Update: July 2025
As a leading vocational Awarding Body in Wales, we’re delighted to announce that we have gained recognition by Qualifications Wales to design, deliver, and award the FULL SUITE of WAVE 3 bilingual qualifications within the new National 14-16 Curriculum.
We look forward to supporting and collaborating with all providers and learners in Wales in readiness for first delivery in September 2027.
Qualifications for tomorrow's Wales
Agored Cymru will be supporting you every step of the way with the new WAVE 3 14-16 qualifications!
Change can feel daunting, but we’re here to help.
By 2027, Wales will see a fresh suite of qualifications designed to meet the needs of today’s learners.
This site is your go-to hub for updates, resources, and opportunities to get involved as we transition to the new Skills Suite, Foundation, and VCSE qualifications.

Preparing Learners for Life, Work, and Their Future
From September 2027, learners aged 14-16 in Wales will have access to a fresh, inclusive suite of qualifications designed to reflect the needs of the modern world and the goals of the Curriculum for Wales.
These qualifications will provide meaningful learning experiences and support each learner's journey, whether towards further education, employment, or skills for life.
So, what are they?
VCSEs
They introduce learners to specific industries through practical, hands-on learning and assessments.
Animal Care
Built Environment
Business, Accounting and Finance
Creative and Media Production
Engineering
Hair and Beauty
Hospitality and Catering
Motor Vehicle Maintenance
Nature Restoration
Performing Arts (L2 Only)
Public Services
Retail and Customer Service
Sport, Leisure and Recreation
Travel and Tourism
Foundation Qualifications
General Subjects | Work-related Subjects |
Cymraeg | Agriculture, Horticulture and Forestry |
Core Cymraeg | Animal Care |
Expressive Arts | Built Environment |
Humanities | Business, Accounting and Finance |
English | Creative and Media Production, and Technology |
Mathematics and Numeracy | Engineering |
The Sciences | Hair and Beauty |
Digital Technology | Health and Social Care, and Childcare |
Design and Technology | Hospitality and Catering |
Motor Vehicle Maintenance | |
Nature Restoration | |
Public Services | |
Retail and Customer Service | |
Sport, Leisure and Recreation | |
Travel and Tourism |
Skills Suite
Skills for Life
Units like Mental Health and Wellbeing, Home Management, and Community Participation that prepare learners for independent, happy, and healthy lives.
Skills for Work
Topics such as Digital Skills, Customer Service, and Teamwork to build employability and workplace readiness.
The Personal Project
An opportunity for learners to dive deep into a topic they’re passionate about, developing creativity, critical thinking, and problem-solving skills.
The Skills Suite is an integral part of the 14-16 qualifications, providing learners with a broad toolkit of skills for real-world applications. These units are designed to inspire, engage, and prepare young people for the challenges and opportunities that lie ahead.

It's not too late!
Be part of Agored Cymru’s Steering Groups and have your say!
By being part of our Steering Groups, you can have a direct say into how the new 14-16 qualifications will be delivered.
Why Your Feedback Matters:
You can have the opportunity to influence key areas, including qualification structure, content, and assessment methods. Your input will help us ensure these qualifications remain relevant and impactful for learners today.
If you'd like to join one of our Steering Groups to be a part of creating these new qualifications, click the button below to get in touch with our Product Development team.
FAQs
What are the new Made-for-Wales qualifications?
The new Wave 3 Made-for-Wales qualifications are designed to meet the needs of learners aged 14–16 and align with the Curriculum for Wales. These qualifications include VCSEs (Vocational Certificates of Secondary Education), Foundation Qualifications, and the Skills Suite. They aim to provide a balanced, inclusive approach to learning, equipping learners with the skills and knowledge to succeed in education, work, and life.
Why are these qualifications being developed?
These qualifications are being introduced to better align with the four purposes of the Curriculum for Wales, ensuring learners become ambitious, capable learners; enterprising, creative contributors; ethical, informed citizens; and healthy, confident individuals. They reflect the changing needs of learners, communities, and the economy.
What types of qualifications will be offered?
The new suite includes:
- VCSEs: Career- and training-focused qualifications at Level 1 and Level 2.
- Foundation Qualifications:
- General Foundation: Designed for learners who may not be ready to complete traditional Level 2 qualifications.
- Work-Related Foundation: Vocational qualifications are Entry Level and Level 1, providing a precursor to VSCEs.
- Skills Suite: Focused on developing life and work skills, including a Personal Project.
Can learners mix and match qualifications?
Yes! Learners can combine VCSEs, Foundation Qualifications, and Skills Suite units, as well as qualifications from Waves 1 and 2 to create tailored pathways suited to their needs and aspirations. This approach ensures that every learner is given the opportunity to succeed.
How will these qualifications be assessed?
The new qualifications use modernised assessment methods, which may include:
- Practical tasks and projects
- Digital submissions
- Collaborative activities
- Digital exams where appropriate
These approaches ensure assessments are engaging, relevant, and fair.
What types of digital assessments will be available?
Digital assessments will vary by subject and awarding body. Agored Cymru is committed to working with centres and regulators to ensure digital assessments are learner-centred and subject-appropriate, using platforms and systems that enhance accessibility and engagement.
Diweddariad: Gorffennaf 2025
Fel Corff Dyfarnu Galwedigaethol blaenllaw yng Nghymru, rydym wrth ein bodd i gyhoeddi ein bod wedi cael cydnabyddiaeth gan Gymwysterau Cymru i ddylunio, cyflwyno a dyfarnu'r GYFRES LAWN o gymwysterau dwyieithog TON 3 o fewn y Cwricwlwm Cenedlaethol 14-16 newydd.
Edrychwn ymlaen at gefnogi a chydweithio â phob darparwr a dysgwr yng Nghymru yn barod ar gyfer y cyflwyniad cyntaf ym mis Medi 2027.
Cymwysterau ar gyfer Cymru’r dyfodol
Bydd Agored Cymru yn eich cefnogi bob cam o’r ffordd gyda’r cymwysterau newydd 14-16 TON 3!
Gall newid deimlo’n frawychus, ond rydym yma i helpu.
Erbyn 2027, bydd Cymru’n gweld cyfres newydd o gymwysterau wedi’u cynllunio i ddiwallu anghenion dysgwyr heddiw.
Y wefan hon yw eich canolfan ar gyfer diweddariadau, adnoddau a chyfleoedd i gymryd rhan wrth i ni drawsnewid i gymwysterau newydd y Gyfres Sgiliau, cymwysterau Sylfaen a TAAU.

Paratoi Dysgwyr ar gyfer Bywyd, Gwaith a’u Dyfodol
O fis Medi 2027, bydd gan ddysgwr 14-16 oed yng Nghymru fynediad at gyfres newydd a chynhwysol o gymwysterau sydd wedi’u cynllunio i adlewyrchu anghenion y byd modern a nodau Cwricwlwm i Gymru.
Bydd y cymwysterau hyn yn darparu profiadau dysgu ystyrlon ac yn cefnogi taith pob dysgwr, boed tuag at addysg bellach, cyflogaeth, neu sgiliau ar gyfer bywyd.
Felly, beth ydyn nhw?
TAAU
Maent yn cyflwyno dysgwyr i ddiwydiannau penodol trwy ddysgu ymarferol ac asesiadau.
Cymwysterau Sylfaen
Pynciau Cyffredinol | Pynciau sy’n gysylltiedig â Gwaith |
Cymraeg | Adfer Natur |
Core Cymraeg | Adwerthu a Gwasanaethau Cwsmeriaid |
Dylunio a Thechnoleg | Amaethyddiaeth, Garddwriaeth a Choedwigaeth |
Mathemateg a Rhifedd | Busnes, Cyfrifeg a Chyllid |
Saesneg | Cynhyrchu Creadigol a’r Cyfryngau, a Thechnoleg |
Technoleg Ddigidol | Cynnal a Chadw Cerbydau Modur |
Y Celfyddydau Mynegiannol | Chwaraeon a Hamdden |
Y Dyniaethau | Gofal Anifeiliaid |
Y Gwyddorau | Gwallt a Harddwch |
Gwasanaethau Cyhoeddus | |
Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant | |
Lletygarwch ac Arlwyo | |
Peirianneg | |
Teithio a Thwristiaeth | |
Yr Amgylchedd Adeiledig |
Cyfres Sgiliau
Sgiliau Bywyd
Unedau fel Iechyd Meddwl a Lles, Rheoli Cartref, a Chyfranogiad Cymunedol sy’n paratoi dysgwyr ar gyfer bywydau annibynnol, hapus ac iach.
Sgiliau Gwaith
Pynciau fel Sgiliau Digidol, Gwasanaeth Cwsmeriaid, a Gwaith Tîm i feithrin cyflogadwyedd a pharodrwydd ar gyfer y gweithle.
Y Prosiect Personol
Cyfle i ddysgwyr i ymchwilio’n ddwfn i bwnc y maent yn angerddol amdano, gan ddatblygu creadigrwydd, meddwl beirniadol, a sgiliau datrys problemau.
Mae’r Gyfres Sgiliau yn rhan annatod o’r cymwysterau 14-16, gan roi pecyn cymorth eang o sgiliau i ddysgwyr ar gyfer cymwysiadau yn y byd go iawn. Mae’r unedau hyn wedi eu cynllunio i ysbrydoli, ymgysylltu a pharatoi pobl ifanc ar gyfer yr heriau a’r cyfleoedd sydd o’u blaenau.
.png?width=943&name=CYM%20White%20Header%20Text%20(2).png)
Nid yw’n rhy hwyr!
Byddwch yn rhan o Grwpiau Llywio Agored Cymru i ddweud eich dweud!
Drwy fod yn rhan o’n Grwpiau Llywio, gallwch gael llais uniongyrchol ar sut y bydd y cymwysterau 14-16 newydd yn cael eu cyflwyno.
Pam mae eich adborth yn bwysig:
Gallwch gael y cyfle i ddylanwadu ar feysydd allweddol, gan gynnwys strwythur cymwysterau, cynnwys a dulliau asesu. Bydd eich mewnbwn yn ein helpu i sicrhau bod y cymwysterau hyn yn parhau i fod yn berthnasol ac yn effeithiol i ddysgwyr heddiw.
Os hoffech ymuno ag un o’n Grwpiau Llywio i fod yn rhan o greu’r cymwysterau newydd hyn, cliciwch y botwm isod i gysylltu â’n tîm Datblygu Cynnyrch.
FAQs
Beth yw’r cymwysterau newydd Gwnaed i Gymru?
Mae’r cymwysterau Gwnaed i Gymru Ton 3 newydd wedi’u cynllunio i ddiwallu anghenion dysgwyr rhwng 14-16 oed ac maent yn cyd-fynd â Chwricwlwm i Gymru. Mae’r cymwysterau yn cynnwys TAAU (Tystysgrif Alwedigaethol Addysg Uwchradd), Cymwysterau Sylfaen, a’r Gyfres Sgiliau. Eu nod yw darparu dull cytbwys a chynhwysol o ddysgu, gan roi’r sgiliau a’r wybodaeth i ddysgwyr lwyddo mewn addysg, gwaith a bywyd.
Pam mae’r cymwysterau hyn yn cael eu datblygu?
Mae’r cymwysterau hyn yn cael eu cyflwyno i gyd-fynd yn well â phedwar diben Cwricwlwm i Gymru, gan sicrhau bod dysgwyr yn datblygu i fod yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog; cyfranwyr mentrus, creadigol; dinasyddion moesegol, gwybodus; ac unigolion iach, hyderus. Maent yn adlewyrchu anghenion newidiol dysgwyr, cymunedau a’r economi.
Pa fathau o gymwysterau fydd yn cael eu cynnig?
Mae’r gyfres newydd yn cynnwys:
- TAAU: Cymwysterau sy’n canolbwyntio ar yrfa a hyfforddiant ar Lefel 1 a Lefel 2.
- Cymwysterau Sylfaen::
- Sylfaen Cyffredinol: Wedi’i gynllunio ar gyfer dysgwyr nad ydynt efallai’n barod i gwblhau cymwysterau Lefel 2 traddodiadol.
- Sylfaen Cysylltiedig â Gwaith: Mae cymwysterau galwedigaethol yn gymwysterau Lefel Mynediad a Lefel 1, gan ddarparu rhagflaenydd i TAAU.
- Cyfres Sgiliau: Yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau bywyd a gwaith, gan gynnwys Prosiect Personol.
A fydd dysgwyr yn gallu cymysgu cymwysterau?
Bydd! Gall dysgwyr gyfuno cymwysterau TAAU, Cymwysterau Sylfaen, ac unedau’r Gyfres Sgiliau i greu llwybrau wedi’u teilwra sy’n addas i’w hanghenion a’u dyheadau. Mae’r dull hwn yn sicrhau bod pob dysgwr yn cael y cyfle i lwyddo.
Sut fydd y cymwysterau hyn yn cael eu hasesu?
Mae’r cymwysterau newydd yn defnyddio dulliau asesu wedi’u moderneiddio, a all gynnwys:
- Tasgau a phrosiectau ymarferol
- Cyflwyniadau digidol
- Gweithgareddau cydweithredol
- Arholiadau ysgrifenedig traddodiadol lle bo’n briodol
Pa fathau o asesiadau digidol fydd ar gael?
Bydd asesiadau digidol yn amrywio yn ôl pwnc a chorff dyfarnu. Mae Agored Cymru wedi ymrwymo i weithio gyda chanolfannau a rheoleiddwyr i sicrhau bod asesiadau digidol yn canolbwyntio ar y dysgwr ac yn briodol i’r pwnc, gan ddefnyddio llwyfannau a systemau sy’n gwella hygyrchedd ac ymgysylltiad.