Banking_&_Finance

Banking and Finance Qualifications


Cymwysterau Bancio a Chyllid

Polaroid (2)-1

English

Why is the transfer of the LIBF qualifications happening?

Agored Cymru has taken over the delivery of 14-19 Banking and Finance qualifications from the London Institute of Banking and Finance (LIBF). Following the decision of LIBF to withdraw their schools and college qualifications, Agored Cymru were chosen to continue the legacy of these qualifications in Wales and the wider market.

Agored Cymru is an awarding body based in Wales. Will the qualifications be available outside of Wales?

Yes, Agored Cymru intends to offer the qualifications across both Wales and the wider market.

How will Agored Cymru ensure the quality of the qualifications following the transfer?

We will collaborate with schools/centres to ensure that the qualifications remain fit for purpose. The qualifications will be risk-managed within our CASS strategy to ensure that the qualifications maintain regulatory standards and rigor. Agored Cymru will ensure that the qualifications are manageable, engaging, reliable and valid.

What will change in the qualifications after the transfer?

Agored Cymru is using a consultation process to feed into a wider review of the construct of the qualifications and the currency of the assessment content. We do not intend to make any unnecessary changes to the qualifications.

Will the assessment criteria or assessment requirements change?

In most cases, the assessment criteria will remain the same. Some updating of assessment is necessary to ensure the currency and validity of the qualifications.

Will Agored Cymru be using an online portal or learning platform?

Yes, further details will be shared soon.

Will the qualifications be funded in England?

Once the qualification review process is complete, Agored Cymru will seek regulatory approval from its regulators. Once this stage of the process is underway, we will be able to provide a clear indication of the funding situation. Our intention is to ensure that the qualifications are in scope for funding.

Will the qualifications have performance points in England?

We hope to be able to share details as soon as the above steps relating to funding take place.

What if our school/centre is not currently an Agored Cymru approved centre?

If your school/centre was previously approved by LIBF, Agored Cymru will apply a ‘fast track’ centre and qualification approval process to enable you to deliver these qualifications.

Will there be additional costs?

There will be no direct costs for schools/centres approved by LIBF. Agored Cymru aim to provide a cost-neutral transition.

What resources will be available?

Agored Cymru aim to provide the appropriate resources. Further details will be available following the qualification review process.

What support will be available?

Agored Cymru will provide schools/centres with full support including online support, dedicated business development managers, project managers, training sessions and resources.

Will our teaching staff need additional training?

In some cases, teachers/centre staff/exams officers/internal quality assurers etc may require a brief training session on any new resources or administrative processes of Agored Cymru.

How will certificates be issued?

Electronic certificates will be issued for these qualifications. Paper certificates can be made available on request.

What should we communicate to students and parents about the qualifications?

Schools/centres should inform students and parents about the transfer and reassure them of our intentions. Schools may share FAQs and information published on our website.

How will Agored Cymru communicate updates?

We will provide clear and regular updates through email, webinars and our website.

How will centres be kept informed about progress and timelines?

We are committed to keeping centres regularly updated throughout this transition. Our next communication is planned for the end of May, and we will continue to share key information as soon as it becomes available. We also encourage centres to check the Financial Education Hub or contact us directly for the latest updates.

When will the new Agored Cymru financial education qualifications be available for delivery?

We are currently aiming for the first registrations for several qualifications to open as soon as possible (subject to regulatory approval). These include LiFE (Award and Certificate), AiFE, and CeFCCD (Welsh centres only). A second wave of qualifications, such as CeFE, TAF, CeFS, and DipFS, is expected to be available at a later date.

Which qualifications are expected to launch first?

The qualifications we expect to be available for first registrations as part of Phase 1 are:
• Level 1/2 Award in Lessons in Financial Education (LiFE)
• Level 1/2 Certificate in Lessons in Financial Education (LiFE)
• Level 2 Certificate in Financial Capability and Career Development (CeFCCD) – Welsh centres only
• Level 2 Award in Financial Education (AiFE)
These are subject to final regulatory approval.

Can we start preparing to deliver the new qualifications before they’re approved?

Yes. New centres will soon be able to register with Agored Cymru and begin the process of gaining centre approval. This will allow centres to be fully prepared to start delivering the qualifications as soon as they are approved.

Why are some qualifications launching later than others?

Some qualifications, such as CeFE, TAF, CeFS, and DipFS, require a more complex development and regulatory process. As a result, their launch timeline will be longer and are part of Phase 2.

Who can I contact for ongoing questions or concerns?

For more information, contact financequals@agored.cymru

Have a question not answered here?

Drop our team a message by clicking the button below.

Cymraeg

Pam fod y cymwysterau LIBF yn cael eu trosglwyddo?

Mae Agored Cymru wedi cymryd yr awenau wrth gyflwyno cymwysterau Bancio a Chyllid 14-19 gan Sefydliad Bancio a Chyllid Llundain (LIBF). Yn dilyn penderfyniad LIBF i dynnu eu cymwysterau ysgolion a cholegau yn ôl, dewiswyd Agored Cymru i barhau ag etifeddiaeth y cymwysterau hyn yng Nghymru a’r farchnad ehangach.

Mae Agored Cymru yn gorff dyfarnu sydd wedi’i leoli yng Nghymru. A fydd y cymwysterau ar gael y tu allan i Gymru?

Bydd, mae Agored Cymru yn bwriadu cynnig y cymwysterau ar draws Cymru a’r farchnad ehangach.

Sut bydd Agored Cymru yn sicrhau ansawdd y cymwysterau yn dilyn y trosglwyddiad?

Byddwn yn cydweithio ag ysgolion/canolfannau i sicrhau bod y cymwysterau yn parhau i fod yn addas at y diben. Bydd y cymwysterau’n cael eu rheoli o ran risg o fewn ein strategaeth CASS i sicrhau bod y cymwysterau’n cynnal safonau rheoleiddiol a thrylwyredd. Bydd Agored Cymru yn sicrhau bod y cymwysterau’n hylaw, yn ddeniadol, yn ddibynadwy ac yn ddilys.

Beth fydd yn newid yn y cymwysterau ar ôl trosglwyddo?

Mae Agored Cymru yn defnyddio proses ymgynghori i fwydo i mewn i adolygiad ehangach o strwythur y cymwysterau a pha mor gyfredol yw cynnwys yr asesiad. Nid ydym yn bwriadu gwneud unrhyw newidiadau diangen i’r cymwysterau.

A fydd y meini prawf asesu neu ofynion asesu yn newid?

Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd y meini prawf asesu yn aros yr un fath. Mae angen diweddaru rhywfaint ar yr asesu i sicrhau bod y cymwysterau yn gyfredol ac yn ddilys.

A fydd Agored Cymru yn defnyddio porth ar-lein neu lwyfan ddysgu?

Bydd, bydd manylion pellach yn cael eu rhannu’n fuan.

A fydd y cymwysterau yn cael eu hariannu yn Lloegr?

Unwaith y bydd y broses adolygu cymwysterau wedi’i chwblhau, bydd Agored Cymru yn ceisio cymeradwyaeth reoleiddiol gan ei reoleiddwyr. Unwaith y bydd y cam hwn o’r broses wedi dechrau, byddwn yn gallu rhoi syniad clir o’r sefyllfa ariannu. Ein bwriad yw sicrhau bod y cymwysterau o fewn cwmpas ar gyfer eu hariannu.

A fydd gan y cymwysterau bwyntiau perfformiad yn Lloegr?

Gobeithiwn allu rhannu manylion cyn gynted ag y bydd y camau uchod yn ymwneud â chyllid yn cael eu cymryd.

Beth os nad yw ein hysgol/canolfan yn ganolfan gymeradwy Agored Cymru ar hyn o bryd?

Os cafodd eich ysgol/canolfan ei chymeradwyo’n flaenorol gan LIBF, bydd Agored Cymru yn defnyddio’r broses cymeradwyo canolfan a chymeradwyo cymwysterau ‘cyflym’ i’ch galluogi i gyflwyno’r cymwysterau hyn.

A fydd costau ychwanegol?

Ni fydd unrhyw gostau uniongyrchol i ysgolion/canolfannau a gymeradwyir gan LIBF. Nod Agored Cymru yw darparu cyfnod pontio niwtral o ran cost.

Pa adnoddau fydd ar gael?

Nod Agored Cymru yw darparu’r adnoddau priodol. Bydd rhagor o fanylion ar gael yn dilyn y broses adolygu cymwysterau.

Pa gefnogaeth fydd ar gael?

Bydd Agored Cymru yn darparu cefnogaeth lawn i ysgolion/canolfannau gan gynnwys cefnogaeth ar-lein, rheolwyr datblygu busnes ymroddedig, rheolwyr prosiect, sesiynau hyfforddi ac adnoddau.

A fydd angen hyfforddiant ychwanegol ar ein staff addysgu?

Mewn rhai achosion, efallai y bydd angen sesiwn hyfforddi fer ar athrawon/staff y ganolfan/swyddogion arholiadau/swyddogion sicrhau ansawdd mewnol ac ati ar unrhyw adnoddau newydd neu brosesau gweinyddol Agored Cymru.

Sut bydd tystysgrifau’n cael eu cyhoeddi?

Bydd tystysgrifau electronig yn cael eu cyhoeddi ar gyfer y cymwysterau hyn. Gellir darparu tystysgrifau papur ar gais.

Beth ddylem ni ei gyfathrebu i fyfyrwyr a rheini am y cymwysterau?

Dylai ysgolion/canolfannau hysbysu myfyrwyr a rhieni am y trosglwyddiad a rhoi sicrwydd iddynt am ein bwriadau. Gall ysgolion rannu Cwestiynau Cyffredin a gwybodaeth a gyhoeddir ar ein gwefan.

Sut bydd Agored Cymru yn cyfathrebu diweddariadau?

Byddwn yn darparu diweddariadau clir a rheolaidd drwy e-bost, gweminarau a’n gwefan.

Sut bydd canolfannau’n cael gwybod am gynnydd ac amserlenni?

Rydym wedi ymrwymo i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ganolfannau yn rheolaidd drwy gydol y cyfnod pontio hwn. Mae ein cyfathrebiad nesaf wedi’i gynllunio ar gyfer diwedd mis Mai, a byddwn yn parhau i rannu gwybodaeth allweddol cyn gynted ag y bydd ar gael. Rydym hefyd yn annog canolfannau i wirio’r Hwb Addysg Ariannol neu gysylltu â ni’n uniongyrchol i gael y diweddariadau diweddaraf.

Pryd fydd cymwysterau addysg ariannol newydd Agored Cymru ar gael i’w cyflwyno?

Rydym ar hyn o bryd yn anelu at agor y cofrestriadau cyntaf ar gyfer nifer o gymwysterau cyn gynted â phosibl (yn amodol ar gymeradwyaeth reoleiddiol). Mae’r rhain yn cynnwys Gwersi mewn Addysg Ariannol (Dyfarniad a Thystysgrif), Dyfarniad mewn Addysg Ariannol a Thystysgrif mewn Gallu Ariannol a Datblygu Gyrfa (canolfannau Cymreig yn unig). Disgwylir i ail don o gymwysterau, fel Tystysgrif mewn Addysg Ariannol, Dyfarniad Technegol mewn Cyllid, Tystysgrif mewn Astudiaethau Ariannol, a Diploma mewn Astudiaethau Ariannol, fod ar gael yn ddiweddarach.

Pa gymwysterau y disgwylir iddynt gael eu lansio gyntaf?

Y cymwysterau y disgwyliwn iddynt fod ar gael ar gyfer cofrestriadau cyntaf fel rhan o Gam 1 yw:
• Dyfarniad Lefel 1/ 2 Gwersi mewn Addysg Ariannol
• Tystysgrif Lefel 1/ 2 Gwersi mewn Addysg Ariannol
• Tystysgrif Lefel 2 mewn Gallu Ariannol a Datblygu Gyrfa - canolfannau Cymreig yn unig
• Dyfarniad Lefel 2 mewn Addysg Ariannol
Mae’r rhain yn amodol ar gymeradwyaeth reoleiddiol derfynol.

A allwn ni ddechrau paratoi i gyflwyno’r cymwysterau newydd cyn iddynt gael eu cymeradwyo?

Gallwch. Cyn bo hir bydd canolfannau newydd yn gallu cofrestru gydag Agored Cymru a dechrau’r broses o gael cymeradwyaeth canolfan. Bydd hyn yn galluogi canolfannau i fod yn gwbl barod i ddechrau cyflwyno’r cymwysterau cyn gynted ag y cânt eu cymeradwyo.

Pam mae rhai cymwysterau’n cael eu lansio’n hwyrach nag eraill?

Mae rhai cymwysterau, fel Tystysgrif mewn Addysg Ariannol, Dyfarniad Technegol mewn Cyllid, Tystysgrif mewn Astudiaethau Ariannol, a Diploma mewn Astudiaethau Ariannol, yn gofyn am broses ddatblygu a rheoleiddio mwy cymhleth. O ganlyniad, bydd eu hamserlen lansio yn hirach ac yn rhan o Gam 2.

 phwy allai gysylltu ar gyfer cwestiynau neu bryderon parhaus?

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â financequals@agored.cymru

Oes gennych gwestiwn nad yw wedi’i ateb yma?

Anfonwch neges at ein tîm drwy glicio’r botwm isod.