Cyflwyno a Dyfarnu Cymwysterau

Mae Amod D9 o Amodau Cydnabod Safonol Cymwysterau Cymru yn ymwneud â chymwysterau cyfrwng Cymraeg. Mae’r amod hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer y canlynol:
• argaeledd Cymwysterau a Reoleiddir yn y Gymraeg
• cyhoeddi datganiad polisi cymwysterau cyfrwng Cymraeg
• hyrwyddo a hwyluso argaeledd cymwysterau cyfrwng Cymraeg, a
• sefydlu trefniadau i sicrhau cydymffurfiaeth.
Yn ogystal ag Amod D9, mae gan Agored Cymru ddyletswydd i gydymffurfio ag Amodau eraill sy’n ymwneud â datblygu, cyflwyno a dyfarnu cymwysterau drwy gyfrwng y Gymraeg:
Amod |
|
|
A5 |
Sicrhau'r gallu i ddatblygu, cyflenwi a dyfarnu cymwysterau |
Mae amod A5 yn sicrhau fod gan y corff dyfarnu’r gallu i ddatblygu, cyflwyno a dyfarnu cymwysterau y mae'n eu darparu, neu y mae'n bwriadu eu darparu, mewn ffordd sy’n cydymffurfio â'i Amodau Cydnabod; a chymryd pob cam rhesymol i sicrhau ei fod yn datblygu, yn cyflwyno ac yn dyfarnu'r cymwysterau hynny yn effeithlon. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod gan ei staff y sgiliau dwyieithog i fodloni gofynion y cymwysterau y mae’n eu cynnig. |
E6 |
Cyflwyno cymwysterau i |
Mae Amod E6 yn sicrhau bod gwybodaeth am gymwysterau a gynhwysir ar gronfa ddata QiW yn gywir ac yn gyfredol - gan gynnwys manylion cyfrwng iaith y cymwysterau. |
G2 |
Iaith yr asesiad |
Mae amod G2.1 yn sicrhau y caiff pob Dysgwr sy’n astudio ar gyfer eu cymwysterau yng Nghymru eu hasesu yn Gymraeg a/neu Saesneg. |
Mae amod G2.4 yn sicrhau os bydd corff dyfarnu yn darparu cymhwyster mewn mwy nag un iaith, rhaid iddo gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod asesiadau mewn ieithoedd gwahanol yn sicrhau Lefel Gofynion cyson i Ddysgwyr. |
||
G3 |
Defnydd iaith a deunyddiau ysgogi |
Mae amod G3 yn sicrhau iaith briodol, glir a hawdd ei ddeall a dylai alluogi Dysgwyr i ddangos eu lefel o gyrhaeddiad. |
H2 |
Craffu ar Safonau Asesu Canolfannau |
Mae amod H2 yn sicrhau pan fydd tystiolaeth a gynhyrchwyd gan Ddysgwr mewn asesiad ar gyfer cymhwyster sydd ar gael gan gorff dyfarnu yn cael ei farcio gan Ganolfan, rhaid bod gan y corff dyfarnu drefniadau clir ac effeithiol ar waith i ymgymryd â gwaith Craffu ar Safonau Asesu Canolfannau mewn perthynas â’r asesiad. Mae’r amod hwn yn ei gwneud yn ofynnol i’r corff dyfarnu gynllunio ei weithgareddau CASS ymlaen llaw, gan ddyrannu staff â’r sgiliau priodol gan gynnwys dewis iaith y dysgwr. |
Gall rhai canolfannau y mae Agored Cymru yn gweithio gyda nhw yng Nghymru, er enghraifft Colegau Addysg Bellach, fod yn destun Safonau’r Gymraeg (“Safonau”)1 . Mae’r safonau hyn yn ei gwneud yn ofynnol hysbysu dysgwyr y caniateir i unrhyw waith ysgrifenedig a gyflwynir fel rhan o asesiadau neu arholiadau’r canolfannau hynny gael ei gyflwyno yn Gymraeg, ac na ddylai gwaith a gyflwynir yn Gymraeg gael ei drin yn llai ffafriol na gwaith ysgrifenedig a gyflwynir yn Saesneg.
Fel corff dyfarnu sy’n gweithio gyda chanolfannau sy’n destun Safonau’r Gymraeg, mae’n ofynnol i Agored Cymru roi sylw dyledus i’r ddeddfwriaeth hon a cheisio hwyluso cydymffurfiad canolfan â’r Safonau. O ganlyniad, mae’n ofynnol i Agored Cymru ddarparu mecanwaith i ganolfannau i’w galluogi i roi gwybod iddo am unrhyw ddysgwyr sy’n dymuno dilyn cymhwyster yn y Gymraeg.
1 Safonau 90 a 90A o Reoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 6) 2017 - https://www.legislation.gov.uk/cy/wsi/2017/90/schedule/1/part/1/made

O 1af Medi 2024, mae gan Agored Cymru ddyletswydd reoleiddiol i ddarparu mecanwaith i bob canolfan gofnodi a chyflwyno data ar ddewis iaith Dysgwr. Mae hyn yn ymwneud â phob cymhwyster a phob uned a reoleiddir.
Mae Agored Cymru wedi cynnwys nodweddion ar ei wefan a’i systemau a fydd yn galluogi canolfannau i nodi iaith asesu a ffafrir gan ddysgwyr ar adeg cofrestru ac ar adeg hawlio canlyniadau. O 1af Medi 2024, mae’n ofyniad gorfodol i ganolfannau ddefnyddio’r nodwedd hwn.
Bwriad y canllawiau isod yw cefnogi canolfannau i ddefnyddio’r nodwedd orfodol hwn.
.png)
Dylid ychwanegu colofn ychwanegol at fformat eich ffeiliau cofrestru dysgwyr i gynnwys Iaith Asesu a Ffafrir (PAL) ar gyfer pob dysgwr. Mae’r opsiynau a ddisgwyliwn a’r gwerthoedd a ddefnyddiwn ar gyfer pob un ohonynt wedi’u cynnwys isod, ond gallwch gynnwys pa bynnag werthoedd sydd gennych ar gyfer yr opsiynau hyn cyn belled â’u bod yn cael eu defnyddio’n gyson, gan y byddwn yn eu mapio i’n rhai ni. Er enghraifft, efallai y byddwch chi’n defnyddio Eng, Cym, a Bil, neu E, C, a D.
Mae’n hanfodol eich bod yn rhoi gwybod i ni y tro cyntaf y byddwch yn cyflwyno cofrestriadau dysgwyr gyda’r golofn Iaith Asesu a Ffafrir wedi’i chynnwys, fel ein bod yn gwybod pa golofn i edrych arni, ac fel y gallwn fapio’ch gwerthoedd i’n rhai ni.
ID |
Cod |
Disgrifiad |
1 |
En |
Saesneg |
2 |
Cy |
Cymraeg |
5 |
D/B |
Dwy/Bi |
Wrth ddefnyddio’r dudalen Dyfarniadau Dosbarth Cofnodi Canlyniadau’n Uniongyrchol, byddwch nawr yn gweld y gwymplen Iaith Asesu Gwirioneddol ochr yn ochr â’r tabl Crynodeb Dysgwr ar gyfer y dysgwr a ddewiswyd. Mae’r opsiwn a ddewiswyd yn cael ei gadw bob tro y bydd dysgwr newydd yn cael ei ddewis, neu pan fydd y botwm Cadw ar gyfer nes ymlaen yn cael ei ddefnyddio, yn union fel unrhyw gyflawniadau uned.

![Sgrinlun yn dangos cwymplen yn y golofn Iaith Asesu Gwirioneddol yn y ffurflen hawlio mewn ffurfiau cryno [En] ar gyfer Saesneg, [Cy] ar gyfer Cymraeg, [D/B] ar gyfer Dwy neu Bi. Sgrinlun yn dangos cwymplen yn y golofn Iaith Asesu Gwirioneddol yn y ffurflen hawlio mewn ffurfiau cryno [En] ar gyfer Saesneg, [Cy] ar gyfer Cymraeg, [D/B] ar gyfer Dwy neu Bi.](https://hubspot.agored.cymru/hubfs/AAL4_CYM.png)
Mae’r golofn AAL yn y grid dysgwr yn nodi ar ffurf gryno unrhyw ddewisiadau Iaith Asesu Gwirioneddol sydd eisoes wedi’u cadw.
Nid yw’r Taflenni Hawlio wedi newid, heblaw am ddiweddaru’r label ar gyfer y maes presennol i Iaith Asesu Gwirioneddol.
![Sgrinlun yn dangos y iaith wedi dewis ar wefen Agored Cymru mewn ffurfiau cryno [En] ar gyfer Saesneg, [Cy] ar gyfer Cymraeg, [D/B] ar gyfer Dwy neu Bi. Sgrinlun yn dangos y iaith wedi dewis ar wefen Agored Cymru mewn ffurfiau cryno [En] ar gyfer Saesneg, [Cy] ar gyfer Cymraeg, [D/B] ar gyfer Dwy neu Bi.](https://hubspot.agored.cymru/hubfs/AAL3_CYM.png)

Sianeli Cyfathrebu
Ar gyfer ymholiadau ynghylch asesu, sicrhau ansawdd a dyfarnu pob cymhwyster/uned ac eithrio MAU.
Ar gyfer ymholiadau ynghylch cyflwyno, cymedroli a dyfarnu cymwysterau/unedau MAU.
Ar gyfer ymholiadau ynghylch gweinyddiaeth a sut i gofrestru dysgwyr a chyflwyno hawliadau.
Ar gyfer ymholiadau ynghylch a nodi a datblygu cyfleoedd cwricwlwm newydd a phresennol.
Ar gyfer ymholiadau ynghylch cynnwys, adolygu a datblygu cymwysterau/unedau.