Apprenticeships
Agored Cymru offers qualifications in a range of Apprenticeship Frameworks in a variety of sector areas. We are committed to developing qualifications that meet the needs of employers throughout Wales. Each qualification meets the requirements of the current Specification of Apprenticeship Standards for Wales (SASW) and has been designed in conjunction with sector expertise.
The Agored Cymru Apprenticeships Package
We provide the complete apprenticeship qualification package, this makes us the perfect partner for providers looking to simplify their Apprenticeship administration by working with one dedicated Awarding Body.
High Quality Apprenticeship Qualifications
We have developed qualifications that meet the requirements of over 30 Apprenticeship Frameworks, covering a variety of different sectors.
-1.png)
Contact Business Development to discuss tailoring and curriculum building planning
What are the Qualifications?
Essential Application of Number Skills
Essential Application of Number Skills focuses on:
- Understanding Numerical Data
- Carrying out Calculations
- Interpreting and Presenting Results and Findings
Each of the qualifications is mapped to the Essential Skills Wales Standards. Learners' skills in these areas should be initially and diagnostically assessed in order to establish the level at which they are working.

Essential Communication Skills
Essential Communication focuses on skills in:
- Speaking and Listening
- Reading
- Writing
Each of the qualifications is mapped to the Essential Skills Wales Standards. Learners should be initially and diagnostically assessed to establish the level at which they are working.

Essential Digital Literacy Skills
Essential Digital Literacy is about knowledge, skills, attitudes and behaviours in the use of digital devices.
There are five strands to Essential Digital Literacy from Entry 1- Level 3
- Digital Responsibility- knowing how to stay safe and act appropriately online
- Digital Productivity – knowing which technologies, tools and techniques to use and how to organise, share and protect digital information
- Digital Information Literacy- being able to find, critically evaluate and use digital information safely
- Digital Collaboration- sharing knowledge and collaborating with others to complete tasks and solve problems
- Digital Creativity- Being able to use digital media to complete tasks, generate content and develop opportunities
In order to gain the Essential Digital Literacy Skills qualification, learners must demonstrate their skills in a controlled task which includes a structured discussion.
The controlled tasks are pre- set and available in a variety of contexts. There is an opportunity for centres to create their own controlled tasks, particularly for learners working within a specific industry or sector.

Essential Employability Skills
Essential Employability Skills are a set of social behaviours and skills that can be acquired and are seen as relevant to performing within all employment roles. These skills help employees interact and work with others in a variety of situations and are transferable, not only between different roles within an organisation, but across different employment sectors. Essential Employability skills do not include technical skills or qualifications required to undertake specific specialist roles.
The Entry 3 to Level 3 Essential Employability Skills qualifications consist of four main subject areas:
- Planning and Organisation
- Creativity and Innovation
- Critical Thinking and Problem Solving
- Personal Effectiveness
In order to gain the Essential Employability Skills qualifications, learners must demonstrate their skills in both a controlled task and a structured discussion.




Digital Qualifications
Agored Cymru works with sector leading organisations and specialists within the ICT / Digital sector to develop innovative and specialist qualifications. With such a comprehensive range and as the only awarding body in Wales offering many of these qualifications, Agored Cymru is at the forefront of this constantly developing sector.
See a selection of the qualifications we offer below - all of these qualifications sit within an Apprenticeship Framework:
Want to know more about our full range of Digital Qualifications?
.png)
These qualifications develop an understanding of the importance of focussing on users when designing digital systems and services. It looks at the processes which inform the design, redesign and updating of products and services that allow users to participate fully to achieve their goals with a positive user experience.
These qualifications give candidates skills and knowledge to take on the role of ‘subject matter expert’ for IT user skills within their workplace.
Progression Opportunities
✅ Level 2 may progress to level 3 User-Centred Design
✅ Level 3 may progress to level 4 User-Centred Design
✅ Level 4 may progress onto a degree apprenticeship programme.
In UCD, the design teams involve users throughout the design process to develop User experience (UX) insights that inform interaction design, the design of content and service design using inclusive and accessible design methods.
Level 2 |
At level 2, the qualification introduces the learner to the knowledge of design features that enhance UX and develops awareness of the need for UCD and associated skills for participating in the UCD process.
Level 3 |
At level 3, the learner will be required to analyse the findings of research, conduct UX design, create content for digital products and services and carry out service design assignments.
Level 4 |
At level 4, user centred design activities involve building capability, knowledge, talent and expertise within the team that delivers UCD activities, including specialising in one area and undertaking an applied project to support experiential learning.

%20(2).png)
Energy and Carbon Management
Our groundbreaking ‘net zero’ qualification will help Wales meet its carbon neutral targets and train the next generation of sustainable business leaders.
In 2023 we created the Level 3 Diploma in Energy and Carbon Management, a qualification focused on developing the skills and knowledge required to analyse systems and processes involved in energy consumption and carbon emissions within an organisation.
This qualification sits with the Energy Management apprenticeship framework.
.png?width=400&height=400&name=Polaroid%20(11).png)
“A lot of work has gone into making this a future-proof qualification that can grow given advances in technology and in line with the Welsh Government’s net zero plans, effectively looking to develop the skills needed for this and future generations.”
The Agored Cymru Level 3 Diploma in Energy and Carbon Management looks at the skills and knowledge required for the management of energy consumption and carbon emissions within an organisation. It considers sustainability of all resources including water and also waste management.
This qualification is appropriate for someone working in an energy management role, or similar, in organisations of all sizes and sectors.
It is also appropriate for those working in facilities, finance or any other roles with a responsibility for managing energy and carbon within their own organisation. This qualification meets the carbon zero agenda in Wales. It also considers impact of energy consumption and carbon emissions on the environment, both locally and globally.
Progression Opportunities
✅ Energy or Senior Energy Management Role
✅ Net Zero consultancy
✅ Environmental Health and Safety
Skills for Employment
Agored Cymru Agored Cymru is putting employability skills at the heart of education in Wales.
As an organisation we pride ourselves on creating quality, industry led qualifications and rewarding achievement. Everything we produce is designed to benefit the learner, individually, socially and economically. We believe development in these three areas enhance the employability skills of the learner.
Here's what our Centres have to say...
"During the 2022-2023 academic year, NPTC Group saw a remarkable improvement in the completion rate for our skills qualifications within the School of Creative Industries. In the previous year, our completion rate was in the 20% range. However, through a renewed focus and implementation of the Skills for Employment qualifications with Agored, we were able to increase this to 77% by the end of 2023.
This progress highlights our shared commitment with Agored to equip students with valuable employability skills and ensuring they are thoroughly prepared for the workforce."
.png)
Sam Philpot - NPTC Group
Did you know that Agored Cymru offers over 220 Post-16 qualifications?
We continuously innovate to meet the changing needs of Welsh education, ensuring our qualifications remain relevant and valuable. Explore new ways to work with us and discover the benefits of our diverse qualification offerings.
Why Choose Agored Cymru?
Capture and increase more learner’s through advocating the benefits of evidence-based assessment boost your learner’s confidence by promoting our learning pathways as credible routes, onto FE and into an amazing job role and future career!
Essential Skills Wales
Agored Cymru's Essential Skills Wales (ESW) qualifications support the development of skills needed for education, work and life and are aimed at those accessing learning in a wide range of environments outside of mainstream school. Read the course details above
.gif)
Agored Cymru has over 30 years’ experience of offering Access to HE Diplomas. In that time, we have created life-changing opportunities and enabled thousands of learners to progress into Higher Education.
The Diplomas provide opportunities for adult learners to develop the skills, knowledge and confidence needed to successfully progress to higher education. Our Diplomas are available across a range of subject areas, including health, science, computing and the humanities and social sciences.
We work with all FE institutions in Wales to offer the Access to Higher Education Diplomas.


Take a look at our exemplar career route below, taken from our ever-growing Access to HE provision.
Proof that choosing us really can help to open up career paths to a wider cross-section of learners that might not usually follow an educational route:
.png)
Find out how AHE provision can help your learners achieve their future career goals
Meet Our Business Development Managers
Our dedicated Business Development Managers (BDMs) play a crucial role in supporting our centres and ensuring that learners achieve their full potential. Get to know the passionate professionals who are here to help you make the most of your Agored Cymru provision.

Peter Johnson
Peter Johnson has over 20 years of experience at Agored Cymru, covering a range of roles from centre support to quality assurance and business development. He is passionate about helping centres offer the right provision for their learners and knowing that it makes a difference. In his spare time, Peter enjoys running, cycling, exploring new places, and loves a good floor plan and unseasonably warm weather. He works with the three other BDMs, having a pan-Wales and wider remit, ensuring comprehensive support across all regions.

Eryl Ann Parry Jones
Eryl has over 25 years of experience in education and training, and she is passionate about making a difference to people, promoting the Welsh language, and influencing change. Eryl also works as a lay inspector for ESTYN, which further enhances her role as a BDM. She loves cooking, fashion, and walking the coastal path with her dogs. Living on the Lleyn Peninsula, Eryl works with centres across North and Mid Wales and plays a leading role in qualification reform and working within schools.

Sam Hopkins
Sam Hopkins has 20 years of experience in education, primarily in Adult Community Education. She is an experienced Digital Literacy assessor and a qualified IQA, passionate about lifelong learning. Sam loves attending learner award ceremonies and talking to learners who have achieved more than they ever imagined possible. Most of her spare time is taken up with football activities, including being an active committee member and volunteering for local groups, such as being a Torfaen Litter Champion! Any other spare time Sam has is spent gardening and walking her dogs. She currently works with centres and prospective centres in the South East Wales region and is keen to help you make the most of your Agored Cymru provision.

Frances Lee
Frances has 19 years of experience in education, primarily in secondary education and post-16 learning. She is experienced in curriculum development, with a background that includes working as a police trainer. Frances is passionate about providing expert knowledge in curriculum design and tailoring provision to meet both learner and organisational needs. She enjoys reading popular fiction focused on moral dilemmas and taboo themes, and exploring ancestry and genealogy. As a Bilingual Business Development Manager for Agored Cymru, Frances works with over 125 centres across South, Mid, and West Wales, supporting a diverse range of institutions including schools, prisons, health boards, and third sector organisations.
%20(2).png)
Listen to our Podcast...
Dive into the future of education with "Will This Be in the Test?" where we explore how technology, policy, and societal changes are shaping learning. Don’t miss out on insightful conversations and inspiring stories!
Stay Connected
We invite you to explore our offerings and see how Agored Cymru can support your educational goals. For more information on our qualifications and services, please visit our website or contact your dedicated Business Development Manager.
Together, we can empower learners to achieve their potential and contribute to a strong, vibrant Wales.
Prentisiaethau
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu cymwysterau sy’n ateb gofynion y fframweithiau prentisiaethau perthnasol yn ogystal ag anghenion cyflogwyr ledled Cymru.
Mae cymwysterau y gellir eu defnyddio ar gyfer prentisiaethau yn cael eu cymeradwyo gan y cyngor sector sgiliau perthnasol. Maent yn cael eu cysylltu â’i safonau galwedigaethol cenedlaethol. Mae pob cymhwyster yn ateb gofynion maint ac yn pennu nifer y credydau sy'n gysylltiedig â chymhwysedd a gwybodaeth a chyfanswm yr oriau dysgu y mae’n rhaid eu cwblhau i gyflawni’r fframwaith.
Pecyn Prentisiaethau Agored Cymru
Rydym yn darparu’r pecyn cyflawn o gymwysterau prentisiaeth, sy’n golygu ein bod ni’n bartner perffaith i ddarparwyr sy’n gobeithio symleiddio eu gwaith o weinyddu eu Prentisiaethau drwy weithio gydag un Corff Dyfarnu ymroddedig.
Cymwysterau Prentisiaeth o Safon Uchel
Rydym wedi datblygu cyfres o gymwysterau sy’n bodloni gofynion dros 30 o Fframweithiau Prentisiaeth, ar draws amryw o sectorau.
-1.png)
Beth yw'r Cymwysterau?
Sgiliau Hanfodol Cymhwyso Rhif
Mae Sgiliau Hanfodol Cymhwyso Rhif yn canolbwyntio ar sgiliau yn y meysydd canlynol:
- Deall Data Rhifol
- Gwneud Cyfrifiadau
- Dehongli a Chyflwyno Canlyniadau a Chanfyddiadau
Mae pob un o'r cymwysterau wedi'u mapio i Safonau Sgiliau Hanfodol Cymru. Dylid rhoi asesiad cychwynnol a diagnostig i ddysgwyr ar eu sgiliau cyfathrebu, llythrennedd digidol a defnyddio rhif gan ddefnyddio Pecyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru i sefydlu ar ba lefel y maent yn gweithio.

Sgiliau Hanfodol Cyfathrebu
Mae Cyfathrebu Hanfodol yn canolbwyntio ar sgiliau yn y meysydd canlynol:
- Siarad a Gwrando
- Darllen
- Ysgrifennu
Mae pob un o'r cymwysterau wedi'u mapio i Safonau Sgiliau Hanfodol Cymru. Dylid rhoi asesiad cychwynnol a diagnostig i ddysgwyr i sefydlu ar ba lefel y maent yn gweithio.

Sgiliau Hanfodol Llythrennedd Digidol
Mae Llythrennedd Digidol Hanfodol yn golygu gwybodaeth, sgiliau, agweddau ac ymddygiad o ran defnyddio dyfeisiadau digidol.
Mae Llythrennedd Digidol Hanfodol yn cynnwys pump o elfennau o Fynediad 1 - Lefel 3
- Cyfrifoldeb Digidol - gwybod sut i gadw'n ddiogel a gweithredu'n briodol ar-lein
- Cynhyrchiant Digidol - gwybod pa dechnolegau, arfau a dulliau i'w defnyddio a sut i drefnu, rhannu ac amddiffyn gwybodaeth ddigidol
- Llythrennedd ym maes Gwybodaeth Ddigidol - gallu canfod, gwerthuso'n feirniadol a defnyddio gwybodaeth ddigidol yn ddiogel
- Cydweithredu Digidol - rhannu gwybodaeth a chydweithredu ag eraill i gwblhau tasgau a datrys problemau
- Creadigrwydd digidol - gallu defnyddio cyfryngau digidol i gwblhau tasgau, cynhyrchu cynnwys a datblygu cyfleoedd
Er mwyn ennill y cymhwyster Sgiliau Hanfodol Llythrennedd Digidol, rhaid i ddysgwyr ddangos eu sgiliau mewn tasg dan reolaeth sy'n cynnwys trafodaeth strwythuredig.
Mae'r tasgau dan reolaeth yn cael eu gosod ymlaen llaw ac ar gael mewn amrywiaeth o gyd-destunau. Mae cyfle i ganolfannau greu eu tasgau dan reolaeth eu hunain, yn enwedig ar gyfer dysgwyr sy'n gweithio mewn diwydiant neu sector penodol.

Sgiliau Hanfodol Cyflogadwyedd
Mae Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol yn set o ymddygiadau cymdeithasol a sgiliau y gellir eu hennill ac yr ystyrir eu bod yn berthnasol i berfformio ym mhob rôl gyflogaeth. Mae'r sgiliau hyn yn helpu gweithwyr ryngweithio a gweithio gydag eraill mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd ac maent yn drosglwyddadwy, nid yn unig rhwng gwahanol rolau mewn sefydliad, ond ar draws gwahanol sectorau cyflogaeth. Nid yw sgiliau cyflogadwyedd yn cynnwys sgiliau technegol na chymwysterau gofynnol i ymgymryd â rolau arbenigol penodol.
Mae'r cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cyflogadwyedd Mynediad 3 i Lefel 3 yn cynnwys pedwar prif faes pwnc:
- Cynllunio a Threfnu
- Creadigrwydd ac Arloesi
- Meddwl Beirniadol a Datrys Problemau
- Effeithiolrwydd Personol
Er mwyn ennill y cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cyflogadwyedd, rhaid i ddysgwyr ddangos eu sgiliau mewn tasg dan reolaeth a thrafodaeth strwythuredig.




Cymwysterau Digidol
Mae Agored Cymru yn gweithio gyda sefydliadau sy’n arwain y sector ac arbenigwyr o fewn y sector TGCh / Digidol i ddatblygu cymwysterau arloesol ac arbenigol. Gydag ystod mor gynhwysfawr ac yr unig gorff dyfarnu yng Nghymru sy’n cynnig llawer o’r cymwysterau hyn, mae Agored Cymru yn flaenllaw yn y sector hwn sy’n datblygu’n barhaus.
Gweler detholiad o'r cymwysterau a gynigiwn isod – mae'r holl gymwysterau hyn yn rhan o Fframwaith Prentisiaeth:
Eisiau gwybod mwy am ein hystod lawn o Gymwysterau Digidol?
.png)
Mae’r cymwysterau hyn yn datblygu dealltwriaeth o bwysigrwydd canolbwyntio ar ddefnyddwyr wrth ddylunio systemau a gwasanaethau digidol. Mae’n edrych ar y prosesau sy’n llywio’r gwaith o ddylunio, ailddylunio a diweddaru cynhyrchion a gwasanaethau sy’n galluogi defnyddwyr i gymryd rhan lawn i gyflawni eu nodau gyda phrofiad defnyddiwr cadarnhaol.
Mae’r cymwysterau hyn yn rhoi sgiliau a gwybodaeth i ymgeiswyr ymgymryd â rôl ‘arbenigwr pwnc’ ar gyfer sgiliau defnyddwyr TG yn eu gweithle.
Cyfleoedd Datblygu
✅ Gall Lefel 2 symud ymlaen i lefel 3 Dylunio sy’n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr
✅ Gall Lefel 3 symud ymlaen i lefel 4 Dylunio sy’n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr
✅ Gall Lefel 4 symud ymlaen i raglen gradd-brentisiaeth.
Mewn Dylunio sy’n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr, mae’r timau dylunio yn cynnwys defnyddwyr trwy gydol y broses i ddatblygu mewnwelediadau Profiad Defnyddwyr (UX) sy’n llywio dylunio rhyngweithio, dylunio cynnwys a dylunio gwasanaethau gan ddefnyddio dulliau dylunio cynhwysol a hygyrch.
Lefel 2 |
Ar lefel 2, mae’r cymhwyster yn cyflwyno’r dysgwr i’w wybodaeth am nodweddion dylunio sy’n gwella UX ac yn datblygu ymwybyddiaeth o’r angen ar gyfer Dylunio sy’n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr, a sgiliau cysylltiedig ar gyfer cymryd rhan ym mhroses Dylunio sy’n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr.
Lefel 3 |
Ar lefel 3, bydd gofyn i’r dysgwr ddadansoddi canfyddiadau ymchwil, cynnal dylunio UX, creu cynnwys ar gyfer cynhyrchion a gwasanaethau digidol a chynnal aseiniadau dylunio gwasanaeth.
Lefel 4 |
Ar lefel 4, mae gweithgareddau dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr yn cynnwys meithrin gallu, gwybodaeth, talent ac arbenigedd o fewn y tîm sy’n cyflwyno gweithgareddau Dylunio sy’n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr, gan gynnwys arbenigo mewn un maes a chynnal prosiect cymhwysol i gefnogi dysgu trwy brofiad.

%20(2).png)
Rheoli Ynni a Charbon
Bydd ein cymhwyster arloesol ‘sero net’ yn helpu Cymru i gyrraedd ei thargedau carbon niwtral a hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr busnes cynaliadwy.
Yn 2023 fe wnaethom greu Diploma Lefel 3 mewn Rheoli Ynni a Charbon, cymhwyster sy’n canolbwyntio ar ddatblygu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i ddadansoddi systemau a phrosesau sy’n ymwneud â defnyddio ynni ac allyriadau carbon o fewn sefydliad.
Mae’r cymhwyster hwn yn rhan o’r fframwaith prentisiaeth Rheoli Ynni.
.png?width=540&height=540&name=Polaroid%20(14).png)
“Mae llawer o waith wedi’i wneud i wneud hwn yn gymhwyster sy’n addas ar gyfer y dyfodol a all dyfu o ystyried datblygiadau mewn technoleg ac yn unol â chynlluniau sero net Llywodraeth Cymru, gan edrych i bob pwrpas i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y genhedlaeth hon a chenedlaethau'r dyfodol.”
Mae Diploma Lefel 3 Agored Cymru mewn Rheoli Ynni a Charbon yn edrych ar y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i reoli’r defnydd o ynni ac allyriadau carbon mewn sefydliad. Mae hefyd yn ystyried cynaliadwyedd yr holl adnoddau gan gynnwys dŵr a rheoli gwastraff.
Mae’r cymhwyster hwn yn addas ar gyfer rhywun sy’n gweithio mewn swydd sy’n ymwneud â rheoli ynni, neu debyg, mewn sefydliadau o bob maint a sector. Mae hefyd yn addas i’r rheini sy’n gweithio gyda chyfleusterau a chyllid neu i’r rheini mewn unrhyw swydd arall sydd â chyfrifoldeb dros reoli ynni a charbon yn eu sefydliad eu hunain.
Mae’r cymhwyster hwn yn bodloni’r agenda Cymru Sero Net. Mae hefyd yn ystyried effaith defnyddio ynni ac allyriadau carbon ar yr amgylchedd – yn lleol ac yn fyd-eang.
Cyfleoedd Datblygu
✅ Swydd yn Rheoli Ynni neu Swydd Uwch yn Rheoli Ynni
✅ Ymgynghori ar Sero Net
✅ Iechyd a Diogelwch Amgylcheddol
Sgiliau Cyflogadwyedd
Mae Agored Cymru yn rhoi sgiliau cyflogadwyedd wrth wraidd addysg yng Nghymru.
Fel sefydliad, rydyn ni'n ymfalchïo mewn creu cymwysterau o ansawdd uchel sy’n cael eu harwain gan ddiwydiant, yn ogystal â gwobrwyo llwyddiant. Mae popeth rydyn ni’n ei greu wedi'i lunio i fod o fudd i ddysgwyr yn unigol, yn gymdeithasol ac yn economaidd. Rydyn ni’n credu bod datblygu’r tri maes yma yn gwella sgiliau cyflogadwyedd dysgwyr..
Dyma beth sydd gan ein canolfannau i ddweud...
"Yn ystod blwyddyn academaidd 2022-23, gwelodd Grŵp NPTC welliant rhyfeddol yn y gyfradd cwblhau ar gyfer ein cymwysterau sgiliau yn yr ysgol Diwydiannau Creadigol. Yn y flwyddyn flaenorol, roedd ein cyfradd cwblhau yn yr ystod 20%. Fodd bynnag, trwy ffocws newydd a gweithredu cymwysterau Sgiliau ar gyfer Cyflogaeth gydag Agored Cymru, roeddem yn gallu cynyddu hyn i 77% erbyn diwedd 2023. Mae’r cynnydd hwn yn amlygu ein hymrwymiad ar y cyd ag Agored Cymru i arfogi myfyrwyr â sgiliau cyflogadwyedd gwerthfawr a sicrhau eu bod wedi’u paratoi’n drylwyr ar gyfer y gweithlu."
.png)
Sam Philpot - Grŵp NPTC
Oeddech chi'n gwybod fod Agored Cymru yn cynnig dros 220 o gymwysterau ôl-16?
Rydym yn arloesi’n barhaus i ddiwallu anghenion newidiol addysg Gymraeg, gan sicrhau bod ein cymwysterau’n parhau’n berthnasol a gwerthfawr. Archwiliwch ffyrdd newydd o weithio gyda ni a darganfyddwch fanteision ein harlwy o gymwysterau amrywiol.
Pam Dewis Agored Cymru?
Dal a chynyddu mwy o ddysgwyr trwy...
Hyrwyddo manteision asesu ar sail tystiolaeth rhoi hwb i hyder eich dysgwr drwy hyrwyddo ein llwybrau dysgu fel llwybrau credadwy, i AB ac i swydd anhygoel a gyrfa yn y dyfodol!
Sgiliau Hanfodol Cymru
Mae cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) Agored Cymru yn cefnogi datblygu sgiliau sydd eu hangen ar gyfer addysg, gwaith a bywyd ac maent wedi'u hanelu at y rhai sy'n cael mynediad at ddysgu mewn ystod eang o amgylcheddau y tu allan i ysgol brif ffrwd.
.gif)
Mae gan Agored Cymru dros 30 mlynedd o brofiad o gynnig Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch. Yn y cyfnod hwnnw, rydym wedi creu cyfleoedd sydd wedi newid bywydau ac wedi galluogi miloedd o ddysgwyr i symud ymlaen i Addysg Uwch.
Mae'r diplomâu yn darparu cyfleoedd i ddysgwyr sy'n oedolion ddatblygu'r sgiliau, y wybodaeth a’r hyder sydd eu hangen i symud ymlaen yn llwyddiannus i addysg uwch. Mae ein Diplomâu ar gael mewn amrywiaeth o feysydd pwnc, gan gynnwys iechyd, gwyddoniaeth, cyfrifiadura a’r dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol.
Rydym yn gweithio gyda phob sefydliad Addysg Bellach yng Nghymru i gynnig y Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch.


Mae gennym hefyd lwybr gyrfa enghreifftiol isod, wedi'i gymryd o'n darpariaeth Mynediad i AU sy'n cynyddu'n barhaus. .
Mae hyn yn profi y gall ein dewis ni helpu i agor llwybrau gyrfa i groestoriad ehangach o ddysgwyr nad ydynt efallai fel arfer yn dilyn llwybr addysgol:
.png)
Dysgwch sut y gall darpariaeth Mynediad i Addysg Uwch helpu eich dysgwyr i gyflawni eu nodau gyrfaol yn y dyfodol.
Dewch i gwrdd â’n Rheolwyr Datblygu Busnes
Mae ein Rheolwyr Datblygu Busnes (BDMs) ymroddedig yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi ein canolfannau a sicrhau bod dysgwyr yn cyflawni eu llawn botensial. Dewch i adnabod y gweithwyr proffesiynol angerddol sydd yma i’ch helpu i wneud y gorau o’ch darpariaeth Agored Cymru.

Peter Johnson
Mae gan Peter Johnson dros 20 mlynedd o brofiad yn Agored Cymru, gan gwmpasu amrywiaeth o rolau o gefnogi canolfannau i sicrhau ansawdd a datblygu busnes. Mae’n frwd dros helpu canolfannau i gynnig y ddarpariaeth gywir i’w dysgwyr a gwybod ei fod yn gwneud gwahaniaeth. Yn ei amser hamdden, mae Peter yn mwynhau rhedeg, beicio, archwilio lleoedd newydd, ac mae wrth ei fodd â chynllun llawr da a thywydd cynnes anhymhorol. Mae’n gweithio gyda’r tri BDM arall, gyda chylch gwaith Cymru gyfan ac ehangach, gan sicrhau cefnogaeth gynhwysfawr ar draws pob rhanbarth.

Eryl Ann Parry Jones
Mae gan Eryl dros 25 mlynedd o brofiad ym myd addysg a hyfforddiant, ac mae hi’n frwd dros wneud gwahaniaeth i bobl, hybu’r Gymraeg, a dylanwadu ar newid. Mae Eryl hefyd yn gweithio fel arolygydd llesg i ESTYN, sy’n ehangu ei rôl fel BDM ymhellach. Mae hi wrth ei bodd yn coginio, ffasiwn, a cherdded llwybr yr arfordir gyda’i chŵn. Yn byw ym Mhenrhyn Llŷn, mae Eryl yn gweithio gyda chanolfannau ar draws Gogledd a Chanolbarth Cymru ac yn chwarae rhan flaenllaw mewn diwygio cymwysterau a gweithio mewn ysgolion.

Sam Hopkins
Mae gan Sam Hopkins 20 mlynedd o brofiad mewn addysg, yn bennaf mewn Addysg Oedolion yn y Gymuned. Mae hi’n asesydd Llythrennedd Digidol profiadol ac yn IQA cymwys, sy’n frwd dros ddysgu gydol oes. Mae Sam wrth ei bodd yn mynychu seremonïau gwobrwyo dysgwyr ac yn siarad â dysgwyr sydd wedi cyflawni mwy nag yr oeddent erioed wedi ei ddychmygu. Mae’r rhan fwyaf o’i hamser rhydd yn cael ei dreulio ar weithgareddau pêl-droed, gan gynnwys bod yn aelod gweithgar o’r pwyllgor a gwirfoddoli i grwpiau lleol, fel bod yr Hyrwyddwr Sbwriel Torfaen! Mae unrhyw amser sbâr arall sydd gan Sam yn cael ei dreulio yn garddio ac yn mynd â’i chŵn am dro. Ar hyn o bryd mae hi’n gweithio gyda chanolfannau a darpar ganolfannau yn rhanbarth De-ddwyrain Cymru ac mae’n awyddus i’ch helpu i wneud y gorau o’ch darpariaeth Agored Cymru.

Frances Lee
Mae gan Frances 19 mlynedd o brofiad mewn addysg, yn bennaf mewn addysg uwchradd a dysgu ôl-16. Mae ganddi brofiad o ddatblygu cwricwlwm, gyda chefndir sy’n cynnwys gweithio fel hyfforddwr heddlu. Mae Frances yn frwd dros ddarparu gwybodaeth arbenigol mewn dylunio cwricwlwm a theilwra darpariaeth i fodloni anghenion dysgwyr ac anghenion sefydliadol. Mae hi’n mwynhau darllen ffuglen boblogaidd sy’n canolbwyntio ar gyfyng-gyngor moesol a themâu tabŵ, ac archwilio llinach ac achyddiaeth. Fel Rheolwr Datblygu Busnes Dwyieithog i Agored Cymru, mae Frances yn gweithio gyda dros 125 o ganolfannau ar draws De, Canolbarth a Gorllewin Cymru, gan gefnogi ystod amrywiol o sefydliadau gan gynnwys ysgolion, carchardai, byrddau iechyd, a sefydliadau trydydd sector.
%20(2).png)
Gwrandewch ar ein Podlediad...
Neidiwch mewn i ddyfodol addysg gyda "Will This Be in the Test?" lle rydyn ni'n archwilio sut mae technoleg, polisïau, a newidiadau cymdeithasol yn llunio dysgu. Peidiwch â cholli'r sgyrsiau craff a'r straeon ysbrydoledig!
Cadw mewn Cysylltiad
Rydym yn eich gwahodd i archwilio ein cynigion a gweld sut y gall Agored Cymru gefnogi eich nodau addysgol. I gael rhagor o wybodaeth am ein cymwysterau a’n gwasanaethau, ewch i’n gwefan neu cysylltwch â’ch Rheolwr Datblygu Busnes penodol.
Gyda’n gilydd, gallwn rymuso dysgwyr i gyflawni eu potensial a chyfrannu at Gymru gref, fywiog. .