---
title: The Skills Suite
description: Mae’r Gyfres Sgiliau yn gyfres o gymwysterau lle mae athrawon yn creu eu llwybrau eu hunain ar gyfer dysgwyr o amrywiaeth o bynciau cynhwysol, er mwyn datblygu sgiliau gwaith a bywyd sy’n effeithiol ac yn berthnasol.
---

[![AC FC Land (no strap)](https://hubspot.agored.cymru/hubfs/AC%20FC%20Land%20(no%20strap).jpg)](http://www.agored.cymru)

![menu](https://f.hubspotusercontent40.net/hubfs/7479797/menu.png)

![close\_24px](https://7479797.fs1.hubspotusercontent-na1.net/hubfs/7479797/close_24px.svg)

[Follow us on Facebook](https://www.facebook.com/agored.cymru/) [Follow us on Instagram](https://www.instagram.com/agoredcymru) [Follow us on Youtube](https://www.youtube.com/@agored-cymru) [Follow us on Linkedin](https://uk.linkedin.com/company/agoredcymru) [Follow us on Bluesky](https://bsky.app/profile/agoredcymru.bsky.social)

Y Gyfres Ton 3

## Y Gyfres Sgiliau

[Discover More](https://www.hubspot.com/) [Get Started](https://www.hubspot.com/)

- [Hwb Ton 3](https://hubspot.agored.cymru/agored-cymru-14-16-qualifications-for-tomorrows-wales?hsLang=en)
- Y Gyfres Sgiliau

[English](https://hubspot.agored.cymru/the-skills-suite?hsLang=en)

**Mae'r Gyfres Sgiliau** yn ystod o gymwysterau ble mae modd i athrawon greu llwybrau eu hun ar gyfer dysgwyr oddi wrth amrywiaeth o bynciau cynhwysfawr er mwyn datblygu sgiliau effeithiol a pherthnasol gwaith a bywyd, gyda phob pwnc wedi ei ddysgu fel uned unig, fach.

Mae'r Gyfres Sgiliau Agored Cymru wedi'i wneud allan o:

- **30 pwnc Sgiliau Bywyd, ac**
- **19 pwnc Sgiliau Gwaith**

 **Mae manyleb ein Cyfres Sgiliau bellach wedi'i chymeradwyo gan Gymwysterau Cymru, ac mae'n bleser gennym allu ei rhannu â chi.** 

Mae'r fanyleb Cyfres Sgiliau nawr ar gael i'w weld yn Saesneg, gyda chyfieithiad yr argraffiad Gymraeg ar waith, ar gyfer rhyddhad dim hwyrach na Dydd Llun yr 2il o Dachwedd. Os ydych eisiau derbyn y fanyleb yn y Gymraeg cyn gynted ag y mae'n barod, cysylltwch â'n tîm [Datblygu Busnes](mailto:businessdevelopment@agored.cymru).  
   
Mae dogfennaeth bellach ar yr unedau sydd ar gael yn dod yn fuan, ond os ydych eisiau mwy o wybodaeth ar uned benodol o fewn y fanyleb, cysylltwch â'n tîm[Datblygu Cynnyrch](mailto:productdevelopment@agored.cymru).

Pam dewis Agored Cymru?

Mae gan Agored Cymru dros 30 mlynedd o brofiad yn y sector cymwysterau galwedigaethol, ac mae Ton 3 yn adeiladu ar y sylfaen galwedigaethol hwn.

Mae ein dull gweithredu wedi'i lywio gan ein profiad mewn dysgu galwedigaethol, gan ganolbwyntio ar sgiliau ymarferol, defnydd yn y byd go iawn, a chefnogi dysgwyr â gwahanol gryfderau a llwybrau. 

 Rydym yn gweithio'n agos gyda chanolfannau i ddarparu arweiniad clir, cefnogaeth ymatebol, a chymwysterau sydd wedi'u cynllunio i weithio’n ymarferol.

Yr Unedau:

#### **Sgiliau Bywyd**

 Dyma'r **30 Uned Sgiliau Bywyd** (mae unedau sydd wedi'u nodi ag \* yn unedau Sgiliau Bywyd ychwanegol a gynigir gan Agored Cymru yn unig): 

| Celf a Chrefft | Cerddoriaeth, Dawns a Drama | Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant | Cyfranogiad Cymunedol |
| --- | --- | --- | --- |
| Cymorth Cyntaf Sylfaenol | Cynaliadwyedd Ar Waith | Cynllunio a Pharatoi Bwyd | \*Cynnal a Chadw Beiciau |
| Deall Eich Hun ac Eraill | \*Deall Effeithiau Camddefnyddio Alcohol a Sylweddau | Democratiaeth Ar Waith | Dewisiadau Moesegol |
| Diogelwch Ar-Lein | Diogelwch Personol | Ffilm a Chyfryngau Digidol | Ffordd Iach o Fyw |
| Ffydd a Chred yn y Gymuned | Garddio Ymarferol | Gofalu am Eraill | Gwaith Tîm |
| Gwerthoedd ar gyfer Bywyd | Gwyddoniaeth a Thechnoleg mewn Bywyd Bob Dydd | Iaith Arwyddion Prydain | Iechyd Meddwl a Lles |
| Llythrennedd Ariannol | Perthnasoedd Iach | Rheoli a Chynnal a Chadw Cartref | Sgiliau yn yr Amgylchedd Naturiol |
| Y Gyfraith Bob Dydd | Ymarfer Corff i Bawb |  |  |

#### **Sgiliau Gwaith**

 Dymar'r **19 Uned Sgiliau Gwaith:**

| Archwilio Llwybrau Gyrfa | Cyllid Busnes | Cynllunio Datblygiad Personol | Creadigrwydd Gyrfa |
| --- | --- | --- | --- |
| Datblygu Economaidd Cynaliadwy | Deall y Farchnad Swyddi Sy’n Newid | Defnyddio TG yn y Gweithle | Goresgyn Rhwystrau |
| Gwasanaeth Cwsmeriaid | Gweithio yng Nghymru | Gwneud Cais am Swyddi | Hawliau a Chyfrifoldebau yn y Gweithle |
| Lles a Gwaith | Meithrin Meddylfryd Twf | Menter | Profiad Gwaith |
| Swyddi’r Dyfodol | Tegwch a Chynhwysiant yn y Gweithle | Technegau Cyfweld a Hyder |  |

Pam ydy’n unigryw?

Yr hyn sy'n gwneud y Gyfres Sgiliau mor hyblyg i ddysgwyr yw’r gallu i gymysgu unedau i greu llwybr ddysgu unigryw sy'n gweddu eu cryfderau, diddordebau, ac amcanion datblygu.

Gellir dyfarnu’r cymwysterau Sgiliau Bywyd a Gwaith fel a ganlyn:

- Dyfarniad
- Tystysgrif
- Diploma

Cynllunio eich cwricwlwm 14-16?

P’un a ydych yn dechrau cynllunio ar gyfer mis Medi 2027 neu eisiau deall y cyfleoedd sydd ar gael, mae ein tîm yma i'ch helpu.

Siaradwch â ni am:

- cynllunio eich cynnig Cyfres Sgiliau
- Dewis yr unedau cywir i'ch dysgwyr
- Cyflwyno a gweithredu
- Unrhyw gwestiynau am Don 3

[Cyngor ar eich cwricwlwm](https://share-eu1.hsforms.com/1DybpfnpfSROnTvpHN2Y3WA2e4j8w)

Gyda phwy y byddwch yn siarad:

Oes gennych gwestiwn? Gall ein tîm Datblygu Busnes eich helpu i archwilio'r Gyfres Sgiliau ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych!

- ![Frances Lee](https://hubspot.agored.cymru/hs-fs/hubfs/Email%20Marketing%20Images%20(6).png?width=600&height=600&name=Email%20Marketing%20Images%20(6).png)
  
  **Frances Lee**
  
  **Pennaeth Datblygu Busnes**
  
  **Siaradwr Cymraeg**
- ![Sam Hopkins](https://hubspot.agored.cymru/hs-fs/hubfs/2-Jul-09-2026-02-42-15-0418-PM.png?width=600&height=600&name=2-Jul-09-2026-02-42-15-0418-PM.png)
  
  **Sam Hopkins**
  
  **Rheolwr Datblygu Busnes**
  
  **De Ddwyrain Cymru**
- ![Eryl Ann Parry Jones](https://hubspot.agored.cymru/hs-fs/hubfs/5-4.png?width=600&height=600&name=5-4.png)
  
  **Eryl Ann Parry Jones**
  
  **Rheolwr Datblygu Ysgolion** 
  
  **Gogledd Cymru**
  
  **Siaradwr Cymraeg**
- ![Josh Rees](https://hubspot.agored.cymru/hs-fs/hubfs/Josh%20B%26W%20Prt%20(1)-1.png?W%20Prt%20(1)-1.png&width=1365&height=1365&name=Josh%20B%26W%20Prt%20(1)-1.png?W%20Prt%20(1)-1.png)
  
  **Josh Rees**
  
  **Rheolwr Datblygu Ysgolion** 
  
  **De Cymru**
- ![Scott Mowberry](https://hubspot.agored.cymru/hs-fs/hubfs/4-Jul-09-2026-02-43-45-0024-PM.png?width=600&height=600&name=4-Jul-09-2026-02-43-45-0024-PM.png)
  
  **Scott Mowberry**
  
  **Rheolwr Cyfrifion Busnes**
  
  **Lloegr a Gogledd Iwerddon**
- ![Ryan Owen](https://hubspot.agored.cymru/hs-fs/hubfs/3-Jul-09-2026-02-43-13-2891-PM.png?width=600&height=600&name=3-Jul-09-2026-02-43-13-2891-PM.png)
  
  **Ryan Owen**
  
  **Swyddog Datblygu Busnes**

[Gweler manyleb y Gyfres Sgiliau](https://www.agored.cymru/File/5853) [Cyngor ar eich cwricwlw](mailto:datblygubusnes@agored.cymru)

##### Overview

Ystod oedran: cyn-16, 16-18, ac 18+

Iaith: Cymraeg - Saesneg

Croeso i bob ysgol

#### Uwchgynadleddau TON 3 - Cam 2

Bydd ein tîm Datblygu Busnes yn ôl ar daith yr hydref hwn, gan weithio gydag ysgolion sy'n cynnal ein huwchgynadleddau ledled Cymru fel rhan o Gam 2 ein Huwchgynadleddau Ton 3. 

Bydd Cam 2 yn canolbwyntio ar agweddau ymarferol cyflwyno Ton 3 y Cymwysterau Cenedlaethol 14-16 newydd i Gymru, gan gynnwys addysgu a dysgu, cynllunio'r cwricwlwm, amserlennu, yr adnoddau sydd ar gael, a’r gefnogaeth sydd ar gael gan Agored Cymru. 

Ar hyn o bryd rydym yn casglu enwau'r rhai sydd â diddordeb dros yr haf. Os hoffech fynychu sesiwn, cynnal uwchgynhadledd, neu os oes gennych gwestiwn am Don 3, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. 

[Cysylltwch i holi am ein Huwchgynadleddau](mailto:businessdevelopment@agored.cymru)

[![Untitled design (1)](https://hubspot.agored.cymru/hubfs/Untitled%20design%20(1).png)](https://www.hubspot.com/)

[facebook icon](https://www.facebook.com/agored.cymru/) [twitter icon](https://x.com/agoredcymru) [instagram icon](https://www.instagram.com/agoredcymru) [youtube icon](https://www.youtube.com/@agoredcymru896) [linkedin icon](https://uk.linkedin.com/company/agoredcymru)

### Cysylltwch â ni

Bangor **01248 670011**

Caerdydd **02920 747866**

[info@agored.cymru](https://www.agored.cymru/Email/info)

###### Get In Touch

Bangor **01248 670011**

Cardiff **02920 747866**

[info@agored.cymru](https://www.agored.cymru/Email/info)

Copyright © 2026 MakeWebBetter All Rights Reserved.

[Privacy Policy |](https://www.hubspot.com/) [Terms & Conditions](https://www.hubspot.com/)