rôl weinyddol mewn amgylchedd meddygol.  

Mae hyn yn cynnwys cyfathrebu, categoreiddio a storio gwybodaeth, delio â systemau cofrestru ac apwyntiadau cleifion yn effeithiol ac effeithlon.  Mae’r unedau dewisol yn caniatáu i’r dysgwyr ddewis pynciau sy’n briodol i’w rôl a’u lleoliad eu hunain. 

Mae’r cymhwyster hwn yn briodol ar gyfer rolau sy’n cynnwys:
·         Clerc Ward
·         Cynorthwyydd Gweinyddol
·         Derbynnydd
·         Clerc Archebu
·         Llywiwr Gofal Integredig / Llywiwr Gofal
·         Gweinyddwr Gofal Cleifion
·         Ysgrifennydd
·         Gweinyddwr Llif Cleifion
·         Cynorthwyydd Meddygol
·         Cydlynydd Gofal

Mae’r cymhwyster hwn wedi’i anelu at ddysgwyr dros 18 oed ac mae’n rhaid iddynt fod yn gweithio mewn lleoliad meddygol.

Ysgrifenyddion Meddygol

L 3

Mae’r cymhwyster Agored Cymru Diploma Lefel 3 ar gyfer Ysgrifenyddion Meddygol yn cyflwyno’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen gan y rhai sy’n cyflawni rôl ysgrifenyddol mewn lleoliad meddygol gan gynnwys egwyddorion moeseg a moesau meddygol.  

Bydd y dysgwr yn caffael y sgiliau a’r rhinweddau sydd eu hangen i weithio fel rhan o dîm meddygol sy’n rheoli apwyntiadau cleifion a systemau gweinyddu. Byddant yn deall rôl a swyddogaethau’r gwahanol adrannau yn eu lleoliad a gwybodaeth ymarferol o derminoleg feddygol, gan gynnwys enwau fferyllol.

Mae’r cymhwyster hwn yn briodol ar gyfer rolau sy’n cynnwys:
·         Uwch Dderbynnydd
·         Prif Dderbynnydd
·         Goruchwyliwr/Rheolwr Derbynfa
·         Gweinyddwyr Llif Cleifion
·         Uwch Weinyddwr Llif Gwaith
·         Uwch Weinyddwr Gofal Cleifion
·         Cydlynydd Gweinyddol
·         Ysgrifennydd Cefnogol
·         Ysgrifennydd Gweinyddol
·         Cynorthwyydd Staffio Meddygol
·         Ysgrifennydd Meddygol
·         Ysgrifennydd Tîm
·         Arweinydd Tîm

Mae’r cymhwyster hwn wedi’i anelu at ddysgwyr dros 18 oed ac mae’n rhaid iddynt fod yn gweithio mewn lleoliad meddygol.

Rheoli Cynnyrch Digidol

L 4

Mae’r cymhwyster Agored Cymru Diploma Lefel 4 mewn Rheoli Cynnyrch Digidol yn datblygu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i reoli cynhyrchion digidol drwy gydol eu cylch bywyd.

Mae’r rheolwr cynnyrch digidol yn gofyn am ddealltwriaeth gyfannol o’r dechnoleg, y data a gofynion defnyddwyr y cynnyrch ac mae’n defnyddio’r wybodaeth hon i ddod a thîm ynghyd a’i gyfarwyddo i gynhyrchu systemau, gwasanaethau, apiau, gwefannau neu feddalwedd mewn amgylchedd digidol.  Mae’r rheolwr yn defnyddio adborth ar y cynnyrch digidol i gynnal a gwneud gwelliannau yn ystod cylch oes y cynnyrch.


Mae’r cymhwyster hwn yn briodol ar gyfer y rhai sy’n gweithio yn y sector cyhoeddus neu breifat sy’n rhyngweithio ag ystod eang o bobl y tu mewn a’r tu allan i’w tîm datblygu digidol a thechnegol a’u sefydliad.

Will This be in the test Podcast Cover

Gwrandewch ar ein Podlediad...

Edrychwch tuag at ddyfodol addysg gyda "Will This be in the Test?" lle rydym yn archwilio sut mae technoleg, polisi a newidiadau cymdeithasol yn siapio dysgu. Peidiwch â cholli'r trafodaethau goleuedig a straeon ysbrydoledig!


Cymwysterau Mewn Datblygiad

Mae’n bleser gennym eich diweddaru ar y cynnydd cyffrous sy’n cael ei wneud wrth i ni drosglwyddo’r cymwysterau addysg ariannol a ddarparwyd yn flaenorol gan Sefydliad Bancio a Chyllid Llundain (LIBF) i Agored Cymru.

Fel rhan o’r fenter hon, rydym ar hyn o bryd yn datblygu’r cymwysterau canlynol i barhau i gefnogi dysgwyr i ennill gwybodaeth a sgiliau ariannol hanfodol:

Dyfarniad Lefel 1 Gwersi mewn Addysg Ariannol
Tystysgrif Lefel 1 / Lefel 2 Gwersi mewn Addysg Ariannol
Dyfarniad Lefel 2 mewn Addysg Ariannol
Tystysgrif Lefel 2 mewn Addysg Ariannol
Tystysgrif Lefel 2 mewn Gallu Ariannol a Datblygu Gyrfa
Dyfarniad Technegol Lefel 1 / Lefel 2 mewn Cyllid
Tystysgrif Lefel 3 mewn Astudiaethau Ariannol
Diploma Lefel 3 mewn Astudiaethau Ariannol

Rydym yn gweithio’n galed i sicrhau bod y cymwysterau hyn yn diwallu anghenion dysgwyr, yn cyd-fynd â safonau addysgol cyfredol, ac yn darparu sylfaen orau ar gyfer llythrennedd ariannol a pharodrwydd gyrfa.

Er mwyn sicrhau llwyddiant y cymwysterau hyn, rydym yn sefydlu Grwpiau Llywio i gasglu gwybodaeth gan ganolfannau, addysgwyr a rhanddeiliaid.  Bydd eich mewnbwn yn amhrisiadwy wrth lunio’r cymwysterau hyn i ddiwallu anghenion dysgwyr a darparwyr addysg fel ei gilydd.
Consultation (4)
Os oes gennych ddiddordeb mewn cyfrannu at y gwaith pwysig hwn, cysylltwch â ni drwy e-bost.

Cymwysterau Dan Adolygiad

Cymwysterau Sydd Wedi’u Hymestyn

Mae’r dyddiadau adolygu ar gyfer y cymwysterau canlynol wedi’u hymestyn fel y dangosir isod.

Qualification

Review date extended until

Agored Cymru Dyfarniad Lefel 2 mewn Egwyddorion Gwaith Ieuenctid (Cymru))

31/03/2030

Agored Cymru Tystysgrif Lefel 2 mewn Ymarfer Gwaith Ieuenctid (Cymru)

31/03/2030

Agored Cymru Tystysgrif Lefel 3 mewn Ymarfer Gwaith Ieuenctid (Cymru)

31/03/2030

Agored Cymru Diploma Lefel 3 mewn Ymarfer Gwaith Ieuenctid (Cymru)

31/03/2030

Agored Cymru Diploma Lefel 4 mewn Sgrinio am Ymlediad Aortaidd yn yr Abdomen (Cymru)

31/03/2028

Agored Cymru Diploma Lefel 3 mewn Sgrinio Clyw Babanod (Cymru)

31/03/2028

Agored Cymru Tystysgrif Lefel 3 ar gyfer Cynorthwywyr Sgrinio Llygaid Diabetig (Cymru)

31/03/2028

Agored Cymru Diploma Lefel 4 mewn Ffotograffiaeth Llygaid Diabetig (Cymru)

31/03/2028

Agored Cymru Diploma Lefel 4 mewn Graddio Llygaid Diabetig (Cymru)

31/03/2028

Agored Cymru Diploma Lefel 4 ar gyfer Ymarferwyr Cynorthwyol mewn Sgrinio Mamograffeg (Cymru)

31/03/2028

Agored Cymru Diploma Lefel 3 mewn Hanfodion Sgrinio Iechyd (Cymru)

31/03/2028

Agored Cymru Diploma Lefel 2 mewn Gwasanaethau Gweinyddol a Derbynfa Gofal Sylfaenol

30/06/2030

Agored Cymru Tystysgrif Lefel 2 mewn Gwasanaethau Gweinyddol a Derbynfa Gofal Sylfaenol

30/06/2030

Agored Cymru Dyfarniad Estynedig Lefel 2 mewn Gweithio gyda Dioddefwyr/Goroeswyr Cam-drin Domestig

30/04/2027

Agored Cymru Dyfarniad Lefel 2 mewn Gweithio gyda Dioddefwyr/Goroeswyr Cam-drin Domestig

30/04/2027

Agored Cymru Dyfarniad Lefel 2 mewn Gweithio gydag Unigolion wedi Effeithio gan Reolaeth Orfodol

30/04/2027

Agored Cymru Dyfarniad Lefel 2 mewn Egwyddorion Dull Gwybodus o Drawma

30/04/2027

Agored Cymru Dyfarniad Lefel 2 mewn Gwydnwch i Ddioddefwyr / Goroeswyr Cam-drin Domestig

30/04/2027

Agored Cymru Dyfarniad Lefel 2 mewn Ymwybyddiaeth o Gam-drin Domestig

30/04/2027

Cymwysterau sydd wedi’u Tynnu’n ôl

Mae Agored Cymru wedi cymryd yr awenau dros gyflwyno cymwysterau Bancio a Chyllid 14-19 gan London Institute of Banking and Finance (LIBF)! Mae'r wefan hon yn ffynhonnell bwysig ar gyfer pob diweddariad sy'n ymwneud â'r trosglwyddo, datblygiad, a chyflwyno'r cymwysterau hyn.

Gallwch ddod o hyd i ddatganiadau swyddogol gan Agored Cymru a'r LIBF, adolygwch ein map ffordd amser ar gyfer datblygiad cymwysterau, ac ewch i'r adran Cwestiynau Cyffredin i ddod o hyd i atebion i gwestiynau rydym wedi derbyn yn barod am y mater hwn. Mae'r wefan hon yn cael ei ddiweddaru'n barhaus i sicrhau bod y wybodaeth ddiweddaraf gennych bob amser.



Dyddiadau Allweddol

 

Dyddiad cofrestru diwethaf

Dyddiad olaf ar gyfer hawliadau

Dyfarniad mewn Cymorth Dysgu i Blant a Phobl Ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol

31/07/2025

15/06/2026

Tystysgrif mewn Cymorth Dysgu i Blant a Phobl Ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol

31/07/2025

15/05/2027

Diweddariadau

Stock_Vertical (8)
Gelwir Polisi Craffu ar Safonau Asesu Canolfannau (CASS) bellach yn Bolisi Dyfarnu Sicrwydd Ansawdd. Gelwir Cymorthfeydd CASS bellach yn Weminarau Cefnogaeth Ansawdd.

Mae dau bolisi wedi’u diweddaru:

  • ☑️ Polisi a Gweithdrefn Gwrthdaro Buddiannau o ran Asesu a Sicrhau Ansawdd Mewnol
  • ☑️ Polisi a Gweithdrefn Cadw Deunyddiau Asesu a Sicrhau Ansawdd Mewnol
Holiadur

Edrychwch ar y digwyddiadau sydd i ddod a rhowch wybod i ni am feysydd pwnc y teimlwch y gallem eu hystyried fel rhan o amserlen y flwyddyn academaidd nesaf.
Gwerthfawrogir yr holl adborth felly ychwanegwch wybodaeth briodol ar y ffurflen fer hon:

Beth sy’n dod nesaf

Bydd ein Canllaw CASS i Ganolfannau yn cael ei ail-enwi yn Ganllaw Dyfarnu Sicrwydd Ansawdd yn sgil y newidiadau a nodir uchod. Cadwch lygad hefyd am Ganllawiau Deallusrwydd Artiffisial wedi’u diweddaru yn yr wythnosau nesaf.
 
Bydd dau bolisi pellach yn cael eu diweddaru yn ystod y misoedd nesaf:
 
-     Polisi a Gweithdrefn Ystyriaethau Arbennig ar gyfer Asesu
-     Polisi Safoni

Ffocws ar Ansawdd

Hoffem dynnu eich sylw at rai ystyriaethau allweddol yn, yr hyn yr ydym yn ei alw, ein Ffocws Ansawdd.

Ar gyfer y bwletin hwn, rydym wedi nodi’r maes allweddol Gwrthdaro buddiannau.

✅  Yn ddiweddar fe wnaethom gynghori pob canolfan i gyflwyno Addasiadau Rhesymol ac Ystyriaethau Arbennig ar-lein trwy’r wefan.  Dylai canolfannau sicrhau eu bod yn dilyn y canllawiau fel y nodir yng Nghanllaw’r Ganolfan ar gyfer Cyflwyno Ceisiadau am Addasiadau Rhesymol ac Ystyriaethau Arbennig.
Wrth roi gwybod i Agored Cymru am newidiadau i staff canolfannau sy’n cyflwyno, asesu a sicrhau ansawdd cymwysterau Agored Cymru, dylai canolfannau sicrhau eu bod yn dilyn y cyfarwyddiadau a nodir yn y canllaw canolfan i Ddiweddaru Tiwtoriaid, Aseswyr a Swyddogion Sicrhau Ansawdd Mewnol ar gyfer Cymwysterau Cymeradwy.

Dolenni defnyddiol:

    Gofynion a Chyfrifoldebau’r Ganolfan

    Dogfennau Canllawiau Canolfan

    Polisïau

13

Cymwysterau Galwedigaethol a Thechnegol (VTQs)

Rydym wedi cyhoeddi tudalen we bwrpasol ar gyfer canlyniadau Cymwysterau Galwedigaethol a Thechnegol:

Cyflwyno canlyniadau ar gyfer Cymwysterau Galwedigaethol a Thechnegol ar gyfer 2024 a thu hwnt

Mae'r tudalen yn rhoi arweiniad i’r canolfannau hynny sy’n cyflwyno cymwysterau ar hyn o bryd i ddysgwyr sydd angen datblygu i addysg uwch a/neu addysg bellach.

Mae rhai o’r dyddiadau a’r digwyddiadau allweddol i gefnogi proses canlyniadau VTQ wedi’u rhestru yn y tabl isod:

Dyddiadau allweddol

Digwyddiad

8 Mai 2025

Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno tystiolaeth dysgwyr/sicrhau ansawdd mewnol ar gyfer cymedroli ar draws canolfannau ar gyfer Sgiliau Hanfodol ar Gyfer Bywyd a Gwaith

22 Mai 2025

Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno tystiolaeth dysgwyr a dogfennaeth sicrhau ansawdd mewnol yr asesiadau cysylltiedig ar gyfer cymedroli ar draws canolfannau ar gyfer y Craidd Dysgu - Cam 3.

13 Mehefin 2025

Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno hawliadau ar gyfer galluogi dysgwyr i symud ymlaen.

11 Gorffennaf 2025

Cyhoeddi canlyniadau i ganolfannau (h.y. lle mae hawliadau wedi’u cyflwyno'n gywir).

Cymedroli ar Draws Canolfannau

12-1
  • Bydd nifer o weithgareddau cymedroli ar draws canolfannau yn parhau i gael eu cynnal drwy gydol 2024-2025. Dylai pob canolfan sy’n cynnig y cymwysterau a restrir yn y tabl isod gyfrannu at weithgaredd cymedroli ar draws canolfannau, lle bo modd*.

    Yn dilyn pob gweithgaredd cymedroli ar draws canolfannau, byddwn yn gwahodd canolfannau sydd wedi cymryd rhan i banel rhanddeiliaid, sy’n gyfle da i ganolfannau drafod canlyniadau’r gweithgaredd, yn ogystal â chyfarfod a rhwydweithio â chanolfannau eraill sy’n cyflwyno’r un cymhwyster/cymwysterau.

 

Bydd nifer o weithgareddau cymedroli ar draws canolfannau yn parhau i gael eu cynnal drwy gydol 2024-2025. Dylai pob canolfan sy’n cynnig y cymwysterau a restrir yn y tabl isod gyfrannu at weithgaredd cymedroli ar draws canolfannau, lle bo modd*.

Yn dilyn pob gweithgaredd cymedroli ar draws canolfannau, byddwn yn gwahodd canolfannau sydd wedi cymryd rhan i banel rhanddeiliaid, sy’n gyfle da i ganolfannau drafod canlyniadau’r gweithgaredd, yn ogystal â chyfarfod a rhwydweithio â chanolfannau eraill sy’n cyflwyno’r un cymhwyster/cymwysterau.

Cymhwyster 

Math o Ganolfan 

Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno tystiolaeth (canol dydd) 

Dyddiad y panel i randdeiliaid 

Sgiliau ar gyfer Astudiaethau Pellach 

Pob canolfan 

20/03/2025

29/04/2025

Sgiliau Hanfodol ar Gyfer Bywyd a Gwaith

Pob canolfan  

08/05/2025

10/06/2025

Craidd Dysgu** 

Pob canolfan 

22/05/2025

24/06/2025

Cymwysterau Gofal Iechyd   

Pob canolfan 

17/07/2025

19/08/2025

Bydd yn ofynnol i ganolfannau newydd nad ydynt wedi bod yn rhan o weithgarwch sicrhau ansawdd allanol (EQA) o’r blaen ymgymryd â gweithgaredd EQA unigol yn hytrach na chymedroli ar draws canolfannau, fel y gallwn gynnig cymorth ac arweiniad uniongyrchol ar gyflwyno, asesu a sicrhau ansawdd mewnol (IQA).

Mae Cymwysterau’r Craidd Dysgu yn cynnwys: Addysg Bersonol a Chymdeithasol; Addysg Gysylltiedig â Gwaith; Dysgu yn yr Awyr Agored; Cymru, Ewrop a’r Byd; ac Archwilio Bydolygon.

Did you know
Oeddech chi'n gwybod?

Gall gweithgareddau sicrhau ansawdd allanol ddigwydd tra bod cyrsiau’n dal yn cael eu cyflwyno. Cyn belled â bod sicrhau ansawdd mewnol wedi’i gyflawni ar ran o’r asesiad sydd wedi’i gwblhau, gallwn samplu tystiolaeth asesu a’r prosesau a’r ddogfennaeth sicrhau ansawdd mewnol. Gall cynnal samplu sicrhaud ansawdd allanol fel hyn gyfrannu at brosesu hawliadau yn effeithiol.

Sicrhau Ansawdd a Hyfforddiant

Rydym wedi ychwanegu sesiynau newydd yn ddiweddar at ein darpariaeth hyfforddiant a DPP ar gyfer y cyrsiau canlynol.

Digwyddiadau Hyfforddiant a Ychwanegwyd yn Ddiweddar
Illustration showing webinar topic related to internal quality assurance and assessment processes
Safoni

Safoni Sicrhau Ansawdd Mewnol ar gyfer Cymwysterau Craidd Dysgu

Darganfod mwy...

📅 Mawrth 08/07/2025
🕒 15:00 - 16:00
20-1
Cymorth 

Defnydd deallusrwydd artiffisial mewn asesu a sicrhau ansawdd mewnol

Darganfod mwy...

📅 Mercher 21/05/2025
🕒 15:00 - 16:00
12-1
Safoni

Safoni Asesu ar Gyfer Cymwysterau Craidd Dysgu

Darganfod mwy...

📅 Mawrth 01/07/2025
🕒 15:00 - 16:00
12-1
Cymorth

Cymorth Ar-lein - cyfle i ganolfannau godi unrhyw gwestiynau neu ymholiadau i dîm Sicrhau Ansawdd Agored Cymru

Darganfod mwy...

📅 Llun 07/04/2025
🕒 15:00 - 16:00

Cysylltu â Ni

Mynediad i AU

Ar gyfer ymholiadau ynghylch cyflwyno, cymedroli a dyfarnu cymwysterau/unedau Mynediad i Addysg Uwch, cysylltwch â

Cymorth Canolfan

Ar gyfer ymholiadau ynghylch gweinyddiaeth a sut i gofrestru dysgwyr a chyflwyno hawliadau, cysylltwch â

Sicrhau
Ansawdd

Ar gyfer ymholiadau ynghylch asesu, sicrhau ansawdd a dyfarnu pob cymhwyster/uned ac eithrio Mynediad i Addysg Uwch, cysylltwch â

Datblygu
Busnes

Ar gyfer ymholiadau ynghylch nodi a datblygu cyfleoedd cwricwlwm newydd a phresennol, cysylltwch â

Datblygu Cynnyrch

Ar gyfer ymholiadau ynghylch cynnwys, adolygu a datblygu cymwysterau/unedau, cysylltwch â